Cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn gobeithio am fwy o lwyddiant wrth fynychu’r Ffair Bwyd Gorau Arbenigol, prif ddigwyddiad arddangos bwyd gorau arbenigol gwledydd Prydain yn Llundain rhwng 4 i 6 Medi 2016.

Mae’r rhestr fer o enillwyr Great Taste 2016 newydd gael ei chyhoeddi a bydd nifer o’r enillwyr o Gymru yn arddangos yn y Ffair, oll yn gobeithio meithrin perthnasoedd a hybu eu cyfleoedd o sicrhau gwerthiannau newydd.

Eleni bydd nifer o arddangoswyr yn lansio dewis o gynhyrchion newydd, gan gynnwys cyfres sudd ffrwythau newydd Radnor Hills, saws Furious Tomarind a chynnig diweddaraf Halen Môn ‘Magic Dust’.

Ewch i stondinau rhif 1440 / 1430 / 1540 / 1530 yn y Maes Cenedlaethol i gael rhagor o fanylion neu cysylltwch â ni yn delyth@fbagroup.co.uk / 01970 636404


Cynnyrch newydd sy’n cael ei lansio: Fruella (cyfres newydd o sudd ffrwythau)  

Enw’r cwmni: Radnor Hills, Trefyclawdd, Powys

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch:  Mae Radnor Hills yn gwmni diodydd ysgafn teuluol yn Nhrefyclawdd. Fruella yw eu cyfres newydd o sudd ffrwythau! Mae’r gyfres ddiodydd yn llawn lliw ac yn adlewyrchiad da o ethos ‘Blasau Gwych Amdani’ Radnor Hills! Nid yw’r sudd Afal 100% a’r sudd Oren 100% yn cynnwys unrhyw gadwolion, dim ychwanegion, dim siwgr ychwanegol, dim lliwurau – dim ond sudd pur ac un o’ch dognau 5 y dydd cymeradwy. Mae’r gyfres hefyd yn cynnwys nifer o gymysgeddau dau flas lladd syched heb eu hail fel Llugaeron a Mafon, Oren a Moron, Afal a Llus a Throfannol sy’n cynnwys cymysgedd o’r pin afal, granadila, ffrwyth mango a banana gorau!


Cynnyrch newydd sy’n cael ei lansio: Mae’r brand newydd ‘Mags & Jenny’ yn lansio  cyfres newydd o patés esmwyth i ddathlu eu 35ain pen-blwydd yn gynhyrchwyr Pâté gwlad gwreiddiol gwledydd Prydain.

Daw’r 3 paté esmwyth mewn 3 blas: Gwreiddiol - Pâté esmwyth di-laeth gyda brandi; Myglyd - Pâté esmwyth di-laeth gyda dŵr myglyd; Tsili - Pâté esmwyth di-laeth gyda chic tsili

Enw’r cwmni: Patchwork Pâté, Rhuthun

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch: Sefydlwyd Patchwork yn 1982 gan Margaret Carter, cogydd cartref talentog ond heb ei hyfforddi, y bu’n rhaid iddi wynebu ysgariad a gofalu am dri phlentyn. Gyda chost gychwynnol o ddim ond £9.00, a arbedodd o’r arian cadw tŷ, dechreuodd werthu ei phatés cartref i dafarnau yn nhref gyfagos Llangollen. Wrth i Margaret ddenu mwy a mwy o gwsmeriaid ac wrth i’r busnes ddechrau ehangu’n  llwyddiannus, symudodd y busnes o’i chartref yn 1987 i ffatri bwrpasol ynghanol Rhuthun. Er gwaethaf maint masnachol Patchwork erbyn hyn, mae popeth yn  dal i gael ei wneud â llaw mewn sypynnau bychain - heb liwurau, ychwanegion na chadwolion artiffisial – yn ôl ryseitiau gwreiddiol Margaret.


Cynnyrch newydd sy’n cael ei lansio: Furious Tomarind – cyfuniad beiddgar llawn blas o domato a tamarind yn creu gwres tanbaid a blas ffrwydrol.

Enw’r cwmni: Sorai, Y Fenni

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch: Mae Sorai yn fusnes teuluol moesegol sy’n cynhyrchu cynhyrchion sbeislyd o ansawdd sy’n cael eu hysbrydoli gan flasau amrywiol Borneo allai gyfoethogi eich profiad coginio a chiniawa. Gellir defnyddio’r sawsiau yn drochydd, dresin, marinâd ac ar gyfer coginio ac ar hyn o bryd daw mewn lefelau gwres sbeis o ysgafn i berwedig boeth.


Cynnyrch newydd sy’n cael ei lansio: blas brofi cysyniad newydd Olew Had Rêp Blodyn Aur wedi’i fwydo â Shiitake Eryri – olew trochi unigryw sy’n cyfuno blas myglyd, priddiog y Shiitake ac olew had rêp coediog

Enw’r cwmni: Yr Ardd Fadarch, Nantmor, Eryri

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch: Cwmni teuluol o Eryri sy’n arbenigo ar dyfu madarch a chynhyrchu cynhyrchion madarch cyffrous a blaengar.

