Bydd bwydgarwyr o bob cwr o ogledd Cymru a thu hwnt yn anelu am Wledd Conwy yn nes ymlaen y mis yma (28-29 Hydref) ac ochr yn ochr â nhw cynhyrchwyr rhai o gynhyrchion mwyaf eiconig Cymru.
Yn cael sylw arbennig yng Ngwledd Conwy bydd ‘teulu’ cynyddol cynhyrchion o Gymru a ddiogelir o dan gynllun Enwau Bwyd Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd y cynhyrchion amrywiol hyn yn camu i’r sbotolau mewn arddangosfeydd, arddangosiadau a sesiynau blasu wrth i fwyd a diod gael sylw ar ganol y llwyfan ym mhabell fawr EUPFN Llywodraeth Cymru ar ddydd Sadwrn a Sul yr ŵyl flynyddol.
Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, “Mae’n wych gweld yr holl ddewis o gynhyrchion Cymreig sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth gan yr UE ar gynnydd. Dw i am longyfarch pawb sydd wedi llwyddo i sicrhau’r statws arbennig yma a fydd yn diogelu eu cynhyrchion i’r cenedlaethau a ddaw. Dw i’n falch o’n diwydiant bwyd a diod sy’n cael ei gydnabod yn fyd-eang am ei gynhyrchion uchel eu safon.”
Cyflwynwyd cynllun EUPFN ym 1993 i warchod cynhyrchion bwyd a diod ar sail ddaearyddol ac ymhlith y cynhyrchion enwog a warchodir mae Champagne, Ham Parma a Phorc-peis Melton Mowbray, Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.
Ceir tri dynodiad yn y cynllun: Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO), Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Gwarant Arbenigedd Traddodiadol (TSG).
Yr 14 o gynhyrchion PFN Cymreig hyd yn hyn yw: Cig Oen Cymru (PGI), Cig Eidion Cymru (PGI), Tatws Cynnar Sir Benfro (PGI), Halen Môn (PDO), Ham Caerfyrddin (PGI), Cregyn Gleision Conwy (PDO), Gwin Cymru (PDO) Gwin Cymru (PGI), Porc Cymreig Pedigri wedi’i Fagu’n Draddodiadol (TSG), Eog Gorllewin Cymru Wedi’i Ddal o Gwrwgl (PGI), Sewin Gorllewin Cymru Wedi’i Ddal o Gwrwgl (PGI), Bara Lawr Cymru (PDO), Perai Cymreig Traddodiadol (PGI) a Seidr Cymreig Traddodiadol (PGI).
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gefnogi cynhyrchwyr o Gymru i sicrhau statws Enw Bwyd Gwarchodedig a datblygu cyfleoedd cydweithredol i hybu’r ‘teulu’ Cymreig o gynhyrchion bwyd a diod.
Yng Ngwledd Conwy, bydd pabell fawr lle gall pobl ddysgu mwy am y cynllun PFN a blasu a phrynu rhai o gynhyrchion gwarchodedig Cymru.
Bydd Hybu Cig Cymru yn coginio gan ddefnyddio Cig Eidion Cymru (PGI) a Chig Oen Cymru (PGI); bydd Blas y Tir yn codi proffil Tatws Cynnar Sir Benfro (PGI) a bydd ymwelwyr yn gallu samplo a phrynu’r danteithyn lleol eiconig – Cregyn Gleision Conwy (PDO).
Ymhlith stondinwyr eraill bydd Halen Môn (PDO), Porc Cymreig Pedigri wedi’i Fagu’n Draddodiadol (TSG) a Gwin Cymru (PDO/PGI).
Yn ogystal â’r cynhyrchion hynny sydd eisoes wedi’u gwarchod gan y cynllun, rhoddir sylw i sawl cynnyrch arall o Gymru sydd mewn gwahanol gyfnodau o’r broses gwneud cais am statws PFN, gan gynnwys Eirinen Dinbych Dyffryn Clwyd a Chaerffili Traddodiadol Cymreig. Arddangosir y caws yn y digwyddiad gan Ganolfan Bwyd Cymru Bodnant yr enillodd eu Caerffili Cymreig Traddodiadol hwythau dair seren yng Ngwobrau Great Taste 2016.
