Cyfeirir at Wobrau Great Taste fel Oscars y byd bwyd, ac fe’u cynhaliwyd yn Llundain neithiwr. Cyflwynwyd Gwobr Treftadaeth Nigel Barden Great Taste i’r cwmni o Gaersws, Hilltop Honey, am eu Mêl Teim Crai oedd eisoes wedi ennill 3 seren Great Taste.
Crëwyd y wobr, a gyflwynir bob blwyddyn i gynhyrchydd sy’n defnyddio dulliau hanesyddol, bridiau prin neu amrywiaethau ffrwythau a llysiau treftadaeth, er mwyn annog a gwobrwyo cynhyrchwyr bwyd sy’n dathlu ac yn cynnal cyflasau a nodweddion traddodiadol.
Mae’r Mêl Teim Crai yn boblogaidd oherwydd ei arogl blodeuog hyfryd a’i flas perlysieuol cryf. Mae iddo ôl-flas hir ac fe’i disgrifiwyd yn ddiweddar gan gyflwynydd radio BBC2 fel “y mêl gorau i mi ei flasu erioed.”
Mae’n fêl golau a chain iawn, gyda’r beirniaid yn ei ddisgrifio fel “arogl eithriadol sy’n trosi ar unwaith i’r tafod gyda lefelau syfrdanol o fenthol - mae dyfnder y cyflas, sy’n cyferbynnu â’r disgleirdeb yn hynod. Fel cerdded drwy gae o deim a meillion. Rhagorol.”
Mae Hilltop Honey hefyd wedi ennill sêr gan Great Taste am eu mêl Crai Yucatan, eu mêl Crai Blodau Oren a’u mêl Crai Grug yr Alban, sydd wedi derbyn 1 seren yr un.
Sefydlwyd Hilltop Honey yn 2011 pan ddechreuodd Scott Davies gadw gwenyn yng ngardd gefn tŷ ei rieni yn y Drenewydd. Bellach yn ei bumed flwyddyn, mae Hilltop Honey yn cyflogi naw staff llawn amser, ac yn gwerthu mêl crai i brif frandiau’r stryd fawr a chwsmeriaid ar-lein ac yn ddiweddar mae wedi sicrhau eu harcheb fwyaf hyd yma i gyflenwi tri o’u cynhyrchion ansawdd uchel i 340 o siopau Sainsbury’s.
Mae’r Cyfarwyddwr Rheoli Scott yn hynod o falch o’u llwyddiant:
“O blith 10,000 o gynhyrchion a gyflwynwyd ar gyfer gwobrau Great Taste ar draws y DU, dim ond 141 a enillodd dair seren felly roedd yn dipyn o gyflawniad i ni gyrraedd y fath safon. Mae ennill gwobr arall eto’n eisin ar y gacen – allen ni ddim bod yn fwy balch.”
Wrth longyfarch Hilltop Honey ar y llwyddiant, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths AC, yn teimlo bod hyn yn adlewyrchu cryfder y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru:
“Hoffwn longyfarch Hilltop Honey yn gynnes ar eu llwyddiant diweddaraf yng ngwobrau Great Taste, dylen nhw fod yn falch o’r hyn maen nhw’n ei gyflawni a hoffwn ddymuno’r gorau iddyn nhw wrth iddyn nhw symud ymlaen â’u busnes rhagorol.
Mae’r diwydiant bwyd a diod yn rhan hanfodol o’r economi a gydag ymrwymiad a gwaith caled gallwn weld gwir botensial i gael cynnydd o 30% mewn trosiant erbyn 2020 a chyflawni ein targed uchelgeisiol.”
Mêl crai yw mêl ar ei fwyaf amrwd, yn syth o’r cwch gwenyn a heb ei basteureiddio. Mewn mêl crai ceir nodweddion gwrth-firysol, gwrthfacteria a gwrthlidiol naturiol ac mae’n cynnwys yr holl fitaminau, mwynau ac ensymau sydd eu hangen arnoch.
Mae Hilltop Honey yn cynnig dewis eang o fêl crai gyda 4 mêl crai organig, 3 mêl â blas gwahanol, 3 chynnyrch diliau mêl a 6 mêl y byd fel rhan o gyfres mêl arbenigol.
Ar ôl treblu trosiant y llynedd, mae, Hilltop Honey yn debygol o sicrhau twf o 200% eleni, sy’n gorfodi’r cwmni i chwilio am gartref mwy o faint a mwy o gyflenwyr mêl ar draws y DU ac Ewrop.
Trefnir Great Taste gan y Guild of Fine Food, a dyma’r meincnod cydnabyddedig ar gyfer bwyd a diod o safon. Mae paneli gyda thros 400 o feirniaid arbenigol, gan gynnwys awduron bwyd sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, yn profi’r cynhyrchion yn ddall. Dyfernir cymeradwyaeth i fwydydd a diodydd o safon ragorol sy’n amrywio o un seren ‘cwbl ddanteithiol’, i ddwy seren ‘eithriadol’ hyd at dair seren sy’n cynrychioli ‘wow – rhaid i chi flasu hwn!’
Roedd cyfanswm o 125 o gynhyrchion buddugol o bob rhan o Gymru yng ngwobrau Great Taste eleni, gyda 96 o geisiadau’n ennill 1 seren, 26 yn cael 2 seren a thri’n cael eu pennu’n deilwng o 3 seren, sy’n profi bod enw da haeddiannol gan fwyd a diod ledled Cymru am ansawdd a blas.