Dathlu diwrnod nawddsant Cymru ynghanol Llundain

Bydd teithwyr yng Ngorsaf Paddington yn cael diwrnod i’r brenin ar Ddydd Gŵyl Ddewi, Dydd Mercher 1af Mawrth eleni, pan fydd cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn cynnig cyfleoedd i flasu eu cynnyrch gwych. Bydd cigoedd gwlad, brownis blasus a bara lawr byrbryd ymhlith yr arlwy fydd ar gael i godi hwyliau teithwyr wrth iddynt gychwyn ar eu taith gymudo ddyddiol.

Ni fyddai’r dathliadau’n gyflawn heb rywfaint o arlwy gerddorol, a bydd côr Cymreig yn gyfeiliant i’r wledd, gan roi cychwyn cerddorol heb ei ail i’r diwrnod.

#GwladGwlad

Mae’r digwyddiad yn rhan o ymgyrch #GwladGwlad Llywodraeth Cymru, a drefnwyd mewn partneriaeth â Network Rail a Great Western Rail (GWR), sy’n gobeithio datgelu byd o flasau anhygoel, y cynhwysion gorau oll a phecynnu heb ei ail – gan roi i fwyd a diod o Gymru y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,

“Mae’n wych gweld ein cynhyrchwyr bwyd a diod yn hyrwyddo Cymru a’r digonedd o fwyd o ansawdd sydd gennym yma yng Nghymru. Mae’n sector pwysig iawn i economi Cymru ac mae gweithio gyda GWR wedi rhoi’r cyfle inni roi bwyd a diod o Gymru ar ganol y llwyfan ar ein diwrnod dathlu cenedlaethol.”

Wrth gyfeirio at y bartneriaeth dywedodd Steve Wright, Cynigion i Gwsmeriaid yn GWR,

“Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi #GwladGwlad ac yn helpu arddangos peth o’r cynnyrch gorau sydd gan Gymru i’w gynnig. Rydym ill dau wedi ymrwymo i gefnogi’r cymunedau a wasanaethwn, a dyna pam ein bod yn gwerthu cymaint o gynnyrch lleol ag y gallwn yn ein cerbydau buffet ac ar ein gwasanaethau Ciniawa Pullman. Pa ffordd well o fwynhau’r olygfa o’r trên na mwynhau bwyd a baratowyd yn arbennig, ac a gynhyrchwyd o’r union dirwedd rydych yn teithio trwyddo.

“Fis Hydref y llynedd lansiwyd The Welshman, un o 59 gwasanaeth trên dyddiol rhwng Caerdydd a Paddington, i gofnodi ail-agor Twnnel Hafren, a’r cyfraniad gwerthfawr a wna’r rheilffordd i’r economi leol.”

Bwyd arobryn

I’r sawl sy’n meddwl nad yw bwyd a diod o Gymru yn ddim mwy na phice ar y maen a chawl mae’n bryd meddwl ato. Un o’r arddangoswyr fydd charcutier arobryn a chyfle i flasu ei gigoedd cartref, brownis cartref llawn siocled o benrhyn Gŵyr a byrbrydau gwymon a bara lawr iachus – os nad ydych wedi’u blasu o’r blaen dyma’ch cyfle. Ewch â nhw i’r gwaith i’w rhannu â chydweithwyr neu prynwch beth ar y ffordd adref i’w mwynhau gyda’r teulu a ffrindiau. 

Un cynhyrchydd sy’n edrych ymlaen at deithio i Orsaf Paddington, Llundain ar gyfer Dydd Gŵyl Ddewi yw Kate Jenkins o Gower Cottage Brownies,

“Pa gyfle gwell i arddangos y dewis o fwyd o Gymru sydd ar gael nac ar Ddydd Gŵyl Ddewi ym mhrifddinas y DG. Rwyf yn falch iawn o fod yn rhan o weithgareddau #DymaGymru, gan ei fod yn rhoi cyfle imi a chynhyrchwyr eraill o Gymru arddangos ein cynhyrchion a hyrwyddo Cymru a tharddiad ardderchog ein cynhyrchion.”

Os na allwch gyrraedd Gorsaf Paddington peidiwch â phoeni gan y bydd cynhyrchwyr o Gymru yn arddangos eu harlwy ar draws Llundain yn rhai o’r siopau mwyaf mawreddog, o John Lewis, Oxford Street, Partridges, Sloane Square a Waitrose, Canary Wharf o ddiwedd Chwefror tan 1 Mawrth.

Mae Dewi Sant, nawddsant Cymru, yn cael ei ddathlu ledled y byd ar y 1af o Fawrth ac mae’n rhan bwysig o dreftadaeth Cymru, ac felly hefyd fwyd a diod, sy’n un o drysorau mawr Cymru. Cofiwch fanteisio ar y dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi hyn a mwynhau’r arlwy gorau oll o’r ochr arall i Glawdd Offa.