Mae ugain cwmni bwyd a diod o Gymru yn paratoi i ymweld ag Iwerddon ar ddiwedd y mis i geisio creu mwy o gyfleoedd masnachu. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd ymweliad datblygu masnach Bwyd a Diod Cymru yn rhoi golwg hollbwysig a chyfle i gynhyrchwyr gyfarfod â chysylltiadau masnachol mewn marchnad bwysig a hygyrch i fwyd a diod o Gymru.

Bydd yr ymweliad â Dulyn (29 Chwefror – 2 Mawrth 2016) yn cynnwys taith o nifer o fanwerthwyr, cyflwyniad i’r farchnad yn Iwerddon ynghyd â chyfle i arddangos y cynhyrchion o Gymru i brynwyr manwerthu a gwasanaethau bwyd. Gan fod yr ymweliad yn cyd-ddigwydd â Dydd Gŵyl Ddewi, cynhelir derbyniad yn Llysgenhadaeth Prydain lle y caiff cynnyrch bwyd a diod o ansawdd uchel o Gymru ei weini i fwy na 100 o bartneriaid masnachu a buddsoddi posib a gwesteion.

Wrth gyfeirio at yr ymweliad, dywedodd Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd Llywodraeth Cymru Rebecca Evans,

Mae’r ymweliad masnach hwn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar farchnad benodol a deall eu hanghenion, a bydd yn rhoi golwg amhrisiadwy i’n cwmnïau o sut allant deilwra a phecynnu eu cynhyrchion yn unol â gofynion y farchnad.

Mae gennym uchelgais pendant i dyfu’r diwydiant yng Nghymru 30% i £7 biliwn erbyn y flwyddyn 2020 trwy weithio mewn partneriaeth â’r diwydiant.  Mae ein cefnogaeth barhaus i gynhyrchwyr o Gymru i’w galluogi i fynd ar ymweliadau tramor yn brawf o’n hymrwymiad.

“Rydym wrth ein bodd yn gallu arddangos yn rhyngwladol beth o’r cynnyrch bwyd a diod arbenigol mwyaf cyffrous o Gymru ar ein diwrnod cenedlaethol (Dydd Gŵyl Ddewi). Mae ein henw da am gynhyrchu cynhyrchion blaengar o’r ansawdd uchaf yn dod yn hysbys iawn yma a thu hwnt.”

Mae Iwerddon yn cynnig cyfleoedd rhagorol i gwmnïau bwyd a diod o Gymru gan mai hi yw ail farchnad allforio fwyaf Cymru ac mae’n debyg o ran maint poblogaeth a hygyrchedd, sy’n ei gwneud yn farchnad ddelfrydol i allforwyr tro cyntaf.

Mae Popty Bakery o Fangor yn un cwmni sy’n gobeithio gwneud cysylltiadau ag Iwerddon a’r farchnad allforio fel y mae Marian Williams yn esbonio,

“Rydym yn awyddus i ehangu a dechrau allforio ein cynhyrchion ac mae’r farchnad allforio i Iwerddon yn garreg sarn berffaith i’n helpu i gael peth profiad yn y maes hwn. Mae’n rhoi cyfle arbennig inni gyfarfod â phrynwyr allweddol a chael cyngor ar hyd y daith er mwyn sefydlu cysylltiadau pendant yn Iwerddon i roi hwb i hyder a gwerthiannau.”

Mae Selwyn’s Seafood, cwmni byrbrydau gwymon yn Abertawe eisoes wedi dechrau tyfu’r brand yn Ewrop ac yn y Dwyrain Pell ond maent erbyn hyn yn edrych ar farchnadoedd yn agosach at adref ac mae’r perchennog Ashley Jones yn gweld hwn yn gyfle perffaith,

“Yn Selwyn’s mae ein hysbryd arloesol wedi bod yn ein harwain at ddarganfyddiadau mawr am fwy na 50 mlynedd. Er yr 1990au rydym wedi parhau i dyfu’r busnes ledled Cymru ac i mewn i Ewrop. Aeth ein hanturiaethau diweddaraf â ni i’r Dwyrain Pell lle y darganfyddom fyd hudol gwymon wedi’i rhostio.

“Rydym wrthi’n barhaus yn gweithio ar ac yn datblygu ffyrdd y gallwn ehangu’r brand. Mae’r ymweliad masnach hwn yn ein helpu i ganolbwyntio ar elfennau allweddol marchnad bwyd a diod bwysig iawn yn Iwerddon. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod o hyd i drywyddau a phosibiliadau busnes newydd.”

Share this page

Print this page