Bydd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd yn bresennol yn  arddangosfa bwyd môr Brussels Seafood Global EXPO, y digwyddiad masnachu bwyd môr mwyaf yn y byd.
 
 

Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymuno ag wyth o gwmnïau o Gymru, pob un ohonynt yn arddangos bwyd a diod o Gymru, a dros 25,800 o brynwyr o 150 o wledydd.

Dywedodd:

“Rydym yn gwybod bod safon y bwyd a'r diod yng Nghymru cystal â'r gorau yn y byd, ac mae bod yn bresennol mewn digwyddiadau fel y Global Seafood EXPO yn rhoi llwyfan gwych inni hyrwyddo hyn. 

“Mae gan Gymru ystod hynod o gynhyrchwyr bwyd môr arloesol, sy'n enwog yn rhyngwladol, ac sydd â brandiau amlwg ledled y byd oherwydd eu safon uchel a'r dull cynaliadwy o'u cynhrychu.  Mae hyn hefyd yn amlwg yn y nifer o gynnyrch o Gymru sydd â statws enw bwyd wedi'i amddiffyn, megis Halen Môn." 

Mae bod yn bresennol mewn digwyddiadau ym Mhrydain ac yn rhyngwladol yn rhan o uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwerthiant yn sylweddol a chynyddu cyfran y farchnad trwy ychwanegu gwerth, dod i gysylltiad â marchnadoedd newydd ac adeiladu ar farchnadoedd sy'n bodoli eisoes yn y sector bwyd a diod yng Nghymru, fel rhan o'n Cynllun Gweithredu - Tuag at Dwf Cynaliadwy.   

Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog  hefyd rhywfaint o newyddion da yn ddiweddar gan un o'r cwmnïau o Gymru oedd yn bresennol.  

Meddai:

“Mae cynaliadwyedd yn bwysig i Gymru ac mae yn gosod y cyd-destun ar gyfer sut yr ydym yn rheoli ein moroedd a'n stoc pysgod.  Rwy'n falch bod Bangor Mussel Producers yma heddiw, a oedd, yn 2010, y cyntaf yn y byd i gael achrediad y Marine Stewardship Council am ddatblygu pysgodfa cerrig gleision well.

“Mae cwmni arall oedd gyda ni heddiw, Anglesey Aquaculture, wedi derbyn contract yn ddiweddar i fod yr unig gyflenwr draenogod y môr cyfan ac wedi'u ffiledu yn archfarchnadoedd Waitroes ledled Prydain."

Cafodd Anglesey Aquaculture eu gwobrwyo yn ddiweddar gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol am fod â'r lefel uchaf o bysgod oedd wedi'u cynhyrchu'n gynaliadwy.  Mae'r contract gyda Waitrose werth oddeutu £35,000 yr wythnos a bydd yn ychwanegol i werthiant presennol Anglesey Aquacultures o fewn Prydain a'r Amerig.

Share this page

Print this page