Achlysur Briffio ar alwadau Arloesi DU yn cwmpasi: Data o Loerennau yn Niwydiant Bwyd; Optimeiddio Siwgr, Halen, Braster a Ffibr mewn Bwyd; Catalydd Technoleg Amaeth

Bydd yr achlysur yma o ddefnydd i weithwyr proffesiynol sydd yn gweithredu mewn, neu o gwmpas  y sectorau Bwyd, Bio Technoleg, TGCh, Data o Loerennau a Thechnoleg Amaeth.
 
Yn ychwanegol, bydd croeso i fusnesau sydd ddim yn y sectorau hyn sy’n ystyried arallgyfeirio mewn i'r meysydd yma.

Er bod yr achlysur yng Nghaerdydd, mae croeso i gwmnïoedd ac academyddion o rhannau eraill o’r DU.

Bydd Arloesi DU yn cynnal tair cystadleuaeth yn y Maes Dechnoleg yma:-

  • Catalydd Technoleg Amaeth (Cyfanswm o gyllid £75 miliwn): Sefydlwyd y Catalydd Technoleg Amaeth gan Arloesi DU a’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a gwyddorau Biolegol a’r Adran Ddatblygu Rhyngwladol.  Trwy gyfres o alwadau, bydd y Catalydd yn cymhorthi’r gweledigaeth strategol y Llywodraeth yn y DU ar gyfer technoleg amaethyddol, i wneud y DU yn arweinydd byd yn nhechnoleg amaeth, arloesi a chynaliadwyedd. Hefyd, i hybu o’r dechnoleg priodol a chynnyrch newydd i wledydd sy’n datblygu.
     
  • Cystadleuaeth Optimeiddio Cyfansoddi Bwyd: Mae Arloesi DU yn buddsoddi hyd at £10 miliwn i mewn i brosiectau YaD cydweithredol sy’n cyfeirio at leihau lefelau halen, siwgr neu braster mewn bwyd neu codi lefel ffibr dietegol – neu cyfuniadau o’r ffactorau hyn. Dyluniwyd y gystadleuaeth i annog arloesi ar draws y gadwyn bwyd, o’r datblygu’r cynhwysion amrwd i ail feddwl llunio bwyd, gweithgynhyrchu a chyfansoddi’r cynnyrch terfynol, yn sicrhau neu gwella’r cynnwys caloriffig a’r cydbwysedd maethlon.
     
  • Lloerennau i wella systemau Bwyd Amaeth: Bydd Arloesi DU a NERC yn buddsoddi hyd at £3.75 miliwn mewn prosiectau YaD cydweithredol ac astudiaethau dichonoldeb technolegol i hybu arloesi i wella cynhyrchiant systemau Bwyd-Amaeth trwy ddefnyddio technoleg lloerennau tra mynd i afael ar effeithiau amgylcheddol o gynyddu defnydd tir.

Bydd Arloesi DU yn rhyddhau rhagor o fanylion maes o law. https://interact.innovateuk.org

Bydd y manylion cofrestri yn cael eu rhannu gyda Arloesi DU a’r RhTG.

Hwb Gwyddorau Bywyd Caerdydd

Cofrestrwch yma

Share this page

Print this page