Mae deuddeg cwmni yn cynrychioli diwydiant bwyd a diod Cymru yn paratoi i ymweld â Gwlad Belg a’r Iseldiroedd y mis nesaf i geisio datblygu cyfleoedd masnachu ac allforio newydd.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, cynhelir Ymweliad Datblygu Masnach â Brwsel ac Utrecht rhwng 6-9 Chwefror 2017.
Gan edrych ymlaen at yr ymweliad, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AC:
“Mae gennym ddiwydiant bwyd a diod llwyddiannus ac amrywiol yma yng Nghymru, a nifer fawr o gynhyrchwyr, yn fach a mawr, yn amrywio o gynhyrchwyr gwlad traddodiadol fu’n ennill eu bywoliaeth o’r tir am genedlaethau, ynghyd â nifer o gynhyrchwyr newydd sy’n llawn syniadau da o bob math.
“Mae Cymru’n prysur ennill enw da iawn am gynhyrchu cynhyrchion arloesol o’r ansawdd uchaf, yma a thramor. Mae gennym uchelgais pendant i dyfu’r diwydiant yng Nghymru 30% i £7 biliwn erbyn y flwyddyn 2020 trwy weithio mewn partneriaeth â’r diwydiant.
“Rydym yn falch iawn o allu arddangos peth o’r bwyd a diod arbenigol mwyaf cyffrous o Gymru ym mis Chwefror pan fydd grŵp o gynhyrchwyr yn cael profiad o farchnadoedd newydd drostynt eu hunain ac yn adeiladu rhagor o gysylltiadau gyda busnesau rhyngwladol.”
Bydd deuddeg cynrychiolydd yn ymweld â Gwlad Belg a’r Iseldiroedd yn amrywio o gig, melysion, ac o gynnyrch llaeth i lysieuol, bwydydd heb-gynnwys a chwmnïau bragu.
Nod yr ymweliad masnach yw helpu allforwyr newydd a phrofiadol trwy gynnig golwg bersonol a chysylltiadau masnachol ym marchnadoedd Gwlad Belg a’r Iseldiroedd mewn dwy farchnad bwysig a hawdd cael mynediad iddynt.
Mae KK Fine Foods Plc a Thew Arnott & Co Ltd yn mynd ar Ymweliad Datblygu Masnach am y tro cyntaf.
Mae Jeremy Flashman, Rheolwr Datblygu Busnes KK Fine Foods, cynhyrchwyr prydau cig, pysgod a llysieuol o ansawdd uchel, yn gweld yr ymweliad masnach hwn yn gyfle perffaith i ehangu eu busnes i’r farchnad allforio,
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at fynd ar yr Ymweliad Datblygu Masnach hwn i Wlad Belg a’r Iseldiroedd diolch i’r gefnogaeth a roddwyd inni gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn awyddus i ehangu a dechrau allforio ein cynnyrch ac mae marchnad allforio Gwlad Belg a’r Iseldiroedd yn garreg sarn berffaith i’n helpu i gael peth profiad yn y maes. Mae’n cynnig cyfle gwych inni gyfarfod â phrynwyr allweddol a chasglu cyngor ar hyd y ffordd er mwyn ennill contractau cadarn i roi hwb i hyder a gwerthiannau.”
Ychwanegodd Nick Hewitt, Cynhyrchydd Gwerthiant Ewropeaidd, o Thew Arnott & Co Ltd, cyflenwyr dewis o gynhwysion arbenigol ar gyfer melysion a bwyd,
“Rydym yn croesawu’r gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cynyddu ein gwybodaeth a’n helpu i fesur y potensial mewn marchnadoedd allforio ar gyfer ein cynhwysion melysion. Trwy’r cymorth hwn gallwn fynd ar ymweliadau masnach fel hwn a chael cyfle i hyrwyddo ein cynhyrchion i gynulleidfa arall, ac un ryngwladol yn y fargen. Mae’n gyfle gwych ac yn un yr ydym yn gynhyrfus iawn yn ei gylch.”
Mae Gwlad Belg a’r Iseldiroedd yn y 5 marchnad allforio uchaf ar gyfer bwyd a diod o Gymru. Maen nhw’n cynnig cyfleoedd gwych, yn enwedig ar gyfer byrbrydau, cynnyrch llaeth, bwydydd hwylus a chynhyrchion gweini bwyd gourmet, ac mae cryn ddiddordeb mewn cwrw a seidr crefft yn Yr Iseldiroedd. Mae’r sectorau bwyta ac yfed yn iach, heb-gynnwys a naturiol yn y ddwy farchnad yn arbennig o gryf.
Mae’r cwmni halen môn arobryn o’r Gogledd, Halen Môn, yn frand byd-eang cyfarwydd ac mae hwythau hefyd yn mynd ar yr ymweliad masnach. Mae’r Cyfarwyddydd Gwerthiant, Alison Lea-Wilson yn deall gwerth edrych ar farchnadoedd allforio newydd,
“Mae Halen Môn yn frand eiconig cyfarwydd ledled y byd, ond rydym yn dal i gredu mewn ehangu i farchnadoedd newydd. Mae’r ymweliad masnach â Gwlad Belg a’r Iseldiroedd y mis nesaf yn rhoi’r cyfle inni gyfarfod â phrynwyr posib a hyrwyddo manteision unigryw pwysig bwyd a diod o Gymru i gynulleidfa newydd.”
Yn ystod yr ymweliad pedwar diwrnod bydd y cwmnïau’n cael cyfle hefyd i arddangos cynhyrchion i brynwyr dethol yn y ddwy wlad yn ogystal â datblygu busnes newydd trwy gyfres o esboniadau marchnad, ymweliadau â siopau a derbyniad cwrdd â’r prynwyr/arddangos a rhwydweithio masnach ym Mhreswylfan Llysgennad Prydain ym Mrwsel.