Mae 8 o bob 10 siopwr yng Nghymru'n credu bod bwyd a diod o Gymru o Ansawdd Gwych, yn Blasu'n Wych ac y bydden nhw wastad yn prynu cynnyrch o Gymru pe bai'r pris yn iawn.
Dyma rai o brif gasgliadau adroddiad newydd gan Fwyd a Diod Cymru ar 'Werth Cymreictod'. Mae'r canfyddiadau eraill yn cynnwys:
- Mae siopwyr y tu allan i Gymru'n credu bod Cymru'n adnabyddus am ansawdd ei bwyd a'i diod a'u bod am gefnogi bwyd a diod o Gymru. Dywedodd 29% y caren nhw weld mwy o fwyd a diod o Gymru yn eu siopau.
- Mae pobl yn fwy tueddol o ddefnyddio'r gair 'naturiol' i ddisgrifio bwyd a diod o Gymru na bwyd a diod o Brydain.
- Mae sgôp aruthrol i gynnyrch o Gymru dyfu ac mae cefnogaeth gref ymhlith siopwyr i fwyd a diod o Gymru. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod brand Cymru yn cydfodoli'n hapus â brand Prydain ac yn ei gyfoethogi.
Hyrwyddo bwyd a diod o Gymru ar lefel genedlaethol a rhyngwladol yw un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac mae nifer cynyddol o frandiau Cymreig yn cael eu cydnabod ledled y byd. Gwelwyd hyn yn nigwyddiad diweddar BlasCymru / TasteWales a ddenodd brynwyr o mor bell â Hong Kong, yr UAE a'r Unol Daleithiau.
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn fawr ei groeso i'r adroddiad. Dywedodd:
"Yn y blynyddoedd diwethaf, mae bwyd a diod o Gymru yn datblygu enw da haeddiannol am fod yn unigryw ac o ansawdd uchel. Yn brawf o hynny y mae'r ffaith bod un deg pedwar cynnyrch o Gymru wedi ennill y statws mawr ei fri - "Enw Bwyd Gwarchodedig".
"Mae gennym darged uchelgeisiol i weld y diwydiant yn cynyddu 30% i £7bn erbyn 2020. Er bod heriau mawr yn ein hwynebu, ac nid y lleiaf o'r rheini yw'n bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd , rwy'n hyderus y gallwn eu trechu o barhau i hyrwyddo natur unigryw ac arbennig ein cynnyrch.
"Mae'r adroddiad yn dangos bod cefnogaeth gref i fwyd a diod o Gymru a bod defnyddio eu "Cymreictod" i gryfhau eu sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn dod â manteision pendant."
Dywedodd Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:
"Testun calondid mawr inni fel Bwrdd y Diwydiant yw bod yr ymchwil yn dangos pwysigrwydd Cymreictod ein cynnyrch ac mae'n cyfiawnhau ein hyder yn ein sector bwyd a diod. Rydym yn falch o'r cynnyrch y mae'n busnesau'n eu cynhyrchu ac mae'r ymchwil hon yn profi bod ein cwsmeriaid yn teimlo'r un ffordd."