Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu un o brif arddangosfeydd bwyd y byd ym Mharis y mis yma (16-20 Hydref 2016). Mae’r Salon International de l’Alimentation (SIAL) yn ffair a gynhelir bob dwy flynedd a datblygodd yn brif ddigwyddiad y diwydiant bwyd – y lle perffaith i ddarganfod tueddiadau bwyd heddiw a chael cip ar arloesiadau yfory.

Bydd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn gofalu am 15 cwmni o Gymru ar draws y sector, oll yn awyddus i archwilio marchnadoedd newydd, cadw cysylltiad â thueddiadau ac arloesiadau a datblygu cysylltiadau â phrynwyr tramor. Bydd gan SIAL dros 7,000 o arddangoswyr o 105 gwlad ac mae’n cael ei ystyried yn llwyfan allweddol ar gyfer y sector bwyd a diod i hyrwyddo eu cynnyrch i brynwyr o bedwar ban byd.

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn bresennol yn y digwyddiad ar ddydd Llun 17 Hydref. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn arwain derbyniad ar stondin Hybu Cig Cymru yn Y Neuadd Gig a bydd cwsmeriaid a phrynwyr presennol ac arfaethedig o bob rhan o’r byd yn bresennol. Bydd hefyd yn cynnig cyfle gwych i flasu’r dewis gwych o fwyd a diod a gynhyrchir yng Nghymru.

Wrth gyfeirio at yr ymweliad â Pharis, dywedodd Lesley Griffiths:

“Gwyddom fod ansawdd bwyd a diod o Gymru yn cymharu â’r gorau yn y byd ac mae angen inni ofalu ei fod yn cael y gydnabyddiaeth haeddiannol. Mae cael presenoldeb mewn digwyddiadau fel SIAL yn cyfrannu at ein huchelgais hirdymor o dyfu’r sector hwn i gyrraedd ein targed gwerthiannau blynyddol o £7 biliwn erbyn y flwyddyn 2020. Gan fod gennym gymaint o gynhyrchion arloesol newydd yn cael eu lansio gan ein cynhyrchwyr, ddylai neb golli’r cyfle i alw heibio stondinau Cymru/Wales yn y neuaddau gwahanol yn y digwyddiad”.

Un cwmni o Gymru a brofodd lwyddiant mewn digwyddiadau masnach ac sy’n gobeithio adeiladu ymhellach ar hynny yn SIAL yw’r cwmni o’r Gogledd Nimbus Foods, sy’n arbenigo mewn cynhwysion, addurniadau a thopinau o ansawdd uchel ar gyfer y sectorau pobi, melysion, pwdinau a byrbrydau.

Meddai Cyfarwyddwr Gwerthiant Bwyd Nimbus Jack Proctor:

“Mae Nimbus yn un o gynhyrchwyr cynhwysion ac addurniadau mwyaf llwyddiannus a blaengar Ewrop ar gyfer y diwydiannau hufen ia, cynhyrchion llaeth, cynnyrch pob, bisgedi a melysion. Rydym wedi tyfu ein busnes allforion ers inni ddechrau arddangos gyda Llywodraeth Cymru ac erbyn hyn mae’n cynrychioli 25% o’n busnes ond yn 2014 nid oedd ond yn 15%. Ar ddiwedd 2016 ac i mewn i 2017 gwelwyd tuedd tuag at gynhwysion â chaenau llachar a disglair fel aur, arian a efydd. Bydd llawer o’r cysyniadau newydd hyn yn cael eu harddangos mewn cynhyrchion pob, melysion a hufen ia.

Hwn fydd ein hail ymddangosiad yn SIAL yn dilyn y sioe lwyddiannus iawn yn 2014 ac rydym yn disgwyl iddi ragori ar ein disgwyliadau unwaith eto. Rydym yn edrych ymlaen at gael y cyfle i gyfarfod â nifer o gleientiaid newydd posib.”

Mae Plas Farm, y prif gwmni iogwrt rhew yng ngwledydd Prydain, yn cynhyrchu nifer o’r iogyrtiau rhew mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, ac mae ganddynt becynnu unigryw a ryseitiau pwrpasol, ac yn cynhyrchu cynhyrchion manwerthu labeli preifat ar gyfer y farchnad Ffrengig. Mae’r iogwrt rhew ‘Froxen’ yn iogwrt braster isel, yn cynnwys llai o siwgr na hufen ia, mae’n cynnwys ffibr ac nid yw ond yn cael ei wneud â chynhwysion naturiol.

Wrth gyfeirio at eu llwyddiant diweddaraf dywedodd y Rheolydd Datblygu Busnes, Rhian Williams:

“Rydym ni yn Plas Farm wrth ein boddau fod ein cynnyrch Coconyt Rhew, sef pwdin rhew di-laeth sy’n cael ei wneud allan o laeth coconyt, wedi cael ei ddewis gan reithgor o arbenigwyr annibynnol i fod yn rhan o Ddetholiad Blaengaredd  SIAL 2016. Fel cwmni, rydym wedi ymrwymo i flaengaredd ac i wneud gwelliannau parhaus i’n cynhyrchion, ac o’r herwydd mae cael cydnabyddiaeth ryngwladol gan SIAL yn wych iawn.”

Mae Radnor Hills, cwmni cynhyrchion dŵr a diodydd meddal teuluol yn y Canolbarth newydd osod eu seithfed linell llenwi poteli ac maent wedi ychwanegu 2 lanwr yn cynhyrchu cynhyrchion yn y prism tetra mewn meintiau llai unigryw sy’n ddelfrydol ar gyfer y sectorau teithio, ysbytai ac ysgolion, a fydd oll yn cael eu dangos am y tro cyntaf yn SIAL.

Mae Radnor Hills yn allforio i Ewrop a sawl gwlad arall yn barod ond mae’r Rheolydd Gwerthu Rhyngwladol Penny Butler yn gweld digwyddiadau masnach yn gyfle arbennig i archwilio posibiliadau busnes newydd ac arddangos cynhyrchion newydd.

“Er bod Radnor yn fusnes teuluol, a’i fod ar ôl 25 mlynedd yn dal yn y fferm lle y cychwynnodd, nid yw mewn unrhyw ffordd yn fusnes bychan, a’r llynedd potelodd y cwmni 129 miliwn litr ac mae ganddo 7 llinell gynhyrchu.

“Mae prynwyr o bob rhan o’r byd yn dod i SIAL, sy’n golygu fod cyfleoedd yno i arddangos ein cynhyrchion o flaen cynulleidfa ryngwladol. I gwmnïau fel ni mae’n gyfle hefyd i gyfarfod yn bersonol â rhai o’n cwsmeriaid ledled y byd a hyrwyddo cynhyrchion hen a newydd ac i amlygu rhagoriaethau pwysig bwyd a diod o Gymru.”

Bydd 15 busnes o Gymru yn bresennol eleni o dan faner Cymru/Wales, yn cyflwyno cynhyrchion yn amrywio o granola di glwten, hufen ia iogwrt, cyffeithiau i sawsiau a phastau Thai.

Cynhelir SIAL ym Mharis, Ffrainc rhwng 16-20 Hydref 2016.

Share this page

Print this page