Mae cynhyrchwyr bwyd a diod eithriadol o bob rhan o Gymru’n arddangos yn y Digwyddiad Dathlu Great Taste ym Mae Caerdydd, yn dilyn llwyddiant sêr euraid yng Ngwobrau Great Taste.
Gwahoddwyd cynhyrchwyr bwyd a diod o bob rhan o Gymru a lwyddodd i ennill sêr aur gwerthfawr yng Ngwobrau Great Taste y DG i arddangos eu cynnyrch arobryn, er mwyn dathlu eu llwyddiant, yng Ngwesty St David’s ym Mae Caerdydd ar ddydd Mawrth 1 Tachwedd.
Wedi ei noddi gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, mae’r digwyddiad yn ceisio rhoi llwyfan i gynhyrchwyr arddangos eu cynnyrch ar lefel genedlaethol, yn ogystal â dathlu llwyddiant y cynhyrchydd. Bydd prynwyr bwyd blaenllaw o’r prif archfarchnadoedd, siopau adrannol moethus, siopau delicatessen arbenigol a’r sector cyhoeddus i gyd yn bresennol ac yn awyddus i flasu’r gorau o’r hyn sydd gan fwyd a diod o Gymru i’w gynnig.
Yn dilyn llwyddiant bwyd a diod o Gymru yng ngwobrau Great Taste, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths AC
“Mae’n wirioneddol wych gweld y cafodd cymaint o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru eu cydnabod yng Ngwobrau Great Taste, ac mae o ddifrif yn amlygu Cymru yn ardal sy’n cyrraedd y lefel uchaf o ansawdd ac arloesi wrth gynhyrchu bwyd a diod. Rydym yn falch iawn o’n sector bwyd a diod yng Nghymru ac mae heddiw’n rhoi cyfle inni ddathlu eu llwyddiant ac fe gânt hwythau gyfle i arddangos yn union beth all Cymru ei gynhyrchu ar lwyfan ehangach. ”
Trefnwyd yr arddangosfa gan gorff Llywodraeth Cymru Bwyd a Diod Cymru – Food and Drink Wales, sef yr hunaniaeth ymbarél a ddefnyddir i farchnata cynnyrch o Gymru yma a thramor.
A hwythau’n cael eu galw’n ‘Oscars’ y byd bwyd, enillodd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru eleni 125 o wobrau ar draws tri chategori, ac enillodd tri chynnyrch statws tair seren nodedig, ac mae gwobrau seren aur Great Taste yn dyst o ansawdd a rhagoriaeth i gwsmeriaid ac arbenigwyr y diwydiant fel ei gilydd.
Eleni, cafwyd enillwyr tair seren o’r Gogledd, y De a’r Canolbarth, sy’n brawf o ehangder ac ansawdd ymhlith cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru benbaladr. Yn y De, cipiodd Apple County Cider yn Nhrefynwy wobr y Fforc Aur o Gymru am yr ail flwyddyn yn olynol ar ôl iddynt ennill tair seren am eu Dabinett Medium. Roedd Hilltop Honey o Gaersws yn fuddugol gyda’u Raw Thyme Honey yn y Canolbarth, ac fe gawsant hefyd Wobr Treftadaeth Nigel Barden The Great Taste.
Bu Bwyd Cymru Bodnant, yng Nghonwy, yn fuddugol gyda’u Caws Caerffili Cymreig Traddodiadol yn y Gogledd.
Roedd Nigel Barden, Cadeirydd y Beirniaid yng ngwobrau uchel eu parch y Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, wrth ei fodd gyda chryfder yr enillwyr o Gymru yng ngwobrau’r GTA eleni,
“Mae gwobr Great Taste, boed yn un, yn ddwy neu’n dair seren, yn gamp ryfeddol ac yn arwydd pendant o ansawdd a rhagoriaeth. Mae safon y cynigion o Gymru’n gyson uchel ac mae’n adlewyrchu’r ymrwymiad i ddatblygu mwy a mwy o fwyd a diod o’r radd flaenaf o Gymru.
Byddwn wrth fy modd pe bai mwy fyth o gynhyrchwyr o Gymru’n rhoi cynnig ar Wobrau’r Great Taste yn 2017, gan fod achrediad GTA yn cynnig llwyfan amhrisiadwy i gynhyrchwyr a gwerthwyr. Mae’r sticer GTA du ac aur yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, gan ei wneud yn arf marchnata rhagorol ym mhedwar ban byd.”
