Mae pedwar ar ddeg o brif gwmnïau bwyd a diod Cymru yn paratoi eu nwyddau i fod yn rhan o’r ymweliad masnach bwyd a diod cyntaf o Gymru i ymweld â ‘gwlad y ddeilen fasarn’.
Bydd yr ymweliad â Toronto (26-30 Medi), a gefnogir gan Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru, yn rhoi golwg i gynhyrchwyr bwyd a diod, yn amrywio o fragwyr, pobwyr a phroseswyr cig, ar farchnad Canada a chynnig cyfleoedd i gyfarfod â phrynwyr bwyd a diod cenedlaethol o bob rhan o’r wlad.
Ar drothwy’r ymweliad, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AC:
“Mae hwn yn gyfle gwych i’n cynhyrchwyr allu arddangos rhai o’r cynhyrchion mwyaf cyffrous o Gymru tra’n archwilio marchnadoedd newydd a meithrin rhagor o gysylltiadau gyda busnesau rhyngwladol. Mae’r ymweliadau hyn yn rhoi golwg amhrisiadwy i gwmnïau ar sut allant deilwra a phecynnu eu cynhyrchion yn unol â’r gofyn.
“Mae gennym uchelgais pendant yn ein Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod i dyfu’r diwydiant yng Nghymru gan 30% i 7 biliwn erbyn y flwyddyn 2020 trwy weithio mewn partneriaeth â’r diwydiant. Mae’r Cynllun Gweithredu’n gosod sylfaen i’n dyheadau a’n cefnogaeth barhaus i gynhyrchwyr yng Nghymru trwy ein hymrwymiad i ymweliadau tramor pwysig, megis y daith hon i Ganada. Mae gennym fwyd a diod o safon byd ac rydym yn hyderus na fydd marchnad Canada yn cael ei siomi gan ei ansawdd.”
Mae marchnad Canada yn cynnig cyfleoedd ardderchog i gwmnïau bwyd a diod o Gymru. Bydd prynwyr yng Nghanada yn parhau i edrych at wledydd Prydain am gynhyrchion traddodiadol a blaengar, yn enwedig felly ym meysydd bwyta’n iach a ‘rhydd o’, naturiol ac organig, bwydydd cyfleus a byrbrydau - gan gynnwys cynnyrch pob a losin - ynghyd â chwrw a seidr crefft i’w gwerthu (brandiau a label eu hunain) a gweini bwyd.
Mae Samosaco, ym Mhontyclun, yn un o’n prif gynhyrchwyr cyfres o gynhyrchion Indiaidd llysieuol, fegan a di-glwten. Mae gan Samosaco yr unig ffatri gwneud samosa bwrpasol yng Nghymru. Dechreuodd y cwmni yn fusnes teuluol yn Toronto ar ddechrau’r 1980au cyn symud i Gymru rai blynyddoedd yn ddiweddarach.
Mae Sokhy Sandhu o Samosaco yn edrych ymlaen at ddychwelyd at wreiddiau’r cwmni ac mae’n gweld hwn yn gyfle perffaith i archwilio eu busnes ymhellach yn y farchnad hon,
“Fel cwmni nid ydym yn ddieithr i farchnad Canada, ond mae’r ymweliad masnach hwn yn arbennig o ddiddorol inni fel marchnad allforio bosib gan ei fod yn caniatáu inni fynd yn ôl i ble ddechreuodd y cyfan. Ein gobaith yw y bydd yr ymweliad hwn yn rhoi’r cyfle inni atgyfnerthu’r gred a’r angerdd sydd gennym mewn samosas traddodiadol go iawn i farchnad Canada ac rydw i’n gobeithio y bydd ein cynhyrchion mor boblogaidd yno ag y maent yma.”
Cwmni arall ar yr ymweliad masnach sy’n gobeithio ehangu i farchnadoedd newydd yw’r Wrexham Lager Beer Company, bragdy a sefydlwyd yn wreiddiol yn 1882 ond a gafodd ei ail-lansio yn ficro-fragdy yn 2011. Mae’r lager yn cadw at y rysáit gwreiddiol a’r un cynhwysion gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf o Kaspar-Schultz, yr Almaen, sy’n creu lager llyfn, ysgafn ac adfywiol.
Meddai Mark Roberts o Wrexham Lager:
“Rydym yn awyddus i ehangu a dechrau allforio ein cynhyrchion i farchnad allforio Canada. Mae’n garreg sarn berffaith i’n helpu magu rhywfaint o brofiad yn y maes. Mae’n rhoi cyfle arbennig inni gyfarfod â phrynwyr allweddol a chasglu cyngor ar hyd y daith er mwyn sefydlu contractau cadarn i roi hwb i’n hyder a’n gwerthiant.”
Bydd uchafbwyntiau’r ymweliad yn cynnwys digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr fydd yn rhoi cyfle i gwmnïau roi cyflwyniad i grŵp dethol o brynwyr manwerthu a gweini bwyd. Bydd y digwyddiad yn gyfle hefyd i arddangos cynhyrchion bwyd a diod o Gymru yn ogystal â chael ein tywys o gwmpas siopau, cyflwyniad i’r farchnad a digwyddiad rhwydweithio masnach.