Yn dilyn llwyddiant gorau erioed Cymru ym mhrif wobrau’r diwydiant yng ngwledydd Prydain, y Gwobrau Great Taste. Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru wedi cyhoeddi eu bwriad i lansio, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Glwstwr Bwyd Gwych er mwyn creu rhwydwaith o lysgenhadon bwyd o’r un anian ar gyfer y diwydiant.

Bydd y cynlluniau, a gyhoeddir yn rhan o ddathliadau Great Taste ym Mae Caerdydd ar ddydd Mawrth y 10fed Tachwedd, yn cynnwys datblygu pecyn tyfu busnes – fydd yn rhoi cefnogaeth ar faterion yn amrywio o sgiliau masnachol i gynllunio busnes. Prif amcan y clwstwr yn 2016 fydd sicrhau bod Cymru yn datblygu ac yn adeiladu ymhellach ar gynhyrchwyr arobryn o’r ansawdd a welwyd yng ngwobrau eleni.

Fel rhan o’r lansiad, bydd cynhyrchwyr bwyd a diod a dderbyniodd sêr aur gwerthfawr yn y Gwobrau Great Taste blynyddol, a elwir yn aml yn “Oscars’ y byd bwyd, yn arddangos eu cynhyrchion arobryn yn y Pierhead ym Mae Caerdydd. Bydd y dathliad hefyd yn rhoi cyfle i enillwyr o Gymru gyfarfod â’r prif brynwyr bwyd o’r archfarchnadoedd mwyaf, siopau adrannol moethus, siopau delicatessen arbenigol a’r sector cyhoeddus.

O dan arweiniad Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans AC, trefnir yr arddangosiad gan Bwyd a Diod Cymru - Food and Drink Wales Llywodraeth Cymru, sef yr enw ymbarél a ddefnyddir i hyrwyddo cynnyrch o Gymru gartref a thramor.

Y prif enillwyr eleni oedd Apple County Cider, cwmni o Sir Fynwy a dderbyniodd y tair seren Aur werthfawr am eu Vilberie Medium Dry Cider a chwmni cynhyrchion llaeth o Ben-y-bont ar Ogwr Tŷ Tanglwyst am eu Menyn wedi’i Halltu.

Wrth gyfeirio at y Clwstwr Bwyd Gwych, dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd, Rebecca Evans AC: “Yn dilyn ein llwyddiant mwyaf erioed y llynedd mae lansio’r Clwstwr Bwyd Gwych heddiw yn gweddu’n dda iawn gyda strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru i feithrin Cymru yn ardal rhagoriaeth bwyd, boed hynny gan gynhyrchwyr gwlad neu gwmnïau sydd erbyn hyn yn cynhyrchu a dosbarthu ar raddfa fawr. Rwyf yn meddwl yn aml sut roedd gan enwau cyfarwydd o Rachel’s i Halen Môn awydd i ragori o’r cychwyn a gafodd ei wobrwyo gan ddefnyddwyr trwy eu twf cyflym. Gwyddom oll pa mor uchel yw ansawdd bwyd a diod o Gymru ac mae lansio’r clwstwr hwn yn ceisio atgyfnerthu’r seiliau hyn ymhellach trwy ddarparu rhwydwaith o lysgenhadon bwyd o’r un anian ar gyfer y diwydiant.”

Dywed John Farrand, Rheolwr Gyfarwyddwr y Guild of Fine Food, trefnwyr y Gwobrau Great Taste, fod y digwyddiad yn llwyfan pwysig i gynhyrchwyr o Gymru:  “Mae’r arddangosiad blynyddol hwn a drefnir gan Bwyd a Diod Cymru yn dathlu llwyddiant llawer o’r cynhyrchwyr o Gymru a dderbyniodd y sêr Great Taste gwerthfawr ac rwyf yn canmol arloesed ac ansawdd y cynhyrchwyr hyn. Hoffwn hefyd annog mwy o gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru i roi cynnig ar Great Taste 2016; i ddefnyddio’r cyfleoedd marchnata gwerthfawr y mae achrediad Great Taste yn eu cynnig, ac i adeiladu proffil cynnyrch o Gymru i gynulleidfa fyd-eang y gwyddom sy’n awyddus i brynu o blith y rhestr o sêr Great Taste.”

Aeth cyfanswm clodwiw o 174 o sêr Great Taste gwerthfawr i gynhyrchion o Gymru eleni, ac enillodd 122 cynnig 1-seren, cafodd 42 2-seren ac roedd deg yn cael eu hystyried yn deilwng o gydnabyddiaeth 3-seren. Gwelwyd cynnydd o 25% yn nifer y cynigion o Gymru yng nghystadleuaeth eleni, yn codi o 99 cwmni yn cynnig 374 o gynhyrchion yn 2014 i 143 cwmni yn cynnig 491 o gynhyrchion i’w hystyried yn 2015.  

Cafodd 10 cynnyrch y gydnabyddiaeth uchaf o dair seren aur. Golyga un seren “Agos at berffaith”, ystyr dwy seren yw “Difai” a rhoddir y gydnabyddiaeth tair seren uchaf ar gyfer cynnyrch sy’n gwneud i’r beirniaid ddweud “Waw, mae’n rhaid ichi flasu hwn”.

Derbyniodd Apple County Cider, cwmni o Sir Fynwy dair seren am eu Vilberie Medium Dry Cider yn ogystal ag ennill gwobr y Fforc Aur o Gymru. Dywedodd y perchnogion Ben a Steph Culpin, “Mae hon yn gamp wych inni ac yn dyst i’r holl waith caled oedd yn rhan o gynhyrchu ein cynnyrch. Mae cael Gwobr Great Taste yn golygu llawer gan eu bod yn cael eu beirniadu gan y chefs, y perchnogion bwytai a’r beirniaid bwyd gorau sy’n credu’n angerddol mewn ansawdd a blas. Roedd cael tair seren yn anhygoel ond roedd ennill gwobr Cymru gyfan hefyd – dyna oedd yr eisin ar y gacen inni!”

Enillodd Tŷ Tanglwyst, fferm deuluol draddodiadol Gymreig yn y Pil, ger Pen-y-bont ar Ogwr, dair seren ynghyd â gwobr bwysig y Nigel Barden Heritage Award am eu Menyn wedi’i Halltu.

Meddai Rhys Lougher o Tŷ Tanglwyst Dairy, “Rydym wrth ein boddau i ennill y wobr bwysig hon yng Ngwobrau Great Taste. Rydym yn falch iawn o’n cynhyrchion ac yn angerddol am sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael cynnyrch o ansawdd uchel.”

Trefnir y Gwobrau Great Taste gan y Guild of Fine Food ac maent ymhlith y cynlluniau gwobrau blasu bwyd yn ddall mwyaf yn y byd. Mae’r sêr aur yn feincnod cydnabyddedig ar gyfer bwyd a diod arbenigol.

Mae’n rhaid i enillwyr teilwng fynd trwy broses o brofion trylwyr gan 400 o feirniaid uchel eu parch yn y diwydiant i ennill eu 1, 2 neu 3 seren aur Great Taste. Mae beirniaid yn profi cynhyrchion yn ddall i sicrhau bod y cynllun hwn yn seiliedig ar ddim ond ‘Blas Gwych’.

Share this page

Print this page