Gall cynhyrchwyr bwyd a diod edrych ymlaen at fis o brysurdeb drwy gydol mis Mawrth, wrth iddyn nhw gamu i’r llwyfan mewn dau ddigwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol.

Y cyntaf yw IFE 2017 (digwyddiad Bwyd a Diod Rhyngwladol), sioe fasnach fwyd fwyaf a phwysicaf y DU. Fe’i cynhelir ar 19-22 Mawrth yn ExCeL, Llundain, a’r digwyddiad hwn yw cartref arloesi, gyda thros 1,350 o arddangoswyr o 57 o wledydd yn bresennol, yn dangos miloedd o gynhyrchion bwyd a diod newydd ac arloesol, gan roi cyfle i gwmnïau gysylltu â darpar gwsmeriaid newydd a phrynwyr o bob rhan o’r wlad.

Eleni, bydd stondin Cymru/Wales, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys 25 o gwmnïau’n dangos amrywiaeth eang o gynhyrchion bwyd a diod cyffrous ac arloesol o Gymru gyfan. Bydd y cwmnïau’n amrywio o gwmnïau pobi, caws a llaeth, i ddiodydd, groser a melysion.

Yn dilyn IFE, bydd arbenigwyr y diwydiant, prynwyr cenedlaethol a rhyngwladol, newyddiadurwyr, pwysigion ac arweinwyr y diwydiant yn ymuno â’r cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn nigwyddiad bwyd a diod rhyngwladol cyntaf Cymru.

Cynhelir BlasCymru/TasteWales yng nghyrchfan y Celtic Manor ar 23-24 Mawrth a bydd yn dod â’r diwydiant cyfan dan un to i arddangos y gorau o blith arlwy bwyd a diod cynyddol y genedl.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC yn croesawu pawb i BlasCymru ac yn gwneud nifer o gyhoeddiadau cyffrous mewn perthynas â’r sector bwyd a diod, wrth i hwnnw barhau i dyfu dros y blynyddoedd nesaf:

“Mae gan fwyd a diod o Gymru enw da am ansawdd a rhagoriaeth ym mhedwar ban byd, ac rydym ni’n awyddus i gynorthwyo ein cwmnïau i ddatblygu eu marchnad yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd dod â chynhyrchwyr ac arweinwyr y diwydiant o bob rhan o’r sector at ei gilydd mewn digwyddiadau fel IFE a BlasCymru/TasteWales yn cynnig llwyfan i ni arddangos cryfder, llwyddiant a’n balchder o fwyd a diod o Gymru a bydd yn ein helpu i barhau ar y llwybr cadarnhaol rydym ni arno wrth weithio at gyflawni ein targed o dwf o 30% erbyn 2020.”

Bydd mynychwyr y ddau ddigwyddiad yn cynnwys cynhyrchwyr niche a chrefft fel y Pembrokeshire Beach Food Company a’r cyfanfwyd arbenigol Good Carma Foods ynghyd â ffefrynnau cyfarwydd fel Llaeth y Llan, Halen Môn, Popty Brace’s a Bwyd Cymru Bodnant.

Bydd Jonathan Williams, sylfaenydd y Pembrokeshire Beach Food Company, sy’n cynnig gwymon a bara lawr sydd wedi ennill gwobrau, yn arddangos yn y ddau ddigwyddiad ac mae’n edrych ymlaen at y cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn:

“Mae’n gyffrous cael bod yn rhan o’r ddau ddigwyddiad masnachol proffil uchel hyn gyda chyfle i arddangos y cynhyrchion gwych ac arloesol sydd ar gael yng Nghymru, ac mae hefyd yn gyfle gwych i ddatblygu partneriaethau busnes ac adeiladu llwyddiant. Mae cyfleoedd fel hyn yn brin, gyda chymaint o brynwyr lefel uchel o gwmnïau manwerthu a chyfanwerthu ac rwyf i’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfleoedd a ddaw yn ei sgil.”

Mae BlasCymru’n cynnwys:

  • sesiynau un i un ‘Cwrdd â’r Prynwr’ / partneru rhwng cynhyrchwyr a phrynwyr i greu cysylltiadau newydd ac annog perthynas masnachu newydd;
  • arddangos cynhyrchion bwyd a diod gorau Cymru;
  • cynhadledd o ffigurau blaenllaw yn y diwydiant yn trafod pynciau llosg y diwydiant bwyd a diod;
  • Parth Arloesi, Sgiliau a Busnes, yn cynnig golwg ar yr arloesi a’r datblygiadau sgiliau diweddaraf a’r cymorth busnes sydd ar gael yng Nghymru.

Bydd dros 100 o gynrychiolwyr yn y digwyddiad BlasCymru gan gynnwys prynwyr a chynrychiolwyr fydd yn teithio o’r Unol Daleithiau, Hong Kong a’r Emiradau Arabaidd Unedig, gan gadarnhau lle Cymru ar flaen y gad ym maes cynhyrchu bwyd a diod o ansawdd uchel.