Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd gan Lywodraeth Cymru Lolfa Fusnes yn y Neuadd Fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru rhwng 20 a 23 Gorffennaf 2015.
Yn y Lolfa, bydd modd cael rhagflas o gynnyrch 68 cwmni fydd yn arddangos eu cynnyrch eleni yn Neuadd Fwyd y Sioe Frenhinol. Bydd cyfle hefyd i gael gweld cynhyrchion bwyd a diod rhagorol eraill o Gymru yn y lolfa hon sydd wedi’i neilltuo ar gyfer prynwyr masnachol a manwerthwyr mawr. Bydd yna dros 200 o fwydydd a diodydd yn cael eu harddangos yno.
Dywedodd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd: “Mae Neuadd Fwyd y Sioe Frenhinol yn lle y maen rhaid i bobl fynd i ymweld ag e. Mae’n llwyfan rhagorol i’n cynhyrchwyr bwyd a diod ac mae’n amlwg ei fod yn boblogaidd iawn gan fod cymaint o bobl yn ymweld ag e yn ystod y Sioe. Mae Lolfa Fusnes Llywodraeth Cymru yn ychwanegu at lwyddiant y Neuadd Fwyd. Mae hwn yn gyfle gwych i ddangos y bwydydd a’r diodydd rhagorol i gynhyrchwyr pwysig ac yn y pen draws, cynyddu busnes ein cynhyrchwyr.”
Bydd gan y prynwyr fydd yn mynd i’r Sioe gyfle i gwrdd â rhai cynhyrchwyr wyneb yn wyneb i drafod eu cynhyrchion. Bydd amrywiaeth o gategorïau bwyd a diod yn cael eu harddangos gan gynnwys y canlynol:
- Cwrw, seidr, gwin a gwirodydd
- Diodydd meddal
- Cynnyrch llaeth
- Hufen iâ
- Jam a phicls
- Cynnyrch wedi’i bobi
- Cig gan gynnwys charcuterie
- Pysgod a bwyd y môr
- Bwydydd deiet arbennig
- Pethau melys
- Cynhyrchion tymhorol
Aeth Rebecca Evans ymlaen: “Y llynedd, llwyddwyd i greu dros £300,000 o fusnes yn y Lolfa Fusnes; gobeithio y bydd yr un peth yn digwydd eleni. Bydd dros 100 o brynwyr yn dod i’r digwyddiad gan gynrychioli 70 o fusnesau. Bydd hyn yn ein helpu ymhellach i dyfu’r diwydiant yng Nghymru 30% fel yr ydym wedi’i nodi yn ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Bwyd a Diod.”