Cwmnïau yn cynnal eu taith datblygu masnach gyntaf bwyd a diod i’r Ffindir a Sweden

Mae un ar bymtheg o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i hedfan i’r Ffindir a Sweden er mwyn ceisio datblygu cysylltiadau masnachu newydd ac ehangu yn y  marchnadoedd hyn. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, dirprwyaeth datblygu masnach Bwyd a Diod Cymru yw’r cyntaf i ymweld â Sgandinafia a chanolbwyntio llwyr ar fwyd a diod.

Yn ôl Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog dros Amaeth a Bwyd, mae hwn yn gam pwysig arall i dyfu’r diwydiant yn gynaliadwy,

“Mae ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y farchnad bwyd a diod yng Nghymru yn ddigon hysbys ac rydym wrthi’n gyson yn chwilio am ffyrdd newydd i sicrhau bod ein cynnyrch o ansawdd uchel yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi ledled y byd. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau masnach allweddol lle y caiff cwmnïau gefnogaeth i ymweld â marchnadoedd allweddol ac mae’n gyfle amhrisiadwy i ryngweithio’n uniongyrchol gyda phrynwyr a dosbarthwyr.

“Mae’r ymweliad masnach hwn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar farchnad benodol, i ddeall eu hanghenion, a bydd yn rhoi golwg amhrisiadwy i’r cwmnïau dan sylw ar sut allant deilwra a phecynnu eu cynhyrchion i’r perwyl hwnnw.”

Mae’r 16 cwmni sy’n ymweld â’r Ffindir a Sweden yn amrywio o gwmnïau llaeth a phobi bisgedi i gwmniau cig a bragu.  

Croesodd trosiant Bragdy Mws Piws o Borthmadog £1m yn 2013 ac mae’r sylfaenydd Lawrence Washington yn gweld y daith fasnach hon yn gyfle perffaith i ehangu eu marchnad,

“Mae gwledydd Sgandinafia o ddiddordeb arbennig inni ym Mragdy Mws Piws fel marchnadoedd allforio posib. Mae’r cyfle i gyfarfod â phrynwyr allweddol ac i ddeall sut maen nhw eisiau datblygu eu busnes yn hollbwysig fel y gallwn ymateb i’w hanghenion. Rydw i’n gobeithio hefyd y gallai ein brandio mws fod yn boblogaidd yn y gwledydd hynny.”

Mae Cradocs Savoury Biscuits o Aberhonddu yn gwmni arall sy’n gobeithio elwa o’r daith fel y mae Allie Thomas yn esbonio,

“Cawsom lawer o ymholiadau gan brynwyr o Sgandinafia ac rydym wedi ymateb ac wedi meithrin perthnasoedd cadarnhaol cychwynnol gyda’r prynwyr. Er hynny, nid yw’r gwerthiannau wedi cynyddu fel yr oeddem yn gobeithio ac fe hoffem ddeall pam. Y gobaith yw y bydd y daith fasnach hon yn rhoi’r cyfle inni ddarganfod beth mae angen inni ei wneud i droi’r diddordeb hwn yn bartneriaeth ddosbarthu ehangach o ansawdd.”

Yn ystod yr ymweliad pum niwrnod â Helsinki a Stockholm, sy’n cychwyn ar 21 Medi, bydd y cwmnïau yn cyfarfod darpar brynwyr a dosbarthwyr, ymweld â siopau allweddol ac yn cael cyfle i arddangos eu cynhyrchion.

Mae cwmni surop Clarks yng Nghasnewydd yn arweinydd brand yng ngwledydd Prydain gyda’i surop masarn ac mae’r sylfaenydd Bob Clark yn ei weld yn gyfle perffaith i ehangu,

“Fel cwmni nid ydym yn anghyfarwydd â mynychu ffeiriau masnach o dan faner Bwyd a Diod Cymru, ac agorodd hynny’r drysau i nifer o farchnadoedd newydd. Fodd bynnag, mae’r daith datblygu masnach hon yn mynd â’r profiad hwn i lefel newydd ac mae’n ein galluogi i roi sylw i elfennau allweddol o farchnad fwyd a diod bwysig iawn yn Sgandinafia. Mae’n gyfle gwych i bawb sy’n rhan ohono.”

Mae’r 16 cwmni fel a ganlyn:

  • Brecon Brewing Ltd
  • Calon Wen
  • Cradoc's  Savoury Biscuits
  • Cwmni Caws Caerfyrddin / Carmarthenshire Cheese Company
  • Clarks UK Ltd
  • Cwm Farm Charcuterie Ltd
  • Glamorgan Brewing Company
  • Lizi’s Granola (Good Carb Food)
  • Monty’s Brewery
  • Patchwork Food Company Ltd
  • Purple Moose Brewery Ltd
  • Sims Food Ltd – Samosaco
  • Snowdonia Cheese Company
  • Ultrapharm Ltd
  • Wholebake
  • Wrexham Lager Beer Co Ltd

 

Share this page

Print this page