Manteisiodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, ar y cyfle heddiw i longyfarch cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru am sicrhau statws Enw Bwyd wedi’u Hamddiffyn (PFN) yr UE.

Mewn digwyddiad yn Neuadd Fwyd Sioe Frenhinol Cymru heddiw, cyflwynwyd placiau llechi Cymreig i ddathlu eu statws PFN i bedwar cynnyrch, sef PGI i Gig Oen Cymru, PGI i Gig Eidion Cymru, PGI i Dato Cynnar Sir Benfro a PDO i Halen Môn

Meddai’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, “Hoffem longyfarch y cynhyrchwyr sydd wedi ennill statws PFN yr UE ar gyfer eu cynnyrch.

“Rydym wrthi’n helpu cynhyrchwyr Cymru i chwilio am gyfleoedd i sicrhau statws PFN neu GI yr UE.  Mae ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy’, ein cynllun gweithredu ar gyfer bwyd a diod, yn ein hymrwymo i weithio gyda busnesau i fanteisio’n llawn ar bob cyfle sydd ar gael i gynhyrchwyr.  Rwy’n disgwyl ymlaen at weld mwy o gynnyrch yn ennill y statws yn y dyfodol agos.”

Dengys ymchwil ddiweddar bod y pedwar cynnyrch PFN o Gymru wedi cynyddu eu gwerth yn fawr ers cael y statws.  Mae busnesau’r pedwar wedi elwa o ddefnyddio statws PFN fel erfyn marchnata ar gyfer y farchnad Brydeinig ac yn enwedig i’w helpu i gipio a chadw marchnadoedd allforio.  Yn ogystal, mae PFN yn cynnig amddiffyniad cyfreithiol rhag camddefnydd, copïo a thwyll.

Dechreuodd y cynllun Enwau Bwyd wedi’u Hamddiffyn yn Ewrop yn 1993 i amddiffyn bwyd a diod ar sail daearyddol neu rysáit.  Mae amrywiaeth eang o gynnyrch wedi’u hamddiffyn. Ar hyn o bryd mae 1260 o Enwau wedi’u hamddiffyn mewn 27 o ddosbarthiadau cynnyrch gwahanol ac mae tua 200 o gynnyrch wrthi’n destun cais a/neu’n cael eu cyhoeddi.  Yng Nghymru, mae 18 o gynnyrch wrthi ym mhroses y PFN gan gynnwys 7 sydd yn y cam cyflwyno i’r UE. 

Share this page

Print this page