Bwyd & Diod Cymru – Stondinau: N150, P150 & P160 yn Neuadd 6

Mae nifer fawr o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynd i’r arddangosfa fasnach bwyd a diod fwyaf ac uchaf ei pharch yng ngwledydd Prydain. Bydd mwy na 1200 o arddangoswyr yn bresennol yn Expo Bwyd & Diod yn Birmingham y mis nesaf (18-20 Ebrill 2016), oll yn gobeithio dod o hyd i brynwyr a dosbarthwyr newydd.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd Stondin Bwyd a Diod Cymru eleni yn cynnwys 35 o gwmnïau fydd oll yn gobeithio arddangos eu danteithion blasus a chadarnhau lle Cymru ar y map bwyd.

Mae Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd, yn credu ei bod yn bwysig i fwyd a diod o Gymru gael eu gweld yn y digwyddiad hwn,

“Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn galluogi cynhyrchwyr i fynd i ddigwyddiadau fel Expo Bwyd & Diod ac mae’n rhoi cyfle ardderchog iddynt ryngweithio’n uniongyrchol â phrynwyr a dosbarthwyr ac arddangos y gorau o Gymru.”

“Mae sector bwyd a diod o Gymru yn chwarae rôl o bwys yn economi Cymru ac mae gennym dargedau uchelgeisiol i dyfu gwerthiannau yn y diwydiant 30% i £7biliwn erbyn y flwyddyn 2020.”

Mae’r cynhyrchwyr o Gymru fydd yn arddangos yn cynnwys Patchwork Pâté, Halen Môn, Snowdonia Cheese, Clark’s UK, Cradoc’s Savoury Biscuits a Princes Gate Spring Water. Bydd nifer o gynhyrchwyr hefyd yn arddangos yn rhan o Arddangosfa Bwyd a Diod Cymru, gan gynnwys enillydd Gwobr Fforch Aur Great Taste 2015, Apple County Cider.

Wrth sôn am y cyfle i fod yn rhan o Arddangosfa Bwyd & Diod Cymru, dywedodd y perchennog Stephanie Culpin o Apple County Cider yn Sir Fynwy,

“Mae arddangos mewn digwyddiadau o bwys fel Expo Bwyd & Diod yn rhoi cyfle inni siarad yn bersonol â phrynwyr ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn hwb inni wrth inni geisio symud y busnes yn ei flaen.

“Roedd ennill y Wobr Fforch Aur yng Ngwobrau Great Taste y llynedd yn gamp anhygoel inni ac roedd yn bendant yn hwb fawr. Rydym eisiau parhau i amlygu ansawdd gwych ein cynhyrchion yn ogystal â hyrwyddo rhagoriaeth y bwyd a diod sydd ar gael o Gymru.”

Bydd Apple County Cider yn cyflwyno nifer o gynhyrchion newydd yn Expo Bwyd & Diod gan gynnwys dau seidr blas ffrwyth newydd – Seidr Go Iawn â Mafon a Seidr Go Iawn â Chuckleberry, ynghyd â Seidr Afal Poeth (lled felys) a Yarlington Mill, seidr pefriog lled felys.

Mae’r cynhyrchion newydd eraill gaiff eu lansio ar Arddangosfa Bwyd a Diod Cymru yn cynnwys cyfres newydd o gacennau a bisgedi, gan gynnwys cynhyrchion di-siwgr gan y Pudding Compartment; Cylchoedd Cnau Cyll Siocled a Meringues Trofannol gan Ooomeringues; pecynnau maint byrbryd newydd gan Cnwc Crackers. Bydd Matt and Ben’s Fudge yn lansio 3 chynnyrch newydd - Pwdin Nadolig, Oren gyda Llugaeron a Port a chyffug Chwisgi Cymreig, y cyfan yn ymddangos ym mhecynnu newydd Matt and Ben’s ar gyfer y Nadolig 2016.

Bydd The Preservation Society o Gas-gwent yn lansio Bangin BBQ Sauce newydd; Blissfully Blackcurrant Jam; Figgy Mostardo (enllyn ffigys & mwstard Eidalaidd) a Lord Lambourne’s Scrumpy Butter with Calvados (cynnyrch tymhorol).

Mae Expo Bwyd & Diod yn ddigwyddiad dwyflynyddol, ac fe’i cynhelir eleni rhwng 18-20 Ebrill 2016 yn yr NEC yn Birmingham, gan gynnull at ei gilydd brynwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau ar draws y diwydiant cyfan, yn cynnwys gwerthwyr bwyd, gwasanaethau bwyd, cyfanwerthu, gweithgynhyrchu a marchnadoedd manwerthu arbenigol, gan gynnig llwybr ardderchog at farchnadoedd i gyflenwyr o wledydd Prydain a thramor.

Cynhelir Expo Bwyd & Diod ar yr un pryd â thair sioe gysylltiol arall – Sioe Siop Fferm & Deli, Foodex a’r Sioe Cyfleustra Cenedlaethol.

Ewch i Stondin Bwyd & Diod Cymru yn Expo Bwyd & Diod – N150, P150 a P160 yn Neuadd 6.

Share this page

Print this page