Mae rhai o gwmnïau bwyd a diod cyffrous Cymru'n troi am Milan heddiw i chwilio am gyfleoedd allforio newydd.

 

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi proffil Cymru trwy'r byd fel lle da i wneud busnes ynddo, mae'n cefnogi naw o gynhyrchwyr i ymweld â Milan o 24-28 Mehefin.

 

Penderfynwyd trefnu'r daith ar ôl y diddordeb a ddangoswyd gan Eidalwyr yn rhai o'r cynhyrchion hyn yn sioe BlasCymru Llywodraeth Cymru, lle dangoswyd bwyd a diod o Gymru i brynwyr o bedwar ban.

 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

 

“Rydym yn ymfalchïo'n fawr yn ansawdd uchel ein bwyd a'n diod, ac yn cydnabod eu gwerth aruthrol i'n heconomi. Mae bwyd a diod yn sector y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth iddi a dyna pam ein bod wedi gosod targed o 30% o dwf yn y sector erbyn 2020.

"Yn sgil penderfyniad y DU i adael yr UE, mae hi'n bwysicach nawr nag erioed ein bod yn hyrwyddo'r gorau sydd gan y diwydiant bwyd a diod i'w gynnig a phara i greu argraff mewn marchnadoedd tramor. Rwy'n falch iawn ein bod yn cael helpu'r grŵp hwn o gynhyrchwyr i fynd i Milan a dilyn y cysylltiadau cyffrous gafodd eu gwneud â phrynwyr o'r Eidal yn ystod y sioe BlasCymru lwyddiannus."

Mae amrywiaeth o gwmnïau am fynd, gan gynnwys cynhyrchwyr grawnfwydydd, cyffeithiau, te a bwydydd di-alergeddau a chwmnïau bragu.

 

Yr Eidal yw un o'r marchnadoedd mwyaf yn Ewrop am gynnyrch heb glwten a bydd Samosa Co a'r bragwyr cwrw crefft Evan-Evans yn ymuno â'r daith fasnach i hyrwyddo'u hopsiynau di-glwten.

 

Mae'r farchnad organig hefyd yn tyfu yn yr Eidal ac mae'r cwmni o Sir Benfro, Daioni Organic, hefyd yn mynd i Milan i fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r twf hwnnw'n eu cynnig.

 

Bydd Deeside Cereals hefyd yn ymuno â nhw. Mae'r cwmni eisoes wedi allforio ychydig i'r Eidal trwy chwaer gwmni iddo yn Ffrainc, ond y mae nawr yn awyddus i feithrin ei berthynas ei hun â phrynwyr a dosbarthwyr.

 

 

 

Yn ystod y pedwar diwrnod, caiff y cwmnïau gyfle i ddangos eu cynnyrch i ddetholiad o brynwyr a datblygu busnes newydd trwy gyfres o sesiynau briffio i'r farchnad, ymweliadau â siopau a chyfarfodydd/arddangosiadau â phrynwyr.

Share this page

Print this page