Wrth i Sam Warburton a thîm rygbi Cymru baratoi ar gyfer ymgyrch ddiddorol iawn ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae eu cymheiriaid yn y byd coginio yn paratoi eu brwydr ryngwladol eu hunain. 

Dri diwrnod wedi i Gymru chwarae yn erbyn yr Alban yn eu hail gêm yn y bencampwriaeth ar Chwefror 13, mae Tîm Coginio Cymru yn dechrau ar eu hymgyrch i ennill cystadleuaeth Brwydr y Ddraig. 

Bydd cogyddion o Gymru yn cystadlu yn erbyn timau o gogyddion o’r Alban a Lloegr dros dri diwrnod ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru yng Ngholeg Llandrillo, Rhos-on-Sea, Bae Colwyn.

Tra bo Sam Warburton a’i gyd-chwaraewyr yn ymladd yn galed ar y cae rygbi, ni fydd y cogyddion o Gymru sydd wedi’u dewis i gynrychioli Cymru yn dangos llai o ymrwymiad.  Ar wahân i ymdopi â gwres y gegin, bydd gan y cogyddion y pwysau o goginio pryd tri chwrs ar gyfer 85 o bobl ddydd Mawrth, 16 Chwefror. 

Ddydd Mercher, 17 Chwefror, bydd Lloegr yn mynd i’r gegin i gynhyrchu eu pryd tri chwrs hwythau, a’r Alban wedyn ar y dydd Iau.  Bydd prydau a sgiliau coginio y timau yn cael eu hasesu’n ofalus gan banel o feirniaid profiadol rhyngwladol, fydd yn cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Ddraig yng nghinio y Gwobrau yng Ngwesty y Llandudno Bay nos Iau. 

Yn union fel y timau fydd yn cystadlu am gwpan y Chwe Gwlad, mae’n flwyddyn fawr i’w cymheiriaid yn y gegin, sy’n anelu at gyrraedd y Gemau Olympaidd i gogyddion yn yr Almaen ym mis Hydref.  Bydd canlyniad da ym Mrwydr y Ddraig yn golygu y bydd yr enillwyr mewn sefyllfa dda ar gyfer yr her fawr yn Erfurt.

Mae’r newyddion am y tri tîm cenedlaethol o gogyddion yn ymarfer eu bwydlenni ar gyfer y Gemau Olympaidd Coginio yng Ngogledd Cymru yn newyddion gwych i’r rhai sy’n ymddiddori mewn bwyd da, fydd yn cael y cyfle prin i giniawa gyda’r cogyddion dros dri diwrnod y gystadleuaeth. 

Mae’r tocynnau ar gyfer pob cinio Brwydr y Ddraig yn costio £23 neu £21 yr un wrth fwcio y tri, ac maent ar gael gan Sarah Williams, swyddog marchnata Grŵp Llandrillo Menai, Rhif ffôn: 01492 542 322.  Mae’r tocynnau’n mynd yn gyflym, felly mae’n syniad da i archebu’n fuan. 

Bydd Tîm Coginio Cymru yn dechrau gyda maelgi (monkfish) wedi’i lapio mewn ham wedi’i sychu, kiev hadog wedi’i fygu gyda tsili a bara lawr, persli menyn a chwstard mêr esgyrn, betys a chnau ffrengig, mŵs rhuddygl (horseradish) ac afalau wedi’u piclo.  

Y prif gwrs fydd cig oen o Gymru gyda barlys wedi’i dostio a chrystyn cennin teim, tatws a chig oen, llysiau sglein a saws cwrw.   Y pwdin fydd tryffl siocled, mafon a siocled tywyll cnau coco a sunsur, mallow cnau coco, sbwng mafon cynnes gyda mafon eisin, a wafferi caramel. 

Mae bwydlen Tîm Lloegr yn dechrau gyda chregyn bylchog, llysywen wedi’i mygu, bon bon rhuddygl (horseradish)cymysgfa o flodfresych, betys wedi’u piclo, afal a chloron (truffle).

