Mae’r Clwstwr Datblygu Diodydd wedi cael ei lansio fel rhan o raglen Clystyrau Llywodraeth Cymru. Y nod ydy cefnogi twf drwy gael y diwydiant i gydweithredu a chydweithio. Mae Sector Diodydd Cymru yn cyflogi bron i 2,000 o bobl ac mae’n werth tua £596 miliwn. Mae’n gwneud cyfraniad gwerthfawr at yr economi, mewn rhannau o Gymru wledig yn arbennig. 

Mae Sector Diodydd Cymru yn cynnwys tua 200 o gyflenwyr ledled Cymru. Mae’n sector eang iawn ac mae anghenion y sectorau cynnyrch unigol yn y sector yn wahanol iawn. Ar y cychwyn, ein bwriad oedd dod â’r holl gyflenwyr at eu gilydd mewn un digwyddiad yng nghanolbarth Cymru. Ond, roedd ymatebion i arolwg a chyfarfodydd un-i-un yn awgrymu mai’r dull gorau fyddai rhannu’n ddau gyfarfod: un ar gyfer cyflenwyr alcohol ac un arall ar gyfer cyflenwyr dŵr a diodydd ysgafn.

Felly, hoffen ni eich gwahodd i ddigwyddiad cyntaf y Clwstwr Diodydd Ysgafn a Dŵr ddydd Iau 23 Tachwedd 2017 rhwng 10.00am a 1.00pm, yng Ngwesty'r Metropole, Temple Street, Llandrindod, LD1 5DY.

William Watkins, Rheolwr Gyfarwyddwr Radnor Hills fydd yn agor y digwyddiad. Bydd yn sôn am fusnes Radnor a’i ddatblygiad dros y blynyddoedd. Bydd hefyd yn sôn am yr heriau a’r cyfleoedd a fydd ar gael yn y diwydiant dŵr i’r dyfodol.

Wedyn bydd Anthony Mills o BIC Innovation yn siarad. Mae wedi gweithio yn Seland Newydd gyda busnesau gwin bach a mawr yn Marlborough ac Ynys Wiaheke. Mae hefyd yn gyfarwydd â’r clwstwr llwyddiannus a gafodd ei sefydlu yn ardal Hawkes Bay. Mae gan Anthony brofiad gwych o'r ffordd mae clystyrau’n gweithio a bydd yn sôn am sut y gall cydweithio fod o fudd i bob parti ar gyfer twf yn y dyfodol.

Yn dilyn hynny, bydd Vasco Sanchez Rodrigues o Ysgol Fusnes Caerdydd yn sôn am ddefnyddio’r Prosiect Co-Growth i greu cyfleoedd i gydweithio ar draws y gadwyn gyflenwi diodydd.

Wedyn, bydd Duncan Macaskill yn rhannu gwybodaeth allweddol am y farchnad ac yn sôn am ffyrdd o weithio cyn y bydd Mark Grant yn rhannu’r ymateb a gafwyd o arolygon cyflenwyr a chyfarfodydd un-i-un â chyflenwyr sydd wedi cael eu cynnal hyd yma.

Ar ôl hynny, byddwn yn rhannu’n grwpiau i roi cyfle i chi ddweud beth ydy’ch blaenoriaethau chi ar gyfer y clwstwr ac ymhle, yn eich barn chi, y gallwn gydweithredu yn y dyfodol.

Bydd bwffe ysgafn ar gael ar ôl y digwyddiad i roi cyfle i rwydweithio gyda thîm Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru, y cyflenwyr eraill neu'r siaradwyr gwadd.

Os hoffech chi ddod i’r digwyddiad uchod, a wnewch chi gadarnhau hynny drwy anfon e-bost at 
bwyd-food@levercliff.co.uk , gan gadarnhau pwy fydd yn dod o’ch busnes chi. 

Diolch.