Derbyniodd cyfanswm o 125 o gynhyrchion o Gymru anrhydeddau Great Taste, ac enillodd 96 cynnig 1-seren, derbyniodd 26 2-seren ac enillodd 3 yr anrhydedd pennaf o 3 seren Great Taste. Roedd y cynigion llwyddiannus yn amrywio o feicrofusnesau newydd a datblygol i frandiau Cymreig sefydledig. Golyga un seren fod y cynnyrch yn ‘agos at berffaith’ tra bod dwy seren yn arwydd fod y cynnyrch yn ‘ddifai’ ac ystyr tair seren yw ‘Waw, mae’n rhaid ichi flasu hwn’.
Bob blwyddyn, trefnir y Gwobrau Great Taste gan y Guild of Fine Food ac maent ymhlith y cynlluniau gwobrau profion dall mwyaf yn y byd. Mae sêr aur yn feincnodau cydnabyddedig ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod arbenigol.
Mae Apple County Cider, busnes teuluol bach sy’n cael ei redeg gan y gŵr a’r wraig Ben a Steph Culpin yn arbennig o falch o’u cyflawniadau niferus, sy’n profi eu bod nid yn unig yn cyflawni ansawdd gwych ond hefyd gysondeb arbennig ar yr un pryd.
“Rydym ar ben ein digon o fod wedi ennill y wobr anhygoel hon ac o gael y gydnabyddiaeth yma i’n cynhyrchion. Mae ennill gwobr y Fforc Aur o Gymru am yr ail flwyddyn yn olynol yn anghredadwy, mae’n ben llanw ein holl waith caled dros y blynyddoedd.
Mae’n deimlad mor arbennig i wybod fod rhai o’r taflodau mwyaf craff wedi blasu’n ddall ddewis enfawr o gynhyrchion o bob math, a’u bod wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth arbennig i’n cynnyrch ni.”
Mae Hilltop Honey yn gwmni cynhyrchu mêl yn Y Drenewydd. Ag yntau’n ffefryn mewn llawer o gartrefi ac i’w weld ar silffoedd y prif archfarchnadoedd ledled gwledydd Prydain, mae’r perchennog Scott Davies yn esbonio fod ennill Gwobr Treftadaeth Nigel Barden The Great Taste am eu Raw Thyme Honey ac ennill 3 seren Great Taste yn ychwanegu at yr hyn fu eisoes yn flwyddyn arbennig,
“O blith y 10,000 o gynhyrchion a gyflwynwyd ar gyfer gwobrau Great Taste ledled gwledydd Prydain eleni, dim ond 141 dderbyniodd 3 seren, sy’n golygu fod cyrraedd mor bell â hynny yn gamp ynddi’i hunan inni . Mae ennill y wobr ychwanegol hon yn goron ar y cyfan – rydyn ni ar ben ein digon.”
Yn y cyfamser, sicrhaodd Bwyd Cymru Bodnant o ddyffryn Conwy gyda thair seren aur am eu Caws Caerffili Cymreig Traddodiadol. Ar ôl cipio 1 seren aur yn 2015 ac ennill 2 seren eleni am eu Menyn Hallt Cymreig, eu Caws Caerffili a ddenodd sylw’r beirniaid eleni i ennill y tair seren werthfawr iddynt.
Meddai Aled Rowlands, rheolwr Llaethdy Bodnant: “Rydan ni wrth ein bodd yn ennill tair seren yng nghystadleuaeth Great Taste, sy’n un o’r cystadlaethau mwyaf yng ngwledydd Prydain. Mae’r Caerffili’n ychwanegiad cymharol newydd i’n dewis ac mae’n dilyn rysáit traddodiadol… mae ein menyn hallt wastad yn un o’r cynhyrchion mwyaf poblogaidd yn Siop Fferm Bodnant, ac ar ôl derbyn un seren y llynedd, rydyn ni wrth ein bodd o gael dwy seren y tro hwn”.
Mae enillwyr yn mynd trwy brofion llym gan fwy na 400 o feirniaid uchel eu parch yn y diwydiant, gan gynnwys y cogyddion gorau, perchnogion bwytai ac ysgrifenwyr bwyd blaenllaw i ennill eu sêr aur. Mae’r beirniaid yn profi’r cynhyrchion yn ddall, sy’n golygu fod y cynllun gwobrau hwn yn seiliedig ar ddim byd mwy na Blas Gwych – ‘Great Taste’.