Bydd cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn adeiladu ar eu llwyddiant trwy arddangos yn y Speciality and Fine Food Fair, prif ddigwyddiad arddangos bwyd gorau arbenigol gwledydd Prydain yn Llundain rhwng 4-6 Medi 2016.

Cyhoeddwyd enillwyr Great Taste 2016, yn rhan o’r Speciality and Fine Food Fair. Bydd detholiad o’r enillwyr Cymreig yn arddangos ac yn denu cryn sylw yn y digwyddiad, wrth iddynt feithrin eu henw da am gynhyrchu’r bwydydd arbenigol gorau.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd cynhyrchion nifer o enillwyr yn cael eu harddangos yn y Ffair, gan obeithio y bydd y llwyddiant diweddar yn hwb i’w gobeithion o ddenu gwerthiannau newydd. Bydd un ar hugain o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn arddangos ar bafiliwn Bwyd a Diod Cymru, a bydd prynwyr o bell ac agos yn bresennol. Mae’n gyfle amhrisiadwy i hyrwyddo Cymru ymhellach yn gyrchfan ar gyfer y bwyd a diod gorau.

Dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig,

“Rwyf wrth fy modd fod cymaint o gynhyrchwyr o Gymru wedi ennill lle ar restr fer Gwobrau Great Taste 2016. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i longyfarch pob un ohonynt ar eu camp. Mae diwydiant bwyd a diod  Cymru yn rhan hollbwysig o’r economi a chydag ymrwymiad a gwaith caled fe welwn gyfle gwirioneddol i gynyddu trosiant 30% erbyn 2020 a chyrraedd ein targed.

Mae’n wych gweld Cymru’n cael ei chynrychioli mewn digwyddiadau masnach fel y Speciality and Fine Food Fair yn Llundain ac eraill ar draws y byd, gan fusnesau bwyd a diod yn cynnig ansawdd mor uchel. Mae’n cynnig cyfle gwych i wella proffil ac enw da ein diwydiant yma yng Nghymru.”

Eleni bydd nifer o arddangoswyr yn lansio ystod o gynhyrchion newydd, yn eu plith:

  • Bydd Radnor Hills o Drefyclawdd yn lansio cyfres sudd ffrwythau newydd Fruella.
  • Mae Patchwork Pâté o dan frand ‘Mags & Jenny’ yn lansio cyfres newydd o pates esmwyth i ddathlu eu 35ain pen-blwydd yn gynhyrchwyr Pâté gwlad gwreiddiol gwledydd Prydain. Mae’r blasau’n cynnwys Gwreiddiol gyda brandi, Myglyd a Tsili.
  • Bydd Yr Ardd Fadarch yn blas brofi cysyniad newydd Olew Had Rêp Blodyn Aur wedi’i fwydo â Shiitake Eryri – olew trochi unigryw sy’n cyfuno blas myglyd, priddiog y Shiitake ac olew had rêp coediog.
  • Mae’r cwmni cynhyrchion sbeislyd Sorai yn lansio saws ‘berw boeth’ newydd Furious Tomarind – cyfuniad beiddgar llawn blas o domato a tamarind yn creu gwres tanbaid a blas ffrwydrol ar gyfer archwaeth aeddfed.


Dywedodd Cynan Jones o’r Ardd Fadarch fod y ffair yn ‘ddigwyddiad allweddol’ i’r cwmni o Eryri sy’n arbenigo ar dyfu madarch a chynhyrchu cynhyrchion madarch cyffrous a blaengar.

“Y sioe hon yw uchafbwynt ein blwyddyn, a thrwyddi y cawsom rai o’n cwsmeriaid uchaf eu gwerth a’u bri dros y blynyddoedd diwethaf a heb gefnogaeth Llywodraeth Cymru ni fyddai ein presenoldeb hanner mor effeithiol. Mae’r stondin ei hun a’r gefnogaeth mae staff yn ei roi i gwmnïau o Gymru yn rhoi cychwyn da ar bethau wrth ddenu prynwyr newydd a marchnadoedd newydd.”

Un cwmni a brofodd lwyddiant yng ngwobrau Great Taste eleni yw Apple County Cider o Sir Fynwy, a gafodd 3 seren am eu seidr Dabinett Medium ac 1 seren am eu Blakeney Red Perry.

Erbyn hyn cawsant eu henwebu am ddwy Fforch Aur, un am y Dabinett Medium a lwyddodd hefyd i gyrraedd rhestr yr 50 Bwydydd Gorau, sy’n rhan o Wobrau Great Taste, yn ogystal â’r wobr Cynhyrchwr Pwysig Iawn a noddwyd gan gylchgrawn Woman and Home.

Mae’r perchnogion Ben a Steph Culpin yn arbennig o falch fod llwyddiant y cwmni yn parhau,

“Wedi inni gael tair seren am ein seidr Vilberie Medium Dry ynghyd ag ennill y Fforch Aur o Gymru yng ngwobrau Great Taste y llynedd, rydyn ni ar ben ein digon i ennill 3 seren ac 1 seren arall. Rydyn ni’n falch iawn o’n cynhyrchion ac mae’n wych fod ansawdd ein seidrau wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Great Taste.”

Cynhelir y Speciality and Fine Food Fair yn Llundain ar 4-6 Medi a chyhoeddir enwau Gwobrau’r Golden Fork a Phrif Bencampwr Great Taste 2016 ar ddydd Llun 5 Medi yn y Royal Garden Hotel, Kensington, Llundain.

Mae rhestr lawn o ganlyniadau i’w gweld yn i wefan Great Taste Awards.