Mae grŵp o awduron bwyd a theithio amlwg wedi profi taith wahanol ‘ar y lôn’, gan gwrdd â chynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru a gwrando ar eu straeon.
 
Mwynhaodd y criw o Lundain flasau, arogleuon, golygfeydd a synau peth o gynnyrch mwyaf adnabyddus Cymru a hyn oll yng nghanol harddwch godidog y wlad.
 
Yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i hybu ymwybyddiaeth o gynllun Enwau Bwyd Wedi’u Hamddiffyn (PFN) Ewrop ac i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru i gynulleidfa ehangach yn y DU, aeth y daith ddeuddydd â nhw o Fannau Brycheiniog yn y de i Ynys Môn yn y gogledd.
 
Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi cymorth i gynhyrchwyr Cymru â cheisiadau am gefnogaeth ariannol sy’n cael ei ddarparu gan ADAS UK Cyf.
 
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn amddiffyniad cyfreithiol ar draws Ewrop rhag efelychu a chamddefnyddio. Ymhlith aelodau enwog o’r ‘clwb’ arbennig mae Champagne, Ham Parma a Phorc-Peis Melton Mowbray.
 
Y cynnyrch Cymreig cyntaf i gael amddiffyniad PFN oedd Cig Eidion Cymru a dderbyniodd statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) 13 blynedd yn ôl i’w ddilyn flwyddyn yn ddiweddarach gan Gig Oen Cymru.
 
Ar hyn o bryd, ceir nifer o gynhyrchion Cymreig yng ngwahanol gyfnodau yn y broses gwneud cais. Rydym yn optimistaidd y bydd newyddion da drwy’r flwyddyn wrth i ymgeiswyr o Gymru ddysgu am lwyddiant eu hymdrechion.
 
Ymhlith y rhain mae caws Caerffili Traddodiadol Cymreig a Phorc Pedigri Cymru wedi’i fagu’n Draddodiadol y mae ei gais yn cael ei hyrwyddo gan Gymdeithas Moch Pedigri Cymru. Mae’r ddau gynnyrch wedi mynd heibio i’r cyfnod Ymgynghori Cenedlaethol.
 
Yn y cyfamser, mae saith cynnyrch yng nghyfnod cyflwyno’r Undeb Ewropeaidd – rhan ola’r broses gwneud cais: Ham Caerfyrddin, Bara Lawr Cymreig, Eog Gorllewin Cymru wedi’i ddal o Gwrwgl, Sewin Gorllewin Cymru wedi’i ddal o Gwrwgl, Seidr Traddodiadol Cymreig, Gellygwin Traddodiadol Cymreig a Chregyn Gleision Conwy.
 
Mae 6 – 7 o gynhyrchion eraill yng nghyfnodau cychwynnol eu taith i wneud cais am PFN.
 
“Newyddion gwych i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yw’r ffaith bod yna gymaint o geisiadau ar y gweill,” medd Fay Francis, Ymgynghorydd gydag ADAS UK Cyf sy’n helpu cynhyrchwyr gyda’u ceisiadau.
 
“Mae cynhyrchwyr wir yn manteisio ar y cyfle i amddiffyn a hyrwyddo eu cynnyrch drwy ddefnyddio eu priodweddau daearyddol a hanesyddol.
 
“Mae Llywodraeth Cymru’n gefnogol iawn i geisiadau PFN, ond mae’r holl broses yn un hir – gall gymryd tair neu bedair blynedd – heb unrhyw warant y byddwch yn llwyddiannus.”
  
Yn ôl Fay, “Ffordd wych oedd taith yr awduron o ddangos Cymru ar ei gorau. Nid yn unig roedden nhw’n gallu blasu a mwynhau’r cynhyrchion ond fe wnaethon nhw gwrdd â’r bobl y tu ôl i’r cynhyrchion gan glywed eu straeon sy’n rhan annatod o ethos y PFN.”
 
Dechreuodd y daith yn Nistyllfa Penderyn y Cwmni Wisgi Cymreig ar odre mynyddoedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n edrych ar y posibilrwydd o wneud cais am Ddynodiad Daearyddol i Wisgi Cymreig.
 
Yr arhosfa nesa oedd Sir Benfro lle buont yn samplo amrywiaeth o fwyd a diod Gymreig yng Ngwesty’r Druidstone yng Nghas-blaidd cyn dysgu mwy am Datws Cynnar eiconig Sir Benfro – a dderbyniodd statws PGI ym mis Rhagfyr 2013.
 
Yng nghwmni Steve Mathias, agronomegydd i’r brand llysiau ‘Blas y Tir’ a berchenogir gan ffermwyr, cafodd y grŵp gyfle i gael eu dwylo’n ‘fudr’ a chodi eu Tatws Cynnar Sir Benfro eu hunain a gafodd eu gweini wedyn gyda’u pryd o fwyd gyda’r nos.
 
Gorffennwyd y diwrnod cyntaf yng Ngwesty’r Harbwrfeistr yn Aberaeron gyda bwydlen PFN Gymreig wedi’i chreu’n arbennig gan gynnwys cynnyrch Cig Eidion Cymru PGI, Tatws Cynnar Sir Benfro (PGI) a Tharten Siocled Caramel Hallt gyda Halen Môn PDO (Enw Tarddiad Gwarchodedig). 
 
Ar gyfer y diwrnod olaf, dyma nhw’n anelu am Stad arobryn y Rug am daith yng nghwmni perchennog y fferm organig, Yr Arglwydd Newborough, a chinio oedd yn rhoi sylw i Gig Oen Cymru PGI.
 
Daeth y daith i ben yn Ynys Môn gydag ymweliad â Chwmni Halen Môn Cyf y derbyniodd ei ystod Halen Môn o halen y môr Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO) yn gynnar yn 2014. Yna, buont yn dysgu am y broses o droi dŵr o afon Menai yn halen arobryn Halen Môn a gweld Cwt Halen y cwmni sydd newydd ei agor.

Share this page

Print this page