Mae dros 40 o Gwmnïau Bwyd a Diod o Gymru eisoes wedi cofrestru i ddod i sesiwn friffio Amazon ar gyfer Cyflenwyr o Gymru, a gynhelir yn eu Pencadlys yn Holborn, Llundain ddydd Mercher 30 Awst. Bydd cyfle i dros 50 o gynrychiolwyr ddod i ddeall y potensial ar gyfer bwyd a diod ar Amazon a’r ffordd orau i’w busnes gyrraedd y farchnad.

Disgwylir i farchnad ar-lein y DU ar gyfer nwyddau groser (yn cynnwys bwyd a diod) gynyddu 68% erbyn 2021 i £17.6bn, bron 9% o gyfanswm y farchnad yn 2021. Mae gwerthiant eitemau o nwyddau groser ar Amazon wedi cynyddu 30% dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chyfanswm gwerthiant nwyddau groser trwy Amazon gyfan yn cyrraedd £25m yn chwarter cyntaf 2017.

Trefnir y sesiwn undydd yn arbennig fel y gall cyflenwyr drafod a dod i ddeall y llu o gyfleoedd y mae Amazon yn eu cynnig, yn cynnwys Marketplace, Launchpad, Grocery, Pantry a Prime. Bydd cyfle i’r cyflenwyr gyfarfod ag aelodau o’r timau uchod, yn cynnwys prynwyr, trwy’r dydd.

Os hoffech ddod i’r sesiwn friffio hon gan y wefan sy’n cael y mwyaf ond un o ymweliadau yn y byd, gofynnir i chi nodi’ch diddordeb yn bwyd-food@levercliff.co.uk erbyn dydd Mercher 23 Awst 2017.