Cafodd y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru hwb sylweddol y mis yma tuag at gyrraedd ei darged uchelgeisiol yn 2020 o godi gwerthiant blynyddol i £7biliwn (cynnydd o 30% ). Mae’r tair canolfan fwyd yng Nghymru wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth i hwyluso mwy o gydweithio a chydlynu o dan frand newydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, o’r enw Arloesi Bwyd Cymru.

Wrth i dechnolegwyr bwyd Cymru ymgynnull am yr ail flwyddyn yn olynol yn Food Matters Live, a gynhelir yn Llundain rhwng 17 - 19 Tachwedd 2015, bydd nifer o gwmnïau gwahanol yn bresennol i ddangos sut mae Cymru yn arloesi fwy a mwy ac yn dod yn faes profi ar gyfer arloesi bwyd a datblygu cynhyrchion newydd.

Roedd y fantais fasnachol gyffredinol i gwmnïau fu yn nigwyddiad y llynedd yn cynnwys gwerthu i fwytai a chwmnïau amlwg fel Jamie’s Italian a British Airways.  Bydd nifer o fusnesau bwyd a diod gwahanol yn bresennol eto eleni o dan faner Bwyd a Diod Cymru, o falws melys di glwten i ddefnyddio aeron arbennig chia mewn bariau byrbryd.

Mae Dirprwy Weinidog Bwyd & Amaeth Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans AC, wedi croesawu’r presenoldeb cryfach yn sioe eleni a dywedodd:  “Mae’n gweddu fod gan Bwyd a Diod Cymru ac Arloesi Bwyd Cymru bresenoldeb cryf yn Food Matters Live. Mae’r digwyddiad traws-sector hwn yn dod â gweithwyr proffesiynol ar draws y diwydiant at ei gilydd i roi sylw i un o heriau pwysicaf ein hoes: y berthynas rhwng bwyd, iechyd a maethiad a’u cysylltiadau â’r amgylchedd, poblogaeth, iechyd a llesiant. Rydym fel llywodraeth yn cydnabod y rôl allweddol y gall arloesi bwyd ei chwarae yn cyfrannu at nifer o faterion iechyd a llesiant tra ar yr un pryd yn cynyddu twf economaidd trwy sicrhau bod Cymru yn gartref i arloesi bwyd a diod o ansawdd uchel ac sydd wedi’i ymchwilio’n dda.”

Ychwanegodd David Lloyd o Ganolfannau Zero2Five y Diwydiant Bwyd yn siarad ar ran Arloesi Bwyd Cymru:

“Mae Food Matters Live yn cynnig llwyfan ar gyfer trafod traws-sector sy’n symbylu’r meddwl ac mae’n annog mwy o gydweithio. Mae presenoldeb Cymru yn sioe eleni yn adeiladu ar lwyddiant y llynedd wrth inni geisio torri i mewn i farchnadoedd newydd a chynnig cynhyrchion newydd. Mae brand Arloesi Bwyd Cymru yn cadarnhau gweithgarwch y tair canolfan fwyd sy’n cynnig gwasanaeth ledled Cymru. Bydd ei dargedau strategol yn cynnwys partneriaid Cymreig a rhyngwladol i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu ar draws y byd, boed hynny mewn systemau  technegol, arferion hylendid neu gyfraith bwyd.”

Un cleient a fu yn sioe’r llynedd oedd Plas Farm – dywedodd eu Cyfarwyddydd Datblygu Busnes Rhian Williams: “Yr hyn sy’n gwneud y sioe hon yn wahanol i’r gweddill yw eich bod nid yn unig yn delio â’r prynwyr ac yn ennill archebion posib ond hefyd yn mynd i seminarau at ddibenion Datblygiad Proffesiynol Parhaus sy’n golygu fod fy staff yn dod yn fwy ymwybodol o dueddiadau ac mae’n rhoi cyngor ymarferol iddynt yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn.

Ychwanegodd Sokhu Sandhu o Samosaco: “Agorodd Food Matters Live ddrysau newydd i farchnadoedd niche newydd i’m cwmni a chyflwyno prynwyr newydd i’n cwmni. Mewn sector sy’n esblygu mor gyflym mae digwyddiadau fel hwn yn hanfodol os yw cwmnïau’n mynd i dyfu.”

Yn ystod Food Matters Live 2015 bydd dros 400 o arddangoswyr yn arddangos y cynhwysion diweddaraf  ar gyfer nifer o ddibenion gwahanol – gan helpu cwmnïau i ychwanegu manteision iechyd newydd i’w cynhyrchion a bodloni disgwyliadau defnyddwyr mewn meysydd fel darparu labeli glân a chlir heb i hynny effeithio ar flas.

Share this page

Print this page