Bydd dau ar hugain o gynhyrchwyr bwyd a diod arbenigol o Gymru’n arddangos dan faner Bwyd a Diod Cymru yn Speciality and Fine Food Fair yn Llundain. Cynhelir y ffair ar 3-5 Medi, ac mae Bwyd a Diod Cymru’n cydlynu cynrychiolaeth gref o Gymru o amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys melysion, caws, byrbrydau llysieuol a feganaidd a hefyd pobi a diodydd - gyda’r rhan fwyaf wedi profi llwyddiant yn ddiweddar yng Ngwobrau Great Taste 2017.

Mae gan Gymru enw da ers tro byd am gynhyrchion bwyd a diod cain ac mae’n ymfalchïo yn ei chyfoeth o gynhyrchwyr bwyd sydd wedi profi llwyddiant byd-eang gyda’u cynhyrchion. Eleni caiff amrywiaeth o gynhyrchion newydd eu lansio - sy’n dangos yn glir y creadigrwydd a’r arloesi sy’n deillio o Gymru.

Dywed Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC,

“Mae presenoldeb cryf Cymru yn Speciality and Fine Food Fair yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd ein diwydiant bwyd a diod ym marchnad y DU. Mae cynhyrchwyr yng Nghymru’n gweithio’n galed i greu cynnyrch artisan sy’n cynrychioli’r sgiliau a’r ansawdd sydd gan Gymru i’w cynnig. Rwyf i wrth fy modd fod cynifer o gynhyrchwyr yn dod i’r sioe eleni.

Mae gennym ddiwydiant bwyd a diod rhagorol yng Nghymru, a byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i ddathlu llwyddiant ein cynhyrchwyr wrth i ni weithio i dyfu’r sector nawr ac yn y dyfodol.”

Bydd Baked Shed yn lansio pedwar cynnyrch cacen ddi-glwten, a dau gynnyrch feganaidd. Bydd Barti Ddu Rum yn cynnig samplau o’r Rym Sbeislyd Gwymon Penfro a lansiwyd yn ddiweddar, a bydd Lurvills Delight yn arddangos eu diod ddi-alcohol newydd - Sbeis Lafant.

Bydd Ice Cube Tea Ltd yn arddangos sawl te newydd gan gynnwys te du iasoer gyda Lemwn Sisili, te gwyrdd iasoer gyda Mintys Moroco, te Thai iasoer gyda Dŵr Cnau Coco a the iasoer Patagonia gyda Yerba Mate.

Bydd Black Mountains Smokery yn dod â’u cynnyrch blasus newydd ar gyfer 2017 – Draenog y Môr Mwg Poeth. Bydd hefyd yn cynnig cynnyrch y mis arbennig drwy gylchlythyr misol i gwsmeriaid masnachol fydd yn galluogi Black Mountains Smokery i gynnig rhywbeth newydd yn rheolaidd.

Hefyd yn rhan o’r Arddangosfa mae Sabor de Amor, gyda paella llysieuol newydd mewn potel; Blas ar Fwyd Cyf gyda’u label a’u cyfres cyfanwerthu eu hunain a chyfres deli newydd o jamiau, catwad a mwstard; a Slone Home (brand Lone Stag) gyda’u tryfflau siocled llaw ffres â gwirodydd arobryn.

Speciality and Fine Food Fair yw prif ddigwyddiad masnachol y DU sy’n targedu prynwyr bwyd a diod yn benodol o’r diwydiant bwyd arbenigol ac artisan. Mae’r digwyddiad yn denu prynwyr o bell ac agos ac mae’n llwyfan allweddol i fusnesau allu hyrwyddo eu cynnyrch.

Mae The Parsnipship o Ben-y-bont yn cynhyrchu bwyd llysieuol a feganaidd unigryw a gwreiddiol a bydd yn dangos ei amrywiaeth o gynhyrchion sydd wedi ennill gwobrau, gan gynnwys Crymbl Morgannwg a enillodd Wobr 2 seren Great Taste, a’u Stwnsh Tandoori Ffacbys a Chorbys yn ogystal â’u Pâté Corbys a Madarch Gwyllt, a enillodd 1 seren.

Dywedodd Flo Ticehurst o Parsnipship,

“Mae digwyddiadau masnach fel Speciality and Fine Food Fair yn ffenest bwysig y tu allan i Gymru i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru ac rydym ni wrth ein bodd i fod yn rhan o’r digwyddiad hwn yn dilyn ein llwyddiannau diweddar yn y Gwobrau Great Taste, sy’n werth y byd i ni.

Mae’n ffordd ragorol i arddangos ein cynhyrchion, cyrraedd darpar gwsmeriaid newydd, ond yn bennaf oll mae’n gyfle rhagorol i hyrwyddo Cymru i ddarpar ymwelwyr o’r DU a’r bobl niferus eraill sy’n dod i’r digwyddiad o bedwar ban byd.”

Cynhelir Speciality and Fine Food Fair yn Llundain ar 3-5 Medi gydag enillwyr Gwobrau Fforc Aur a Phrif Bencampwr Great Taste 2017 yn cael eu cyhoeddi ddydd Llun 4 Medi.

Dewch i ymweld â stondin Bwyd a Diod Cymru, rhif 1530/1540/1730 yn Speciality and Fine Food Fair
3-5 Medi 2017.

Mae rhestr lawn o ganlyniadau Gwobrau Great Taste 2017 i’w gweld yma.

Share this page

Print this page