Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod arbenigol yn hwylio ar draws yr Iwerydd yr wythnos hon i chwifio’r faner dros fwyd a diod Cymru yn Sioe Fwyd ‘Summer Fancy Food Show’, Efrog newydd rhwng 28 a 30 Mehefin 2015.
 
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd y cynhyrchwyr yn mynd i’r digwyddiad i chwilio am farchnadoedd newydd ac i gynyddu eu gwerthiant, rhywbeth yr ydym ni wedi ymrwymo i’w gyflawni drwy weithio gyda’r diwydiant i gyflawni’r Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod. 
 
Dywedodd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd “Rydym yn falch iawn o gynnyrch ein diwydiant bwyd a diod yma yng Nghymru.
 
“Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun uchelgeisiol i dyfu’r diwydiant 30% erbyn 2020.  Rhan o’r gwaith yw helpu busnesau bwyd a diod i allforio mwy.  I wneud hynny, rydym yn buddsoddi’n sylweddol yn y diwydiant drwy roi cyfle i fynd i ddigwyddiadau masnach byd-eang er mwyn adnabod y cyfleoedd sydd ar gael yn y fasnach rhyngwladol a thyfu ein busnes hefyd.  
 
“Mae gennym amrywiaeth o gwmnïau a chynhyrchion o Gymru fydd i’w gweld yn y Summer Fancy Food Show yn Efrog Newydd – popeth o fwydydd wedi’u crasu i gawsiau a mel; rydym yn falch o allu dathlu ac arddangos ein cynhyrchion penigamp i farchnad America.”
 
Gŵyl Summer Fancy Food yw’r digwyddiad masnach bwyd arbenigol mwyaf yng  Ngogledd America a’r prif ddigwyddiad arddangos i arloesi yn y diwydiant, sy’n dod â bwydydd arbenigol y cynhyrchwyr, prynwyr ac arweinwyr gorau ynghyd o dan un to.  Bydd y digwyddiad yn cynnwys dros 180,000 o gynhyrchion, 25,000 o brynwyr a 2,500 o arddangoswyr. 
 

Cliciwch yma am manylion llawn ein cynhyrchwyr (Saesneg yn unig)

Share this page

Print this page