Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn edrych i gyfeiriad y Dwyrain Canol am farchnadoedd newydd, wrth iddynt baratoi i ymweld â Gulfood yn Dubai y mis nesaf ar gyfer digwyddiad masnachu  bwyd a diod rhyngwladol allweddol ar gyfer y sector.

Mae disgwyl i Gulfood, a gynhelir yng Nghanolfan Masnach Byd Dubai, ddenu mwy na 5,000 o arddangoswyr a thros 86,000 o ymwelwyr masnach domestig a rhyngwladol o 170 gwlad a miloedd o bobl a chydweithwyr o’r diwydiant yn angerddol am yrru’r farchnad yn ei blaen.

Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu Pafiliwn ‘Bwyd a Diod Cymru’ yn y Neuadd Ryngwladol lle y bydd 16 cwmni o Gymru yn bresennol, a byddant oll yn awyddus i hyrwyddo eu cynnyrch, adnabod cwsmeriaid newydd a chynyddu eu marchnad allforio.

Un cwmni o Gymru sy’n gobeithio ehangu eu marchnad allforio ac adeiladu ar eu llwyddiant o ddigwyddiad y llynedd yw Clarks UK Ltd o Gasnewydd, cynhyrchwyr melysyddion naturiol sy’n gwneud surop gwiniolen, mêl, agafe a surop ffrwyth carob.

Dywedodd sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr Clarks UK  Bob Clark  fod ymweliadau blaenorol wedi bod yn fuddiol iawn,

“Ar ôl bod yn Gulfood y llynedd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gwnaethom nifer o gysylltiadau newydd ac fe ddilynodd y cyfleoedd. Mae un o’r archfarchnadoedd mawr yn yr ardal yn sôn am stocio ein cynhyrchion ac rydym hefyd wedi cyflogi asiant o’r rhanbarth i helpu gyda’n cynlluniau ehangu rhyngwladol.”

Un cwmni sy’n ceisio ennill lle yn y farchnad allforio fyd-eang yw Bridgehead Food Partners o Wrecsam, sy’n arbenigo ar gawsiau gwlad ac arbenigol o Brydain. Mae’r cwmni hefyd yn gweithio gydag ac yn cefnogi nifer o gynhyrchwyr bach a rhanbarthol ac maent yn rheoli eu perthynas gyda’r manwerthwyr.

Mae Bridgehead Food Partners yn lansio brand newydd ‘The Cheese Creators’ yn Gulfood, sy’n ceisio dod â nifer o gynhyrchwyr caws gwlad at ei gilydd o dan un brand cyffredinol. Mae Stad Bodnant yn y Gogledd a Chaws Cenarth yn Sir Benfro yn ddau gwmni cynhyrchu caws sy’n rhan o’r brand newydd hwn.

Dywedodd Cyfarwyddydd Bridgehead Food Partners, Lorraine Beaton “Mae Bridgehead wedi esblygu i fod yn gwmni o bwys yn un o’r categorïau bwyd mwyaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ehangu’n rhyngwladol oherwydd y galw cynyddol am gynhyrchion caws blaengar ac o ansawdd uchel. Rydym ar fin lansio nifer o gynhyrchion cyffrous iawn ar y farchnad gaws fyd-eang a mawr obeithiwn y bydd Gulfood yn agor y drws ar nifer fawr o farchnadoedd newydd.”

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru mae presenoldeb Bwyd a Diod Cymru yn allweddol i ddatblygu’r sector yn ôl y Dirprwy Weinidog ar gyfer Amaeth a Bwyd Rebecca Evans,

“Bydd datblygu marchnadoedd allforio presennol a newydd ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod o Gymru yn hanfodol wrth inni geisio gwireddu ein gweledigaeth i gynyddu ein gwerthiannau 30% yn y sector erbyn y flwyddyn 2020. Gall allforio drawsnewid unrhyw fusnes.

“Gydag ymroddiad a gwaith caled mae cyfle gwirioneddol i dyfu’r diwydiant yn gynaliadwy erbyn 2020, gan wneud Cymru’n genedl bwyd a diod flaenllaw. Rydym yn awyddus i helpu allforwyr newydd a phrofiadol o Gymru i fynychu a llwyddo mewn digwyddiadau allweddol fel Gulfood.”

Mae gan Gulfood, a sefydlwyd dros 25 mlynedd yn ôl, enw da haeddiannol ymhlith allforwyr am gynnig ad-daliad sylweddol iawn ar fuddsoddiadau. Mae Gulfood yn cynnig y cyfle i adnabod a darganfod cynhyrchion unigryw gan gannoedd o gynhyrchwyr arbenigol a mwy na 110 o bafiliynau rhyngwladol. Bydd y cwmnïau bwyd a diod sy’n bresennol yn amrywio o fwydydd arbenigol a choeth i’r dewis ehangaf o fwyd a diod organig.

Cynhelir Gulfood 2016 yn Dubai rhwng 21-25 Chwefror 2016 ac fe fydd 16 cwmni o Gymru yn bresennol ar bafiliwn Bwyd a Diod Cymru.

Share this page

Print this page