Jam Cyrens Duon Organig Cymreig Coedcanlas o Sir Benfro’n ennill y brif wobr ranbarthol yng Ngwobrau Fforc Aur Great Taste 2017
Mae’r cynhyrchydd bwyd artisan Coedcanlas yn dathlu ar ôl sicrhau un o wobrau mwyaf nodedig y diwydiant bwyd a diod. Cynhaliwyd y Gwobrau Great Taste, a elwir yn Oscars y byd bwyd, yn Llundain neithiwr a chyflwynwyd y Fforc Aur o Gymru i Jam Cyrens Duon Organig Cymreig y cwmni o Sir Benfro.
O blith y pum cynnyrch o Gymru a dderbyniodd y ganmoliaeth uchaf, sef 3 seren aur yng Ngwobrau Great Taste 2017, dyfarnwyd y Fforc Aur o Gymru i Coedcanlas.
Cydnabyddir mai Gwobrau’r Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, yw’r meincnod ar gyfer y sector bwyd a diod arbenigol. Yng ngwobrau eleni, dyfarnwyd 3 seren i Coedcanlas am eu Jam Cyrens Duon Organig Cymreig, yn ogystal ag 1 seren am eu Cacen Olew Olewydd, Rhosmari a Lemwn.
Nick ac Annette Tonkin yw perchnogion Coedcanlas, cwmni cynhyrchu bwyd artisan yng Nghilgeti, Sir Benfro. Mae ganddynt tua 90 o gychod gwenyn pren ger glan ddwyreiniol y foryd yn Aberdaugleddau, gan fagu eu gwenyn yn null traddodiadol y teulu i sicrhau cychod cryf ac iach. Yn ogystal â chynhyrchu mêl yn yr haf, maent hefyd yn cynhyrchu marmaled, surop masarn ac Olew Olewydd Sisiliaidd organig, sy’n cael ei ddefnyddio yn eu cacennau.
Ysbrydolwyd Jam Cyrens Duon Organig Cymreig Coedcanlas, oedd hefyd ar y rhestr o 50 o Fwydydd Gorau’r Great Taste, gan rysáit o Rwsia, a chydiodd y jam hwn, sydd “â blas mwy, set dda ac yn debyg i em” yn nychymyg y beirniaid gyda’i ymddangosiad gloyw melfedaidd a’i arogl cyfoethog. Mae gan gyrens duon sydd wedi’u coginio’n berffaith ansawdd da a blas cryf, bywiog wrth iddyn nhw ffrwydro yn y geg.
Mae Nick Tonkin o Coedcanlas yn hynod o falch o’u llwyddiant,
“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’n llwyddiant yn Great Taste eleni – mae cael tair seren ar gyfer ein jam cyrens duon ac un seren ar gyfer y gacen Olew Olewydd, Rhosmari a Lemwn yn gyflawniad anferthol, ond mae cael ein henwi’n Fforc Aur o Gymru yn anhygoel!
“Yn Coedcanlas rydyn ni’n gofalu ein bod yn dod i adnabod ein tyfwyr a’r cynhwysion rydyn ni’n eu cyrchu, gan ddefnyddio’r dulliau symlaf i grisialu llawnder a ffresni’r ffrwythau. Dyma hanfod ein busnes.”
Gan longyfarch Coedcanlas ar eu llwyddiant yng Ngwobrau Great Taste, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,
“Hoffwn longyfarch Coedcanlas ar eu llwyddiant yng Ngwobrau’r Great Taste. Mae’n wych gweld cynhyrchwyr bach yn gwneud cystal, a chael eu cydnabod am y gwaith caled a’r ymrwymiad maen nhw’n ei roi i greu cynhyrchion o ansawdd uchel. Dylen nhw fod yn falch iawn a dymunaf bob llwyddiant wrth iddyn nhw barhau i wneud cynnydd.
“Mae diwydiant bwyd a diod Cymru’n rhan hanfodol o’r economi ac mae gweld cynifer o gynhyrchion o bob rhan o Gymru’n cael eu cydnabod yn y gwobrau hyn yn profi bod gan fwyd a diod o Gymru enw da haeddiannol am ansawdd a blas.”
Roedd cyfanswm rhyfeddol o 165 o gynhyrchion o Gymru’n fuddugol yng ngwobrau Great Taste eleni, gyda 121 o gynhyrchion yn ennill 1 seren, 39 yn cael 2 seren a phum cynnyrch yn cael eu barnu’n deilwng o dair seren.
Ceir rhestr lawn o ganlyniadau ar wefan Gwobrau Great Taste
Mae rhestr lawn o enillwyr Cymru i'w gweld yma.
I gael rhagor o wybodaeth am Coedcanlas cliciwch yma.