Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru wedi ennill aur yng Ngwobrau Aur Great Taste eleni, gan brofi mae bwyd a diod o Gymru yn llawn haeddu’r enw da sydd ganddynt am ansawdd a blas.

Cyrhaeddodd cyfanswm rhyfeddol o 165 o gynhyrchion ledled Cymru y rhestr fer o gynhyrchwyr, gyda 121 o gynhyrchion yn ennill 1-seren, enillodd 39 o gynhyrchion 2-seren a barnwyd fod pum cynnyrch yn deilwng o gydnabyddiaeth 3-seren.

Y Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, yw’r meincnod cydnabyddedig ar gyfer y bwyd a diod gorau, ac fe’i gelwir yn ‘Oscars’ y byd bwyd. 

Cafodd y beirniadu ei wneud yng Nghymru eleni, ac fe groesawyd llu o arbenigwyr, gan gynnwys Nigel Barden, Charles Campion, Felicity Spencer a nifer fawr o chefs, prynwyr, perchnogion bwytai ac ysgrifenwyr bwyd eraill. Roedd y beirniaid un unfarn fod y cynhyrchion canlynol o Gymru wedi cynnig yr amlygrwydd ‘Bendigedig! Waw! Blaswch Hwnna! yna ac fe gyflwynwyd 3 seren iddynt:

  • Jam Cyrens Duon Organig Coedcanlas gan Coedcanlas
  • Siytni Mummy’s Carrottop gan Miss Daisy’s Kitchen
  • Monty’s Dark Secret gan Monty’s Brewery Ltd
  • Ffagots Cymreig gan N S James
  • Rac Cig Oen Cymru – 4 asgwrn gan y Welsh Venison Centre a Beacons Farm Shop

Wrth longyfarch yr holl gynhyrchwyr o Gymru, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,

“Rwyf wrth fy modd fod cymaint o wobrau wedi cael eu hennill mor haeddiannol gan gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i longyfarch pob un ohonynt ar eu llwyddiannau yng ngwobrau Great Taste eleni.

“Rydym oll yn gwybod fod bwyd a diod o Gymru yn cynnig yr ansawdd gorau a blas heb ei ail, ac mae’n bwysig fod y sector yn cael ei gydnabod am hyn. Mae ein busnesau bwyd a diod yn chwarae rhan hollbwysig yn economi Cymru ac rydym yn hyderus ein bod ar y llwybr iawn i dyfu’r sector 30% erbyn y flwyddyn 2020.”

Roedd John Farrand, rheolwr gyfarwyddwr y Guild of Fine Food a threfnydd gwobrau Great Taste, wrth ei fodd gyda chryfder yr enillwyr o Gymru,

“Roedd safon y cynigion o Gymru eleni yn arbennig. Mae gwobr Great Taste, boed yn 1-, 2- neu 3-seren, yn gamp heb ei hail ac yn arwydd pendant o ansawdd a rhagoriaeth, sy’n adlewyrchu’r ymrwymiad cynyddol i gynhyrchu’r bwyd a diod gorau oll o Gymru.

Cyhoeddir enillydd y Gwobrau Fforch Aur, yn ogystal â Phrif Bencampwr Great Taste, yn Llundain ar 4 Medi fel rhan o’r Speciality & Fine Food Fair.

Mae rhestr lawn o ennillwyr Cymru i’w gweld yma.

Share this page

Print this page