Bydd Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at helpu ymwelwyr â Chymru i ddarganfod bwyd a diod o safon fyd-eang, yn cael ei lansio gan Weinidogion heddiw.
Mae twristiaid yn chwilio fwyfwy am brofiadau lleol, dilys a newydd sy'n gysylltiedig â'r mannau y maent yn ymweld â hwy. Gall bwyd ddod yn elfen unigryw o brofiad yr ymwelydd, gan greu nodweddion unigryw rhanbarthol, ac felly mae'n ffordd bwysig o annog ymwelwyr i ymweld, gwario ac aros am gyfnod hwy.
Mae Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, a Ken Skates, y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gosod her i'r sectorau bwyd a thwristiaeth i godi ein proffil fel cyrchfan bwyd a diod o safon uchel.
Mae'r Cynllun Gweithredu a lansiwyd heddiw yn pennu'r heriau sy'n wynebu'r busnesau twristiaeth, a chynhyrchwyr bwyd a diod, ac yn awgrymu ffyrdd y gellid goresgyn hyn, sy'n cynnwys:
- Annog busnesau lletygarwch Cymru i ddod o hyd i fwy o gynnyrch yn lleol;
- Sicrhau bod mwy o fwyd a diod o Gymru ar fwydlenni ac mewn siopau;
- Sicrhau ei bod yn haws i ymwelwyr ddod o hyd i fwyd a diod o Gymru.
Meddai Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, "Mae bwyd yn rhan hanfodol o'r hyn yr ydym yn ei gynnig i dwristiaid yng Nghymru, ac rydym am helpu ymwelwyr i ddod o hyd i'n bwydydd arbennig lleol, ac nid dim ond gobeithio y byddant yn dod o hyd iddo eu hunain.
“Mae gennym rai o gynhyrchwyr bwyd a diod gorau'r byd, a chogyddion o safon fyd-eang. Mae gennym gynhwysion o safon uchel, bwyd a diod unigryw, a lleoedd diddorol i'w bwyta, ac mae pob un o'r rhain yn dod yn gynyddol bwysig i'n hymwelwyr."
Meddai Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, "Nid oes cymaint o ddewis o fwyd a diod wedi bodoli yng Nghymru erioedd o'r blaen, a gyda hyn mae ein hyder cynyddol fel gwlad sy'n gallu cynnig profiad bwyd gwych i ymwelwyr, yn ogystal â lletygarwch o safon fyd-eang. O wyliau bwyd llewyrchus i fwytai a chynnyrch sydd wedi ennill gwobrau, mae gan Gymru rhywbeth gwahanol i'w gynnig, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r sector i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r atyniad hwn.
“Rydym eisoes yn datblygu llawer yn y maes hwn, gydag arolwg Ymwelwyr Cymru yn 2013 yn dangos gwelliant sylweddol o ran boddhad gyda lleoedd i fwyta ac yfed, ond gallwn wneud mwy. Bydd y cynllun gweithredu hwn nid yn unig yn dod â rhagor o fanteision economaidd uniongyrchol drwy gryfhau'r cadwyni cyflenwi lleol rhwng cynhyrchwyr a busnesau twristiaeth, ond bydd hefyd yn helpu i wneud Cymru yn wahanol i'r gwledydd sy'n cystadlu â hi."
Yn ddiweddarach heddiw, bydd Rebecca Evans yn mynychu digwyddiad bwyd yn Stadiwm y Mileniwm i gyfarfod â rhai o'r cwmnïau fydd yn cael eu cefnogi drwy'r cynllun.
Bydd y digwyddiad, sydd wedi'i drefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Croeso Cymru, yn dod ag ystod eang o gynhyrchwyr bwyd a diod a busnesau twristiaeth a lletygarwch at ei gilydd. Mae un o'r cynhyrchwyr bwyd hynny, sef Clarks UK, cwmni o Gasnewydd sy'n cynhyrchu syryp, fydd yn bresennol yn Stadiwm y Mileniwm, wedi croesawu'r cynllun gweithredu newydd.
Meddai'r sylfaenydd, Bob Clark, “Mae bwyd a diod o Gymru yn gwella mewn statws oherwydd ei safon uchel, a'i flas, ac mae ein marchnadoedd yn ehangu'n gyson. Mae angen inni gymeryd mantais o'r diddordeb hwn, a dyma'r amser i ddatblygu'r elfen twristiaeth bwyd. Rydym wedi bod yn lwcus o fod wedi arddangos mewn nifer o ffeiriau masnach rhyngwladol gyda chymorth Llywodraeth Cymru, gan olygu ein bod wedi dechrau allforio i Ewrop ac Asia. Rwy'n croesawu'r cynllun newydd hwn yn fawr, sy'n pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau fod y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn amlwg yn fyd-eang."