Mae deg cynhyrchydd bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynd i Arddangosfa Food and Hotel China (FHC) i hyrwyddo eu cynnyrch yn Shanghai yr wythnos hon (11-13 Tachwedd). Pwrpas yr ymweliad tri diwrnod yw atgyfnerthu partneriaethau gyda chwmnïau yn Asia ac archwilio cyfleoedd busnes newydd i gynhyrchwyr o Gymru ym marchnadoedd gwerthfawr Tsieina ac Asia.

Cefnogir pafiliwn Bwyd a Diod Cymru yn Shanghai gan Lywodraeth Cymru. Bydd nifer o gynhyrchwyr o Gymru yn arddangos eu cynhyrchion, o fragdy bach teuluol, un o’r prif ddarparwyr o laeth organig a chynhyrchion llaeth o ansawdd, sawsiau a phastiau thai i ryseitiau popty traddodiadol a’r cwmni cynhyrchion llaeth annibynnol mwyaf.

Mae’r Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd Rebecca Evans yn credu fod cael presenoldeb o Gymru yn y digwyddiad yn gyfle i ddatblygu ymhellach ar farchnad allforio gynyddol Cymru,

 “Mae marchnadoedd Tsieina ac Asia yn gyrchfannau allforio pwysig iawn i gynhyrchwyr o Gymru, ac felly mae’r cyfle i rai o’n cynhyrchwyr fod yn bresennol a thargedu’r rhanbarth hwn yn allweddol. Mae’n ddiau fod Cymru yn arwain y ffordd o safbwynt ansawdd rhagorol ein bwyd a diod. O’r herwydd mae’n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein cwmnïau bwyd a diod, ac mae eu galluogi i arddangos yn Food and Hotel China 2015 yn rhoi cyfle gwerthfawr iddynt wneud yn fawr o’r posibiliadau masnachu cynyddol sydd ar gael yn y farchnad hon."

FHC China, a gynhelir yn y Shanghai New International Expo Centre (SNIEC), yw’r brif arddangosfa fusnes ar gyfer y sector bwyd a lletygarwch bydeang yn Tsieina. Hi yw’r dewis cyntaf i allforwyr a mewnforwyr bwyd a diod. Mae’r ymwelwyr sy’n dod iddi yn wneuthurwyr penderfyniadau a phrynwyr o fanwerthwyr, mewnforwyr a dosbarthwyr Tsieina yn ogystal ag o’r sector lletygarwch.

Mae pedwar o’r deg cwmni sy’n mynd i Shanghai eleni yn cyflwyno eu cynhyrchion i’r farchnad Tsieineaidd am y tro cyntaf. Mae un o’r cwmnïau, Bluestone Brewing Company, yn fragdy bach teuluol yn Nhrefdraeth, Sir Benfro. Byddant yn samplo eu dewis o gwrw go iawn wedi’i wneud â llaw a dŵr ffynnon naturiol sydd wedi’u henwi mewn arddull gyfoes, ffasiynol megis Bedrock Blonde, Rocketeer, Crystal Ruby, Rockhopper a Hammer.

Wrth gyfeirio at y daith arfaethedig, dywedodd Amy Turner o Bluestone Brewing Company, “Rydym yn gynhyrfus iawn am fynd i Tsieina a chael presenoldeb yn FHC China, a bydd yn rhoi cyfle gwych inni gyflwyno ein cynhyrchion i’r farchnad yn Tsieina ac Asia a chael cyswllt uniongyrchol â phrynwyr, dosbarthwyr a chyflenwyr. Ni fyddai ein presenoldeb yn bosib heb gefnogaeth amhrisiadwy Bwyd a Diod Cymru a’r gobaith yw y down yn ôl i Gymru gyda llyfr yn llawn cysylltiadau a darpar brynwyr.”

Cwmni arall o Gymru sy’n gobeithio cael cryn lwyddiant yn Tsieina yw Gower Brewery, bragdy annibynnol o Lanrhidian, ger Abertawe a sefydlwyd yn 2011 sy’n cynhyrchu’r cwrw go iawn gorau mewn casgenni, poteli a barilanau. Dechreuasant allforio i Tsieina yn 2014 ac maent wedi tyfu’n gyflym fel y dywed Chris Mabbett, “Erbyn hyn mae gennym fwy na 300 o leoedd yn gwerthu ein cynnyrch, gan gynnwys tafarnau, bwytai, siopau ac archfarchnadoedd. Rydym wedi buddsoddi’n drwm yn ddiweddar er mwyn gallu potelu mwy o gwrw a cheisio codi ymwybyddiaeth o’n cynhyrchion yn y farchnad Tsieineaidd.”

Mae’r cwmni dŵr potel o’r Canolbarth, Tŷ Nant Spring Water Ltd, yn frand enwog ledled y byd, ac mae Steve Gatto yn gwybod am werth mynd i ddigwyddiadau masnachu,

“Mae dŵr Tŷ Nant yn enw cyfarwydd erbyn hyn ond rydym yn dal i gredu fod gwerth mawr mewn bod mewn digwyddiadau proffil uchel fel FHC. Mae prynwyr o bob rhan o Tsieina ac Asia yno, sy’n golygu fod y cyfleoedd yno i fynd â’ch busnes i lefel arall. I gwmnïau fel ninnau mae’n gyfle hefyd i gyfarfod rhai o’n cwsmeriaid o Asia yn bersonol a hyrwyddo rhagoriaethau sylweddol bwyd a diod o Gymru.”

Cynhelir Food and Hotel China yn Shanghai rhwng 11-13 Tachwedd 2015. 

Share this page

Print this page