Mae dau gwmni o Gymru yn dathlu heddiw ar ôl ennill un o brif wobrau bwyd y DU. Cynhaliwyd y Gwobrau Great Taste, a gyfeirir atynt fel Oscars y byd bwyd, yn Llundain neithiwr. Enillodd Apple County Cider Company wobr y Fforch Aur o Gymru a derbyniodd Tŷ Tanglwyst Dairy wobr fawreddog, sef y Nigel Bardon Heritage Award.

Roedd yr Apple County Cider Company eisoes wedi ennill tair seren gan Great Taste am Vilberie, sef ei Seidr Sych Canolig, ac mae'r cynhyrchwr o Sir Fynwy yn dathlu anrhydedd pellach yn dilyn seremoni  fawreddog neithiwr ynghanol Llundain.

Roedd y perchenogion Ben a Steph Culpin wrth eu bodd yn cael y fath ganmoliaeth,

"Mae hwn yn llwyddiant anhygoel i ni ac yn adlewyrchiad o'r gwaith caled yr ydym wedi'i gyflawni er mwyn cynhyrchu ein cynnyrch ein hunain. Mae'n golygu llawer i ni gael Gwobr Great Taste oherwydd mae'r gystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan y cogyddion gorau, perchenogion bwytai a beirniaid bwyd sy'n angerddol iawn am ansawdd a blas. Roedd llwyddo i gael tair seren yn wych ond nawr rydym wedi ennill y wobr dros Gymru gyfan hefyd - rydym wrth ein bodd!"

Mae'r seidr ysgafn pefriog hwn o un math o afal yn cael ei greu trwy ddefnyddio 100% o'r sudd o afalau Vilberie sy'n chwerwfelys. Roedd carbonadu'r seidr "aeddfed" hwn a lefel y tannin wedi ennill canmoliaeth gan y beirniaid, a oedd hefyd wedi mwynhau'r cydbwysedd rhwng y melys a'r sych a'r "blas glân, croyw a braf."

Enillodd Tŷ Tanglwyst Dairy y Nigel Bardon Heritage Award, yn ogystal ag ennill tair seren am ei Fenyn wedi'i Halltu. Nid hon yw'r anrhydedd gyntaf i Dŷ Tanglwyst, bu'n llwyddiannus yn y gwobrau Great Taste yn y gorffennol gyda'i hufen dwbl a menyn traddodiadol.

Mae gan y fferm deuluol draddodiadol yn y Pîl, ger Pen-y-bont ar Ogwr laethdy modern ac mae'n gweithredu trwy gydol y flwyddyn er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y llaeth mwyaf ffres â'r blas gorau posibl.  Mae'n gwmni gwbl deuluol oherwydd mae'r gwartheg wedi cael eu geni a'u magu ar y fferm.

Dywedodd Rhys Lougher o Dŷ Tanglwyst Dairy,

"Rydym wrth ein bodd i ennill y wobr fawreddog hon yn y Gwobrau Great Taste. Rydym yn falch iawn o'n cynnyrch ac yn angerddol am sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael y cynnyrch o'r ansawdd gorau."

 

Wrth longyfarch Apple County Cider Company a Thŷ Tanglwyst Dairy, dywedodd Rebecca Evans, Aelod y Cynulliad a'r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, fod hyn yn adlewyrchu cryfder y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

"Mae pawb yn gwybod mor uchel yw ansawdd y bwyd a diod o Gymru ac mae'n bwysig bod y sector hwn yn cael ei gydnabod am ei waith. Wrth i'r gwobrau hyn gael eu beirniadu yng Nghymru am y tro cyntaf, cawsom gyfle gwych i arddangos y gorau o’n cynnyrch – ond yn fwy na hynny, mae wedi rhoi sbardun i’n cwmnïau i lwyddo’n well byth yn y dyfodol ac mae’n rhoi’r hygrededd i ni gyflwyno Cymru fel cyrchfan fwyd i’w chymryd o ddifri.

"Rwyf am longyfarch Apple County Cider Company a Thŷ Tanglwyst Dairy yn wresog iawn ar ennill eu gwobrau diweddar a dymuno pob llwyddiant wrth iddynt ddatblygu eu busnesau rhagorol yn y dyfodol."

Yn nodedig iawn eleni, rhoddwyd 174 o Wobrau mawreddog y Great Taste i gynnyrch o Gymru, cafodd 122 o geisiadau 1 seren, 42 o geisiadau 2 seren ac roedd deg yn haeddu ennill 3 seren. Yn y gystadleuaeth eleni cafwyd cynnydd o 25% yn nifer y ceisiadau o Gymru, gan godi o 99 o gwmnïau yn cynnig 374 o gynhyrchion yn 2014 i 143 o gwmnïau yn cynnig 491 o gynhyrchion i'w hystyried ar gyfer 2015.

Mae 19 o gwmnïau’n cynrychioli Cymru ar hyn o bryd yn y Speciality Fine Food Fair yn Llundain, sy'n digwydd ar yr un adeg â Gwobrau'r Great Taste. Y Ffair yw un o ddigwyddiadau masnachu mwyaf y DU ar gyfer y sector ac mae'n denu prynwyr o bob cwr o'r wlad felly mae'n llwyfan allweddol i fusnesau o Gymru i hyrwyddo eu cynnyrch o dan faner Bwyd a Diod Cymru. 

Share this page

Print this page