Bydd bwyd a diod o Gymru yn cael sylw mawr yn un o arddangosfeydd rhyngwladol mwyaf y byd yr wythnos hon, wrth i ddirprwyaeth o Lywodraeth Cymru ymweld â'r Milan Expo 2015.

 

Bydd Bwyd a Diod  Cymru yn yr Expo rhwng 4 a'r 8 Mai, a bydd yn cynnwys arddangosfa i hyrwyddo ein cynnyrch gwych, gan addysgu'r gynulleidfa am ei hanes, ei darddiad a'i werth i economi Cymru.  

 

Meddai Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, "Mae'n bwysig i Gymru fod  yn rhan o ddigwyddiadau byd-eang fel Milan Expo. Mae hwn yn blatfform gwych i ddangos i'r byd yr hyn yr ydyn ni'n ei gynhyrchu yma yng Nghymru, a sut yr ydym yn gweithio gyda'n diwydiant i ddatblygu'r sector yn gynaliadwy. 

 

“Dwi'n falch ein bod wedi gallu helpu cynifer o'n busnesau bwyd dawnus o Gymru i fod yn bresennol, a dwi'n edrych ymlaen at glywed yr ymateb i'n cynnyrch gwych o Gymru.”

 

Mae'r Milan Expo, rhan o'r gyfres Universal Exposition, yn rhedeg o'r 1 Mai i 31 Hydref 2015, ac mae ganddo'r thema graidd o 'Fwydo'r Blaned, Ynni i Fyw'.  Dros y cyfnod o chwe mis, bydd Milan yn arddangos dros 140 o wledydd, pob un ohonynt â'r nod o ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bwyd iach, diogel a digonol i bawb, tra'n parchu'r blaned a'i chytbwysedd.  

 

Yn ogystal â'r gwledydd fydd yn arddangos, mae'r Expo hefyd yn arddangos sefydliadau rhyngwladol fel y CU, ac mae'n disgwyl croesawu dros 20 miliwn o ymwelwyr i'w 1.1 metr sgwâr o ardal arddangos. 

Mae ein presenoldeb yn Milan, a'r digwyddiad pwysig hwn, yn rhoi'r cyfle inni hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd-eang yn ogystal â tharddiad ein cynnyrch, a fydd yn helpu i gynyddu gwerthiant a datblygu ein busnesau bwyd, fel a amlinellir yn ein Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod.  

Share this page

Print this page