Mae rhai o brif fusnesau bwyd môr Cymru wedi croesi’r Môr Celtaidd yr wythnos hon gyda’r bwriad o ddysgu ffyrdd newydd o gynyddu faint o bysgod maen nhw’n eu dal ac ychwanegu at eu helw. Mae’r ymweliad tri diwrnod ag Iwerddon (23-26 Mai), a drefnwyd yn rhan o Glwstwr Bwyd Môr Llywodraeth Cymru, yn gobeithio rhoi sylw i’r arloesi sydd i’w weld ar hyn o bryd ym marchnad bwyd môr Iwerddon ac ystyried sut ellid atgynhyrchu hynny yma yng Nghymru.

Yn ystod yr ymweliad bydd cynrychiolwyr yn dysgu mwy am sut mae’r diwydiant yn Iwerddon yn llwyddo cynnal ei hun adref a thramor ac yn cael golwg ddyfnach ar ddulliau ffermio a dal pysgod yn Iwerddon.

Un o’r rhai fydd ar yr ymweliad yw Mandy Walters o gwmni teuluol Cardigan Bay Fish, a fu’n dal a phrosesu pysgod a chregynbysgod am bron i ddau ddegawd, “Mae ymweld ag Iwerddon yng nghwmni busnesau bwyd môr tebyg inni yn rhoi cyfle unigryw i gyfarfod a thrafod gyda busnesau eraill yn y diwydiant. Trwy ddysgu technegau a syniadau newydd mae’r ymweliad yn ehangu ein gorwelion wrth inni chwilio am gyfleoedd newydd. Mae’r Clwstwr Bwyd Môr a sefydlwyd y llynedd yn syniad gwych ac os yw’n cael pobl i siarad, gweithio a rhannu syniadau mae’n sicr yn mynd i fod o les.”

Mae Clwstwr Bwyd Môr Cymru yn rhan o Raglen Datblygu Busnes Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi cefnogaeth unigol i helpu busnesau pysgodfeydd yng Nghymru i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy.

Un busnes sy’n gobeithio cael syniadau blaengar newydd o’r ymweliad yw Richard Williams o WM Shellfish Ltd yng Nghaergybi, “Rydan ni’n gynhyrfus iawn o fod yn rhan o’r daith yma, ac ymweliad â’r Ganolfan Datblygu Bwyd Môr yn enwedig, sef canolfan arloesi bwrpasol ar gyfer y diwydiant - rhywbeth nad yw gennym yng Nghymru. Rydw i’n siŵr y bydd yn daith addysgiadol a defnyddiol iawn ac y bydd yn creu cysylltiadau ar gyfer cyfleoedd busnes i’r dyfodol.”

Yn ystod y daith, bydd y grŵp yn ymweld hefyd â Chanolfan Datblygu Bwyd Môr Bord Iascaigh Mhara, cyfleuster newydd sbon sy’n helpu busnesau i dyfu, ychwanegu arlwy gynaliadwy, gystadleuol, broffidiol, gwerth ychwanegol sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid. Bydd cynrychiolwyr hefyd yn ymweld â fflyd cregyn gleision yn Harbwr Wexford, yn ymweld â fflyd cregyn bylchog/corgimychiaid leol, ffatri prosesu cregyn bysgod a fferm wystrys.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio croesawu grŵp o bysgotwyr o Iwerddon yn ôl i ymweld â Chymru cyn  bo hir.

Cynhelir ymweliad Clwstwr Bwyd Môr Cymru ag Iwerddon rhwng 23-26 Mai 2016.

Share this page

Print this page