Bydd prynwyr bwyd a diod ledled y byd yn cael blas newydd ar Gymru heddiw mewn digwyddiad sydd wedi’i gynllunio i helpu cynhyrchwyr o Gymru i gyrraedd marchnadoedd newydd a threfnu cytundebau rhyngwladol yn dilyn Brexit.

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi proffil Cymru yn fyd-eang fel lle gwych i gynnal busnes, mae yn cynnal yr arddangosfa fwyaf erioed o’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, gan ddod â chynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant bwyd a diod ynghyd o fewn Gwesty’r Celtic Manor. 

Mae’r digwyddiad deuddydd Blas ar Gymru yn croesawu dros 50 o brynwyr o wledydd ledled y byd, gan gynnwys y Dwyrain Pell, y Dwyrain Canol, Gogledd America ac Ewrop, dros 100 o brynwyr o’r DU a dros 100 o gynhyrchwyr o Gymru.   

Mae cyfleoedd i Gyfarfod y Prynwr yn y digwyddiad, ble y gall brynwyr dylanwadol o’r DU a gweddill y byd gyfarfod â chynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru i edrych ar y posibilrwydd o gydweithio a darganfod marchnadoedd newydd.  

Bydd Ardal Sgiliau a Busnesau Arloesi ar gael hefyd ble y bydd cyfle i weld datblygiadau newydd a dysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i fusnesau yn y sector.   

Mae bwyd a diod yn un o’r sectorau mwyaf yng Nghymru, yn cyflogi dros 223,000 o bobl ac yn werth dros £17 biliwn i’r economi yng Nghymru bob blwyddyn. 

Mae allforion y sector wedi tyfu 95% yn y ddegawd ddiwethaf ac maent yn parhau i dyfu, cynnydd o 13% yn ystod chwe mis diwethaf 2016 o gymharu â’r un amser yn 2015. 

Wrth drafod cyn digwyddiad Blas ar Gymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates:  

“Rydym yn hynod falch o’n bwyd a’n diod o ac yn cydnabod gwerth enfawr hyn i’n heconomi.  Mae bwyd a diod yn sector sy’n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a dyna pam ein bod wedi gosod targed uchelgeisiol i ddatblygu’r sector 30% erbyn 2020.  

“Mae allofrion bwyd a diod wedi datblygu’n sylweddol ac rwy’n awyddus i weld hyn yn parhau.  Mae cyfnod heriol o’n blaenau wrth inni lywio ein ffordd tuag at ddyfodol y tu allan i’r UE, yn enwedig o ystyried bod bron 90% o’n hallforion bwyd a diod yn dod o du allan i’r UE.  Rydym yn parhau i alw am fynediad llawn dilyffethair i’r farchnad sengl, cais sydd wedi ei ail-adrodd dro ar ôl tro mewn trafodaethau gyda cynrychiolwyr y diwydiant.

“Fodd bynnag, yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr UE, mae bellach yn bwysicach nac erioed ein bod yn hyrwyddo’r gorau un o’r hyn sydd gan y diwydiant bwyd a diod i’w gynnig, ac yn parhau i fod yn rhan o farchnadoedd byd-eang.  Mae digwyddiad heddiw yn rhan o’n hymateb i oresgyn heriau’r dyfodol, ac mae’n gyfle cyffrous i gynhyrchwyr o Gymru drefnu cytundebau newydd gyda phrynwyr amlwg a dylanwadol.”