Mae Sarah Bunton Luxury Chocolates, y siocledwraig arobryn o Gymru, wedi llwyddo’n ddiweddar i ennill archeb gyda John Lewis i ddechrau cyflenwi bariau siocled thema’r Pasg i’w siopau yn 2016.

A hwythau’n gweithio o gegin siocled yng nghyrchfan wyliau boblogaidd Pontarfynach, ger Aberystwyth, Ceredigion, mae Sarah a’i thîm cynyddol yn creu dewis eang o siocledi wedi’u llenwi a thryffls, anrhegion tymhorol, bariau a nwyddau hwyl. 

Ynghynt eleni, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, bu, Sarah mewn digwyddiad cwrdd â’r prynwyr roddodd gyfle i’w chwmni gymysgu â chwsmeriaid newydd posib. Wrth siarad am yr archeb newydd dywedodd Sarah,

“Rydym yn falch iawn o fod wedi cael yr archeb hon ac yn credu fod hyn yn gychwyn ar berthynas waith wych. Buom yn y digwyddiad yn Llundain ym mis Ebrill lle y cawsom gyfle i gyfarfod The Fine Confectionery Company sy’n cyflenwi  John Lewis ac rydym wedi gallu cytuno bargen dda iawn.

“Byddwn yn dechrau cyflenwi bariau siocled thema Pasg i John Lewis ond rydym hefyd yn cynhyrchu cyfresi o siocledi sy’n berffaith ar gyfer siopau siocled neu siopau bwyd coeth, ynghyd â nwyddau ar gyfer caffis, gwestai a bwytai –megis troellwyr diodydd ChocoShots neu falotinau bychain o ffafrau priodasol neu siocledi ystafelloedd gwely. Ein gobaith felly yw y gallwn wneud mwy yn y dyfodol.”

 Rebecca Evans AC yw Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd Llywodraeth Cymru,

“Mae hyn yn newyddion gwych i Sarah Bunton Luxury Chocolates ac mae’n pwysleisio pwysigrwydd digwyddiadau cwrdd â’r prynwyr Bwyd a Diod Cymru. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i gwmnïau bwyd a diod micro o Gymru ryngweithio’n uniongyrchol â phartneriaid posib o’r prif gwmnïau, ac fel y gwelsom o lwyddiant Sarah, gall gael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar economi Cymru.”

Share this page

Print this page