BlasCymru / TasteWales

Bydd dros gant o gynhyrchwyr blaenllaw o Gymru’n cael cwmni prynwyr cenedlaethol a rhyngwladol, newyddiadurwyr, pwysigion ac arweinwyr y diwydiant yn y digwyddiad bwyd a diod cyntaf erioed yng Nghymru sydd wedi’i anelu at farchnad y DU a’r byd. Bwyd a Diod Cymru, Is-adran fwyd Llywodraeth Cymru, sy’n trefnu’r digwyddiad, BlasCymru/TasteWales, yng nghyrchfan nodedig y Celtic Manor ar 23-24 Mawrth, gan ddod â’r diwydiant cyfan dan yr un to i arddangos y gorau o blith arlwy cynyddol y genedl o fwyd a diod.

Yn dilyn cinio uchel ei fri yng nghwmni unigolion ar lefel uchel yn niwydiant bwyd a diod y DU a’u cymheiriaid rhyngwladol, bydd y digwyddiad deuddydd yn gyfle i brynwyr masnachol gyfarfod â chynhyrchwyr bwyd a diod o bob rhan o Gymru. Ymhlith y prynwyr rhyngwladol sydd wedi cadarnhau mae rhai o’r Unol Daleithiau, Hong Kong a’r Emiradau Arabaidd Unedig, a fydd yn ymuno â manwerthwyr a chyfanwerthwyr y DU, gyda chyfle i gynhyrchwyr gynnal cyfarfodydd un i un a datblygu partneriaethau busnes a phroffesiynol pellach.

Bydd y diwrnod cyntaf, dan gadeiryddiaeth cyflwynydd newyddion y BBC Sara Edwards, yn cynnwys cynhadledd gyda ffigurau allweddol o’r diwydiant yn dadansoddi amrywiaeth o bynciau llosg sy’n wynebu’r diwydiant, gan gynnwys y tueddiadau marchnad cyfredol. Bydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, yn cynnal y digwyddiad ac yn trafod pwysigrwydd y diwydiant yng Nghymru a bydd hefyd yn cyhoeddi nifer o ddatblygiadau cyffrous yn y sector. Gan sôn am nodau uchelgeisiol y digwyddiad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Mae BlasCymru/TasteWales yn ddigwyddiad sy’n torri tir newydd i Gymru ac yn atgyfnerthu ymhellach statws ein diwydiant bwyd a diod ar lwyfan byd-eang. Gan ddod ag unigolion a sefydliadau o bob rhan o’r diwydiant at ei gilydd, bydd yn llwyfan i ni arddangos ein cryfder, ein llwyddiant a’n balchder dros fwyd a diod o Gymru ac yn ein helpu i barhau ar y llwybr cadarnhaol rydym ni arno i gyflawni ein targed twf o 30% erbyn 2020.”

Ychwanegodd Andy Richardson, Cadeirydd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:

“Rwyf i wrth fy modd yn gweld y diwydiant yn arddangos ein harlwy ar lwyfan byd-eang. Edrychwn ymlaen at groesawu prynwyr allweddol o bob rhan o’r byd i’r Celtic Manor dros ddeuddydd y digwyddiad hwn. Mae Bwrdd Bwyd a Diod Cymru’n angerddol dros yrru’r sector yn ei flaen wrth i ni agosáu at ein targed ar gyfer 2020.”

Gyda thros gant o gynhyrchwyr o bob rhan o Gymru’n bresennol, bydd amrywiaeth o gynhyrchion a chreadigaethau i fodloni pob chwaeth i’w gweld, heb sôn am lansio nifer o gynhyrchion newydd.

Mae’r rhain yn cynnwys cynhyrchwyr niche a chrefft fel y Pembrokeshire Beach Food Company a’r arbenigwyr cochi cig Cwm Farm Charcuterie, fydd yn ymuno â’r ffefrynnau cyfarwydd Edwards o Gonwy, chwisgi Penderyn a chaws Eryri, yn ogystal â busnesau gweithgynhyrchu mwy o faint fel Fruitapeel a Radnor Hills. 

Un o’r cynhyrchwyr yn y digwyddiad fydd Alana Spencer, a bydd enillydd rhaglen BBC Apprentice 2016 a phartner newydd y gŵr busnes yr Arglwydd Sugar yn arddangos ei menter newydd, Ridiculously Rich by Alana, am y tro cyntaf ers ei buddugoliaeth ddiweddar:

“Mae’n gyffrous cael cymryd rhan mewn dathliad fel hwn o gynhyrchwyr Cymru ac mae hefyd yn gyfle gwych i ddatblygu cysylltiadau busnes ac adeiladu llwyddiant. Anaml y cewch chi gynifer o brynwyr uwch o gwmnïau manwerthu a chyfanwerthu gyda’i gilydd ac rwyf i’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfleoedd a ddaw yn ei sgil.”

Bydd John Rodger o’r Atalanta Corporation yn hedfan i’r digwyddiad o’r Unol Daleithiau, ac mae yntau’n edrych ymlaen yn fawr at weld pa ddanteithion Cymreig fydd ar gael:

“Mae Cymru’n gwneud enw rhyngwladol iddi ei hun fel cyrchfan bwyd o’r radd flaenaf gyda digonedd o gynhyrchwyr o safon. Ar fy ymweliad â BlasCymru/TasteWales byddaf yn chwilio am gynhyrchion newydd ac arloesol, a bydd hefyd yn gyfle rhagorol i greu partneriaethau newydd, a’r cyfan dan yr un to.”

Share this page

Print this page