Heddiw [15 Mawrth] cyhoeddodd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru Ymrwymiad Courtauld newydd 2025. Mae’r cytundeb arloesol, sy’n dod â mudiadau ar draws y system fwyd at ei gilydd, yn apelio am y tro cyntaf i wneud cynhyrchu a defnyddio bwyd a diod yn fwy cynaliadwy i’r dyfodol. Mae’r ymrwymiad yn gosod targedau uchelgeisiol i leihau dwysedd adnoddau diwydiant bwyd a diod gwledydd Prydain gan un rhan o bump, gan arbed £20 biliwn, erbyn 2025.

Gan apelio ar fusnesau bwyd a diod ledled Cymru, mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru wedi galw ar y diwydiant yma yng Nghymru i arwain y ffordd ar yr ymrwymiadau hyn, gan gynnwys mynd i’r afael â gwastraff bwyd a diod, allyriadau nwyon tŷ gwydr a dwysedd dŵr.

Y Bwrdd yw llais y diwydiant yng Nghymru, ac mae’n cynnig cyfeiriad, yn annog rhwydweithio a rhannu gwybodaeth hollbwysig.  Wrth gyfeirio at y cytundeb newydd, dywedodd Andy Richardson, Cadeirydd y Bwrdd:

“Mae arferion busnes cynaliadwy yn hollbwysig i waith y Bwrdd. Mae lleihau gwastraff a lleddfu effaith y diwydiant bwyd a diod ar ein cyfalaf naturiol yn bwysig i ddyfodol hirdymor y diwydiant, a dyna pam y mae’r Bwrdd wedi llofnodi Ymrwymiad Courtauld heddiw sy’n rhoi fframwaith inni ar gyfer cydweithio tuag at gyflawni’r nod honno.

Pwrpas Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yw tyfu, hyrwyddo a gwella enw da diwydiant bwyd a diod Cymru er mwyn cyflawni ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020’.”

Mae cynllun gweithredu Bwyd a Diod Cymru yn targedu twf o 30% yn y diwydiant erbyn y flwyddyn 2020, a bydd y Bwrdd yn gweithio i’w gyflawni trwy:

  • Weithio mewn partneriaeth â Diwydiant a Llywodraeth i ddatblygu marchnadoedd, hyrwyddo twf a diogelu ein hadnoddau naturiol;
  • Datblygu gweithlu medrus a diwydiant blaengar a chanddo gynhyrchion a phrosesau sy’n torri tir newydd;
  • Gweithio o fewn ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
  • Bod yn rhan effeithiol a defnyddiol o’r Diwydiant a Llywodraeth.
  • Gwella canfyddiad pobl o fwyd a diod o Gymru.

Cyhoeddodd elusen effeithlonrwydd ynni gwledydd Prydain, WRAP, ar ran Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig, yr ymrwymiad i leihau effaith amgylcheddol ein bwyd a diod, o’r fferm i’r fforc a thu hwnt. Mae’r llofnodwyr a gyhoeddwyd yn y lansiad yn cynnwys holl brif fanwerthwyr gwledydd Prydain, yn cynrychioli dros 93% o gyfran marchnad gwledydd Prydain yn 2016.

 

Share this page

Print this page