Mae erlyniad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn ein hatgoffa dylai pawb roi blaenoriaeth i gydymffurfio â’r safonau rheoliadol.

Mae Mr John Edward Morgan yn gynhyrchydd wyau sydd wedi’i gofrestru gyda’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae ganddo ddwy siedaid o ieir maes, gyda lle i hyd at 18,000 o ieir yn y naill a hyd at 16,000 yn y llall.   Gwerthir eu hwyau i Oakland Farm Eggs Ltd.

Dros y cyfnod 2013 i 2015, cynhaliodd yr Archwilwyr Marchnata Wyau nifer o archwiliadau a chanfod tramgwyddau arwyddocaol. Yn eu plith yr oedd:

  •  camddatganiadau ynghylch nifer yr ieir yn yr ail sied;
  • anghysonderau mawr ynghylch nifer yr wyau a gafodd eu dodwy ar ddyddiad penodol gan beri i Oaklands Farm Eggs Ltd roi’r dyddiad ‘ar eu gorau cyn’ anghywir. 
  • nifer yr ieir ychwanegol yn Sied Dau yn fwy na’r lefel stocio uchaf a ganiateir gan y gyfraith ac ni ddylai’r busnes fod wedi marchnata’r wyau a gynhyrchwyd ynddi fel Wyau Maes.

Ymddangosodd Mr John  Edward Morgan a Mr Joseph Morgan gerbron Llys Ynadon Llandrindod ddydd Mercher, 16 Tachwedd 2016.

Plediodd Joseph Morgan yn euog o fynd yn groes i Reoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 trwy beidio â chofnodi dyddiad dodwy’r wyau a gafodd eu dodwy rhwng 1 Medi 2013 a 1 Mai 2015.

O dan orchymyn yr Ynadon, cafodd ddirwy o £1,800 a gofynnwyd iddo gyfrannu £1,000 at y costau ac i dalu gordal statudol o £120, cyfanswm o £2,920 o gosb i’w thalu o fewn 28 niwrnod.

Plediodd John Edward Morgan yn euog o:

  • Dwyll, trwy wneud datganiad ffug fod y cwmni’n cynhyrchu wyau maes er eu bod yn gwybod eu bod yn mynd yn groes i’r rheoliadau ynghylch cynhyrchu wyau fel cynhyrchydd wyau cofrestredig, trwy gadw mwy na’r lefel stocio o adar a ganiateir o dan statws maes, yn groes i Adran 2 Deddf Twyll 2006
  • Drosedd reoliadol rhwng 1 Medi 2013 ac 1 Mai 2015 o beidio â chadw cofnod o lefelau marwolaethau y dofednod, yn groes i Reoliad 24 Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010.

Oherwydd lefel y troseddu, traddodwyd Mr Morgan ar gyfer ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe , ddydd Mercher 4 Ionawr 2017.

Dedfrydodd y Barnwr Mr Morgan i 18 mis o garchar, wedi’i gohirio am ddwy flynedd, am y drosedd o dan y Ddeddf Twyll.

Wrth ei ddedfrydu, roedd y barnwr yn uchel ei glod o “drylwyredd yr ymchwiliad” a chanmolodd hefyd fanylder yr archwiliadau o waith y ddau Mr Morgan.

Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried gwneud cais o dan y Ddeddf Enillion Troseddau i adennill elw Mr Morgan yn sgil ei weithredoedd anghyfreithlon.

Mae’n amlwg o’r dedfrydau nad yw Llywodraeth Cymru na’r Llysoedd am ddelio’n ysgafn â throseddau o’r fath a’r neges oedd y dylai pawb roi blaenoriaeth i gydymffurfio â’r safonau rheoliadol.

Yng Nghymru, cynhelir archwiliadau marchnata wyau ar ran Llywodraeth Cymru gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.  Cynhelir archwiliadau i sicrhau y cydymffurfir ar bob agwedd ar Reoliadau Marchnata Wyau’r EC 589/2008.

 Os ydych chi’n ystyried arallgyfeirio i gynhyrchu wyau, mae Archwilwyr Marchnata Wyau APHA ar gael i roi arweiniad ar y rheoliadau.  I gysylltu â’ch archwilydd lleol, ffoniwch APHA ar 03003038268.

Share this page

Print this page