Mae cynhyrchwyr bwyd a diod uchelgeisiol o bob rhan o Gymru’n cael eu hannog i fynychu cynhadledd fydd yn edrych ar arloesi a chyfleoedd ariannu cefnogol, er mwyn ceisio tanio twf o fewn y diwydiant.

Cynhelir y Gynhadledd Arloesi a Buddsoddi Mewn Bwyd ar Gyfer Tyfu, a drefnir gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ac a fydd dan arweiniad gohebydd economaidd BBC Cymru, Sarah Dickins, ar 2 Tachwedd yng Ngwesty’r Marriott, Caerdydd a’r gobaith yw rhoi gwybodaeth amhrisiadwy i fusnesau ar arloesi ac ar y llu o ddewisiadau ariannu a buddsoddi sydd ar gael iddynt. Mae’r digwyddiad hefyd yn cynnig cyfle unigryw i gynhyrchwyr bwyd a diod drefnu ymlaen llaw i gael cyfarfodydd un i un gyda darparwyr cronfeydd a buddsoddwyr.

Mae prif siaradwyr y dydd yn cynnwys Helen Munday, Prif Swyddog Gwyddonol yn y Ffederasiwn Bwyd a Diod a Giles Thorley, Prif Weithredwr Cyllid Cymru. Hefyd yn bresennol bydd cynrychiolwyr o Innovate UK, Business Growth Fund, Kantar, Knowledge Transfer Network, ynghyd â nifer fawr o fanciau’r stryd fawr ac arbenigwyr ariannol eraill.

Sefydlwyd y Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod ynghynt eleni er mwyn helpu tyfu, hyrwyddo a chryfhau’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru wrth iddo geisio cyrraedd targed twf Llywodraeth Cymru o 30% erbyn y flwyddyn 2020. Roedd Andy Richardson, Cadeirydd y Bwrdd a Phennaeth Materion Corfforaethol i Volac, yn awyddus i amlygu pwysigrwydd y digwyddiad i’r diwydiant:

“Mae’n ddiau fod angen mwy o arloesi a buddsoddi yn y diwydiant ac mae’r Bwrdd yn ceisio mynd i’r afael â hyn trwy fynd ati o ddifrif i drafod gydag arbenigwyr arloesi ac ariannol ac annog cymaint o gyfleoedd buddsoddi ag y bo modd. Bydd arloesi’n ganolog i’n llwyddiant i’r dyfodol, ac mae cefnogaeth ariannol a buddsoddi’n allweddol er mwyn sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn berthnasol a chystadleuol ar y llwyfan byd-eang. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n awyddus i dyfu eu busnes bwyd neu ddiod i alw heibio i weld pa ddewisiadau sydd ar gael iddynt.”

Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad bydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Mae’n amlwg fod Cymru yn genedl o gynhyrchwyr bwyd a diod gwych, ac er mwyn adeiladu ar lwyddiannau’r sector mae’n bwysig fod buddsoddiadau’n cael eu defnyddio i hyrwyddo arloesi a thwf. Bydd y digwyddiad hwn yn cael gwared â’r dirgelwch ynghylch rhai o’r agweddau ariannol o ddatblygu busnesau bwyd a diod , gan sicrhau bod cynhyrchwyr yn cael y rhyddid i greu, arloesi a gwthio ffiniau gyda’u cynhyrchion.”

Cynhelir y gynhadledd Arloesi a Buddsoddi Mewn Bwyd ar Gyfer Tyfu ddiwrnod yn unig wedi digwyddiad dathlu Great Taste a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd, fydd yn arddangos rhai o lwyddiannau diweddar cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yng ngwobrau Great Taste eleni.

Dylai unrhyw un sy’n awyddus i fynd i’r gynhadledd e-bostio bwyd-food@bic-innovation.com i gael mwy o wybodaeth.

Share this page

Print this page