Fe fydd Gwobrau Great Taste, sy’n aml yn cael eu cyfeirio fel “Oscars’ y diwydiant bwyd a diod, yn dod a’u beirniaid i Gymru yn ystod wythnos gyntaf Mehefin, sef y tro cyntaf erioed yn hanes y Gwobrau.
 
Mewn cydweithrediad ac Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru, cynhelir y beirniadu o’r cynnyrch Cymraeg yng Nghaerdydd a fydd yn cynnwys tua 30 o feirniaid a fydd yn blasu ac yn cyd-drafod dros 490 o gynnyrch bwyd a diod o Gymru – tipyn o dasg!

Cymerwch olwg ar gyn enillwyr Great Taste 

Share this page

Print this page