10 mlynedd yn ôl, penderfynodd Cynan Jones ymchwilio ymhellach i fyd yr oedd wastad wedi ymddiddori ynddo - brenhiniaeth ffwng, gan gychwyn gyda madarch gwyllt Eryri ac yn fuan iawn trodd ei sylw at dyfu madarch egsotig yng Nghymru. Daeth Cynan yn un o brif arbenigwyr Cymru ar ffwng ac mae’n cynnal cyrsiau rheolaidd ar ffwng ynghyd â llwybrau porthianna madarch gwyllt yn Eryri.


Cynnyrch newydd sy’n cael ei lansio: Magic Dust – mae’n isel mewn sodiwm ac yn uchel mewn fitaminau B hanfodol. Mae’n cael ei alw’n Magic Dust gan ei fod yn cyfoethogi bron unrhyw fwyd y taenwch ef arno, ond mae’n gweddu’n arbennig i bopcorn, cyw iâr, porc a thatws (creision, sglodion a thatws rhost)

Enw’r cwmni: Halen Môn

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch: Halen Môn yw’r enw a roddir i naddion halen a gesglir o’r Fenai yn Ynys Môn. Maent yn naddion gwyn, gwastad crisialog sy’n cynnwys mwy na 30 o elfennau hybrin ac nid oes unrhyw ychwanegion ynddynt. Hefyd ar gael  gyda sbeisys organig.


Cynnyrch newydd sy’n cael ei lansio: Hot Samurai Sauce gyda blas tsili – confenyn 'bob dydd' amryddawn o ansawdd sy’n cael ei ysbrydoli gan flasau Siapan

Enw’r cwmni: Authentic Japanese Foods, Castell-nedd

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch: Mae’r cwmni o Gastell-nedd yn darparu bwyd Siapaneaidd ffres ac iachus yn defnyddio’r cynhwysion gorau. Mae eu Samurai Sauce a Hot Samurai Sauce yn amryddawn iawn. Rydym yn argymell ei ddefnyddio gydag eog, cyw iâr, nwdls, pasta, reis a salad. Coginiwch e! Marinadwch e! Trochwch e! BBQ e! Arllwyswch e! Carwch e!


Cynnyrch newydd sy’n cael ei lansio: Apple a Cinnamon Curd; Red Pepper a Chilli Jelly; Gunpowder Mustard Flour Drum; Hot Red Thai Chutney; Drayman's Chutney; Sun Dried Tomato a Garlic Chutney; Spicy Caribbean Chutney; Farmer Jones' Relish; Mini Lemon Curd; Mini Orange Marmalade; Mini Strawberry; Mini Raspberry; Bwcedi Arlwyo 3 Kg: Beetroot Chutney; Spicy Tomato Chutney; Chilli Jam Pail.

Enw’r cwmni: Welsh Lady Preserves, Pwllheli

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch: Cwmni teuluol a enillodd wobrau lu sy’n cynhyrchu cyffeithiau ffrwythau, mwstardau, tsytnis a sawsiau o ansawdd, oll wedi’u gwneud â llaw er 1966. Enillydd dwy wobr Prif Bencampwr yng Ngwobrau Great Taste. Ryseitiau pwrpasol ac wedi’u datblygu gan y teulu ar gael.


Cynnyrch newydd sy’n cael ei lansio: Blueberry & Gin bar - un o’u blasau tymhorol a wneir gyda llus enwog Maenorbŷr a Brecon Special Reserve Gin Penderyn

Enw’r cwmni: NomNom, Llanboidy

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch: Tîm ifanc o ddihirod mewn sied wartheg yng Ngorllewin Cymru sy’n gwneud siocled y tymor. Mae Liam Burgess, crewr diflas o ifanc a braidd yn bert Siocled NomNom wedi cyfuno ei fathau arbennig ef o greadigrwydd ac angerdd i greu ei gyfres o fariau siocled. Dewis bythol newidiol a chynyddol o flasau hyfryd yn defnyddio’r cynhwysion gorau sydd ar gael.


Cynhyrchion newydd sy’n cael eu lansio: Yarlington Mill Medium Sweet Cider and Fruity Summer Ciders NEWYDD (Mafon, Rhiwbob and Chuckleberry)

Enw’r cwmni: Apple County Cider Co

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch: Mae Apple County Cider yn gwneud seidr arobryn o’u perllannau ar fryniau tonnog, toreithiog Sir Fynyw. Blaswch eu dewis o seidrau, oll wedi’u gwneud gyda 100% sudd wedi’i wasgu’n ffres - a’i drawsnewid yn naturiol trwy ychwanegu burum gwneuthurwyr gwin, amynedd ac amser. Enillydd Fforch Aur (Great Taste) o Gymru 2015 am eu Vilberie Medium Dry Cider.


Ewch i stondinau rhif 1440 / 1430 / 1540 / 1530 yn y Maes Cenedlaethol i gael rhagor o fanylion neu cysylltwch â ni yn delyth@fbagroup.co.uk / 01970 636404