Eu prif gwrs fydd Cig Eidion, purée madarch, madarch ‘hen of the woods’, cynffon ych, nionyn wedi’i biclo, maip a chaws Tunworth. Bydd mŵs siocled sgleiniog i bwdin, mascarpone wedi’i garamaleiddio a theisen mêl gellyg ag almonau sbeislyd, a hufen iâ llefrith almon. 

I orffen y gystadleuaeth, bydd Tîm yr Alban yn dechrau gyda chregyn bylchog Arfordir y Gorllewin, wy ‘Scotch’ hadog wedi’i fygu, ‘Barwheys Cheddar espuma’, blodfresych wedi’u caramaleiddio a jus gras.

Y prif gwrs fydd lwynau cig oen o’r Alban, ystlys sgleiniog sbeislyd, golwyth melys (sweetbread), gnocchi semolina, puree moron a bricyll a saws olewydd du.  Y pwdiwn fydd cremeaux siocled 72%, mŵs caramel, briwsion noisette, jeli Yuzu, hufen ia ffrwchnedd wedi’i dostio a theisen frau hufenog. 

Meddai Arwyn Watkins, llywydd Cymdeithas Goginio Cymru:

“Dyma’r cyfle cyntaf i’r timau ymarfer eu prydau ar gyfer y Gemau Coginio Olympaidd mewn sefyllfa gystadleuol wedi misoedd o gynllunio a pharatoi yn ofalus. Gan fod ein balchder fel cenedl yn y fantol, bydd pwysau mawr ar y cogyddion. 

Mae’n gyfle prin iawn i bobl sy’n mwynhau bwyd da i flasu prydau sydd wedi’u paratoi gan gogyddion gorau Cymru, Lloegr a’r Alban.  Y tro nesaf fydd y tri tîm gyda’i gilydd fydd yn y Gemau Coginio Olympaidd, felly dylai fod yn gystadleuaeth gyffrous a diddorol ac yn gyfle i arddangos y sgiliau coginio sydd yma yng ngwledydd Prydain.”

Bydd yr WICC yn tynnu ynghyd y sgiliau coginio gorau un a’r cynnyrch bwyd a diod sydd gan Gymru i’w gynnig am bedwar diwrnod o gystadlaethau o safon uchel.  Mae’r digwyddiad blasus hwn yn cynnwys cystadlaethau cyffrous ar gyfer cogyddion newydd, cogyddion ifanc a hŷn a staff gweini. 

Bydd disgwyl i oddeutu 300 o gystadleuwyr fod yn bresennol yn WICC. Wedi’i drefnu gan Gymdeithas Coginio Cymru; Bwyd a Diod Cymru, adran o Lywodraeth Cymru sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd a diod, fydd prif noddwr WICC.  

Bydd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd yn bresennol yng nghinio gwobrwyo WICC i longyfarch yr enillwyr.  

Yn ogystal â’r gystadleuaeth Brwydr y Ddraig, bydd WICC hefyd yn cynnal rowndiau terfynol Cystadleuaeth Cogydd Ifanc Cymru a Chystadleuaeth Sgiliau Cymru ar gyfer coginio proffesiynol, ddydd Llun, 15 Chwefror, a rownd derfynol Cogydd Cenedlaethol Cymru ddydd Iau, 18 Chwefror.     

Mae poblogrwydd cynyddol pobi, gweithio gyda siwgr, ac addurno teisenau yn cael ei adlewyrchu yn sioe Teisennau Cymru, gyda disgwyl cystadleuwyr ledled Cymru a Lloegr ar gyfer y sioe. 

Cogyddion o Gymru yn cystadlu yn nghystadleuaeth Brwydr y Ddraig y llynedd.  

Kitchen pass
 
Chef's pass
  
Chef's pass