Chef enwog yn arwain ‘Blas o Gymru’

Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn heidio i Lundain wythnos nesaf i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn rhai o siopau mwyaf adnabyddus Llundain.

Bydd y chef a’r perchennog bwytai arobryn Bryn Williams yn arwain ymgyrch ‘Blas o Gymru’ yn Llundain, sy’n rhedeg o ddydd Sadwrn y 27ain Chwefror tan Ddydd Gŵyl Dewi ar ddydd Mawrth y 1af Mawrth. Bydd yr ymgyrch yn rhoi cyfle i rai o brif gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru arddangos y cynhyrchion gwych sydd ar gael i fanwerthwyr fel Fortnum & Mason, John Lewis a Partridges.

Meddai’r Dirprwy Weinidog dros Amaeth a Bwyd, Rebecca Evans, “Mae’n hyfryd gweld ein cynhyrchwyr bwyd a diod yn hyrwyddo Cymru a’u cynhyrchion gwych yn Llundain tros Ddydd Gŵyl Dewi.  Mae ein Rhaglen Datblygu Masnach wedi galluogi’r cynhyrchwyr hyn i gael mynediad at fanwerthwyr yn Llundain, ac fel Llywodraeth rydym yn parhau i gefnogi ein cynhyrchwyr a’u gweld yn llwyddo. Mae cael Bryn yn arwain ymgyrch i hyrwyddo ein cynhyrchion blasus yn Llundain yn arbennig gan fod gennym ddewis mor wych yng Nghymru.

“Bydd cynhyrchwyr o Gymru yn Llundain dros y Sul ac i fyny at Ddydd Gŵyl Dewi yn arddangos eu cynhyrchion amheuthun. Mae’n sector hollbwysig i economi Cymru ac mae’n briodol iawn felly fod bwyd a diod o Gymru yn cael y fath sylw ar ein diwrnod dathlu cenedlaethol.”

Bydd Bryn Williams, a ddechreuodd ei yrfa goginio yn rhai o geginau enwocaf Llundain ac sydd erbyn hyn yn rhedeg ac yn berchen ar ei fwyty ei hun, yn tynnu sylw at fwyd a diod o Gymru trwy fynd i rai o brif siopau Llundain i ganu eu clodydd.

Ag yntau’n frodor o Ogledd Cymru, mae Bryn yn llysgennad gwych i gynnyrch o Gymru ac mae ganddo bron i 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant bwyd coeth, y mae’n ei ddefnyddio yn gyson fel Chef Patron Odette’s yn Primrose Hill, Llundain.

Wrth siarad am fwyd a diod o Gymru, mae Bryn yn esbonio, “Mae gennym beth o’r cynnyrch gorau yn y byd ac mae’n wych gweld cymaint ohono ar gael yn siopau’r ddinas. Wrth dyfu i fyny yng Nghymru dysgais werthfawrogi bwyd a’i darddiad o oedran ifanc iawn. Byddwn yn mynd i saethu a physgota gyda fy nhad a’m hewythr a gweithiais yn ei bopty bara lleol i ddysgu’r grefft. Sylweddolais bryd hynny fod coginio yn ganolog i’m dyfodol. Rwyf yn defnyddio cynnyrch ffres o ansawdd yn fy nghoginio, ac yn amlwg mae unrhyw beth o Gymru all deithio ar y brig yn fy marn i.”

Caiff Dewi Sant, nawddsant Cymru, ei ddathlu ledled y byd ar 1 Mawrth ac mae’n rhan bwysig o dreftadaeth Cymru, fel y mae bwyd a diod, sef un o sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru.  

Share this page

Print this page