Eirinen Dinbych Dyffryn Clwyd
Yn dynn ar sodlau cynnal ei gŵyl ei hun ynghynt y mis yma mae Eirinen Dinbych Dyffryn Clwyd sy’n gobeithio sicrhau statws PDO.
Yn cael ei thyfu yn yr ardal ers canrifoedd, bu Eirinen Dinbych yn edwino, gyda llawer o bobl yn camgymryd y coed ffrwythau am Eirinen Fictoria sy’n fwy adnabyddus.
Fodd bynnag, daeth y trobwynt mewn cyfarfod a gynhaliwyd gan grŵp busnes lleol ddeng mlynedd yn ôl ac ers hynny mae nifer y perllannoedd wedi cynyddu o 30 i 50, gyda rhagor yn cael eu darganfod drwy’r adeg a thir yn cael ei roddi ar gyfer perllannoedd newydd.
“Ffrwyth hynod flasus ac amlbwrpas ydy o y gellir ei fwyta’n syth oddi ar y goeden neu ei gynnwys mewn cynhyrchion anhygoel – hufen iâ, siocledi, bara, porc-peis, i enwi dim ond ychydig,” eglura Nia Williams, ysgrifennydd Grŵp Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd, y corff sy’n sbarduno adfywiad yr eirinen. Noddwr y grŵp yw’r pen-cogydd Bryn Williams.
Yn ôl Nia, “Yn fwyfwy rydyn ni’n cael ein galw i adnabod coed wrth i bobl sylweddoli erbyn hyn nad eirinen Fictoria o anghenraid mo’r goeden eirin sydd ganddyn nhw yn eu gerddi ond yn hytrach Eirinen Dinbych.”
“Os bydd Eirinen Dinbych yn derbyn statws PDO, bydd yn rhoi Dyffryn Clwyd cyfan ar y map gan sicrhau dyfodol y ffrwyth. Gallai hefyd fod yn fenter newydd i ffermwyr gan fod y coed yn gallu cael eu tyfu ochr yn ochr â defaid sy’n pori.”
Caerffili Cymreig Traddodiadol
Mae Caerffili Cymreig Traddodiadol yn gobeithio cyn bo hir fod yn 15fed cynnyrch PFN Cymru – ac os bydd yn llwyddiannus, dyma fydd ei chaws cyntaf i dderbyn statws gwarchodedig.
Eisoes yn enw sy’n gyfarwydd ar bob aelwyd, ystyrir Caerffili Cymreig Traddodiadol fel caws ‘brodorol’ Cymru, gyda chyfeiriadau at ei rysáit a’i baratoi yn mynd yn ôl ganrifoedd.
“Yn gysylltiedig â de Cymru yn bennaf, dyma’r unig rysáit gaws sydd wedi goroesi dros yr holl genedlaethau a cheir cofnodion yn sôn am gaws yn cael ei allforio o Gaerdydd i Fryste yn yr 17g a chynhyrchion llaeth yn cael eu hallforio o Forgannwg cyn belled yn ôl â 1552,” medd yr ymgynghorydd caws Cymreig a beirniad caws rhyngwladol, Eurwen Richards.
Caws caled yw Caerffili Cymreig Traddodiadol a wneir yng Nghymru o laeth buchod Cymru. Wedi’i greu i’w fwyta’n ifanc o 10 niwrnod oed, gall gael ei aeddfedu am hyd at 6 mis. Mae iddo wead llyfn, tynn a briwsionllyd, blas mwyn ychydig yn ‘lemonaidd’ ac adflas ffres sy’n para, gan ddatblygu wrth aeddfedu i fod yn amlycach, llawnach ond sy’n dal i fod yn fwyn.
Ar hyn o bryd gyda’r caws wedi cyrraedd y cyfnod ymgynghori â’r Undeb Ewropeaidd – sef cam olaf y broses PFN – mae’n debyg mai Caerffili Cymreig Traddodiadol fydd cynnyrch gwarchodedig nesaf Cymru/y DU.
Yn ôl, Eurwen Richards, “Mae’n hen bryd i gaws Caerffili Cymreig Traddodiadol gael ei gydnabod ac os bydd yn derbyn statws PGI bydd yn gydnabyddiaeth bellach o ansawdd ac amrywiaeth cynnyrch o Gymru.”