Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn teithio i Cologne yn Yr Almaen fis nesaf ar gyfer un o brif ffeiriau bwyd a diod y byd. Mae Anuga yn ddigwyddiad tri diwrnod ar gyfer datblygu cyfleoedd allforio newydd yn ogystal â chynnal cysylltiadau masnach presennol gyda phrynwyr o bedwar ban byd.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd 10 cwmni o Gymru yn rhan o ddirprwyaeth Bwyd a Diod Cymru yn y digwyddiad rhwng 7-11 Hydref 2017. Mae’r ffair eilflwydd yn denu dros 160,000 o ymwelwyr o 192 gwlad ac mae’n un o’r llwyfannau masnachu, tarddu a thueddiadau pwysicaf ar gyfer y diwydiant bwyd rhyngwladol.
Bydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn bresennol yn y digwyddiad ar y penwythnos agoriadol ac mae’n credu ei bod yn bwysig fod bwyd a diod o Gymru yn cael ei weld ar lwyfan rhyngwladol,
“Rydym yn arbennig o falch o’r bwyd a diod o ansawdd uchel sydd gennym yma yng Nghymru ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i arddangos ein cynhyrchion arloesol mewn digwyddiadau masnachu byd eang megis Anuga.
“Mae’r gadwyn bwyd a diod yn rhan bwysig o economi Cymru, a chydag ymrwymiad a gwaith caled rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth i dyfu’n gynaliadwy werth y diwydiant yn arwyddocaol erbyn y flwyddyn 2020 – a gwireddu ein gweledigaeth o ddod yn wlad bwyd a diod o wir bwys.”
Bydd nifer o gynhyrchwyr o Gymru yn arddangos eu cynhyrchion, o un o’n prif gwmnïau iogwrt rhew a chwmni dŵr mwynol i gwmni byrbrydau safri a chaws.
Un o’r cynhyrchwyr sy’n gobeithio gwneud argraff yn Anuga yw Radnor Hills, yr arbenigwyr diodydd meddal o’r Canolbarth. Bu Radnor Hills yn creu diodydd ysgafn blasus iawn ers mwy na 25 mlynedd ar eu safle preifat yn Nhrefyclawdd, Powys. Mae eu portffolio o gynhyrchion yn cynnwys unrhyw beth o ddŵr ffynnon i gymysgwyr, diodydd ffrwythau i sudd ffrwythau a chynhyrchion iachus i blant mewn nifer o fformatau plastig, gwydr a tetra.
Mae Radnor Hills hefyd wedi derbyn 1-seren am eu diod Heartsease Farm Strawberry and Mint yng Ngwobrau Great Taste 2017, a gyhoeddwyd y mis diwethaf a byddant yn arddangos y cynnyrch hwn yn Anuga eleni.
Mae’r Rheolwr Sector Teithio, Chris Butler o Radnor Hills yn gweld Anuga yn gyfle gwych i edrych ar farchnadoedd newydd,
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r Almaen a chael presenoldeb yn Anuga. Bydd yn rhoi cyfle gwych inni gyflwyno ein portffolio o gynhyrchion presennol o ddyfroedd ffynnon, diodydd ffrwythau, sudd ffrwythau a chynhyrchion plant i farchnad Yr Almaen ac i gael cyswllt uniongyrchol gyda phrynwyr, dosbarthwyr a chyflenwyr.
“Rydym yn ddiweddar wedi cyflwyno nifer o gynhyrchion blaengar i fynd i’r afael â’r farchnad tueddiadau byrbrydau ar gyfer oedolion a phlant yr ydym yn gynhyrfus iawn yn eu cylch, a mawr obeithiwn y bydd Anuga yn agor y drws i lawer iawn o farchnadoedd newydd.
Cwmni arall o Gymru sy’n gobeithio cael cryn lwyddiant o Anuga yw Vydex Corporation Ltd, arbenigwyr iechyd, maeth ac ychwanegion yng Nghaerdydd.
Erbyn hyn, Vydex, a sefydlwyd yn 1988, yw’r cynhyrchwyr contract annibynnol mwyaf yng ngwledydd Prydain o gynhyrchion ar gyfer marchnadoedd perfformiad chwaraeon, llesiant, rheoli pwysau a dietegol. Mae’r holl gynhyrchion yn cyrraedd yr ansawdd uchaf ac mae gan Vydex nifer o achrediadau byd eang, gan gynnwys Gradd A Consortiwm Manwerthu Prydain, GMP a Fegan.
Gyda’r bwriad o ehangu eu dewis o gynhyrchion ymhellach, bwriedir comisiynu popty protein newydd sbon yn chwarter cyntaf 2018, fydd yn cynhyrchu 1 miliwn o fariau protein, fflapjacs, cwcis a byrbrydau iachus bob wythnos.
Mae Vydex wrthi’n gweithredu strategaeth allforio newydd fel y mae’r Rheolwr Gwerthiant Ewrop Gareth Kear yn esbonio,
“Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru rydym yn awyddus i edrych ar farchnadoedd byd eang eraill. Rydym eisoes wedi sefydlu busnes masnachol newydd yn Yr Iseldiroedd, Sbaen a Gogledd Affrica wedi inni fynychu sioe fasnach ryngwladol FIBO ar gyfer iechyd a ffitrwydd eleni. Rydym yn gweld Anuga yn gyfle rhagorol arall i arddangos ein cynhyrchion bariau protein newydd gerbron y farchnad ryngwladol.”
Bydd cwmni byrbrydau safri Calbee UK yn cyflwyno eu brand allforio cyntaf, ‘Harvest Snaps’ yn Anuga y mis nesaf. Maen nhw’n cynnwys 72% pys gwyrdd, sy’n ffynhonnell protein, yn uchel mewn ffibr, yn cynnwys llai o fraster na chreision tatws arferol, a’r cyfan yn llai na 100 calori y saig. Dywedodd Grant Martin o Calbee,
“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn cyflwyno brand allforio cyntaf Calbee UK, Harvest Snaps. Creision pys pob yw’r rhain, ac maent ar gael mewn tri blas hyfryd – Pinsiad o Halen, Pupur Du a Rhosmari a Paprika. Byddwn yn cyflwyno’r cynhyrchion yn Anuga, gan y’i gwelwn yn ddigwyddiad delfrydol i brofi’r farchnad fyd eang. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn inni, ac rydym yn hyderus y byddant yn boblogaidd gyda chwsmeriaid.”
Lleolir cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru ar stondinau Bwyd a Diod Cymru yn:
Neuadd Bwyd Coeth / Rhyngwladol (Neuadd10.2 – F066-F069); Neuadd Ddiodydd (Neuadd 8.1, D070); Neuadd Laeth (Neuadd 10.1 – G010a).
Cynhelir Anuga yn Cologne, yr Almaen 9-11 Hydref 2017.