Nifer uchaf erioed o gynigion o Gymru yng ngwobrau Great Taste eleni

 

Cynhelir prosesu feirniadu gwobrau mawreddog Great Taste yng ngogledd Cymru eleni yng Ngholeg Llandrillo ger Bae Colwyn rhwng 24-26 Mai 2017.

Bydd llu o chefs, prynwyr, perchnogion bwytai, newyddiadurwyr ac ysgrifenwyr bwyd - gan gynnwys Nigel Barden o’r BBC, Felicity Spector o Channel 4 a’r beirniad bwyd Charles Campion yn dall flasu’r dewis enfawr o gynhyrchion o Gymru sy’n awchu i ennill sêl bendith Great Taste. Ymhlith y beirniaid hefyd fydd cynrychiolwyr o Gymru, gan gynnwys y chef Michelin Gareth Ward o Ynyshir, Machynlleth, Mary Ann Gilchrist, Chef Ymgynghorol yn y Carlton Riverside yn Llanwrtyd, Deiniol ap Dafydd, Cyfarwyddwr Blas ar Fwyd, Rufus Carter o Patchwork Pâté a David ac Alison Lea-Wilson o Halen Môn.

Mae mwy nac erioed o’r blaen o gynigion o  Gymru eleni, a bydd rhaid i’r beirniaid ddewis o blith y cynnyrch gorau posib, sef 516 o gynigion unigol gan 173 o gwmnïau gwahanol o Gymru.

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd & Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC yn bresennol yn y beirniadu ar 25 Mai:

“Mae Cymru’n gynhyrfus iawn am y cyfle i fod yn gartref i’r beirniadu ar gynigion bwyd a diod o Gymru ar gyfer gwobrau Great Taste 2017. Ac mae’n anrhydedd fawr i fod yn  bresennol ar gyfer y beirniadu ar gynnyrch bwyd a diod gorau Cymru.

“Gwyddom oll fod bwyd a diod o Gymru yn cynnig yr ansawdd gorau a bydd y digwyddiad mawreddog hwn nid yn unig yn arddangos yr ansawdd hwnnw, ond bydd hefyd yn amlygu amrywiaeth a blaengaredd ein cynhyrchwyr bwyd a diod. Hoffwn ddymuno’r gorau posib i’r holl gynigion o Gymru.”

Ychwanegodd John Farrand, rheolwr gyfarwyddwr y Guild of Fine Food,

“Mae gennym y nifer uchaf erioed o gynigion yn y Great Taste eleni ac mae hynny’n wych. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad cynyddol cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru i ddarparu’r bwyd a diod gorau posib. Mae achrediad Great Taste yn cynnig llwyfan amhrisiadwy i gynhyrchwyr wrth iddyn nhw chwilio am gyfleoedd i ehangu eu busnesau.”

Er mai campws Coleg Llandrillo (Llandrillo yn Rhos) fydd yn gartref i ddigwyddiad Great Taste Cymru, bydd myfyrwyr y coleg yn cael cyfle hefyd i ddysgu mwy am y diwydiant a chyfarfod â’r beirniaid mewn digwyddiad arbennig a gynhelir ym mwyty newydd Dylan’s Restaurant yn Llandudno.

Gwobrau Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, yw gwobrau bwyd a diod mwyaf a mwyaf dibynadwy y byd, Caiff pob cynnyrch ei ddall flasu gan feirniaid arbenigol sy’n trafod rhagoriaethau pob cynnyrch wrth iddyn nhw chwilio am y sawl sy’n haeddu cael eu coroni a derbyn logo Great Taste.

Ychwanegodd Alison Lea-Wilson, cyd-sylfaenydd Halen Môn ac un o’r beirniaid eleni,

“Mae’n mynd i fod yn gyffrous iawn i ddall flasu’r holl fathau gwahanol o gynhyrchion bwyd a diod. Yr hyn a gawn fel beirniaid yw disgrifiad, y prif gynhwysion a sut mae’n cael ei wneud, ac o hynny ymlaen mae’r cyfan yn  dibynnu ar y blas. I Halen Môn, mae sicrhau sêl bendith Great Taste wedi bod yn llesol iawn i’n busnes ni, ac mae’n hyfryd felly fod y digwyddiad yn dod i’r Gogledd eleni.”

Mae Sioe Pen-ffordd Cymru yn rhan o ymgyrch ehangach gan Lywodraeth Cymru i dyfu sector bwyd a diod y wlad 30% erbyn 2020.

Share this page

Print this page