Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu un o brif arddangosfeydd bwyd y byd ym Mharis, Salon International de l’Alimentation (SIAL), rhwng 16-20 Hydref 2016.

Bydd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn gofalu am 15 cwmni o Gymru ar draws y sector, oll yn awyddus i archwilio marchnadoedd newydd, cadw cysylltiad â thueddiadau ac arloesiadau a datblygu cysylltiadau â phrynwyr tramor.

Eleni bydd nifer o arddangoswyr yn lansio nifer o gynhyrchion newydd, gan gynnwys cyfres newydd o suddion ffrwythau, sbeis crwybr tsili i Gymysgwyr Naturiol.


Nimbus Foods

Y cynnyrch newydd a lansir - Jelly Dots Blackcurrant (jeli pectin a ddatblygwyd yn arbennig ar gyfer y diwydiant hufen ia i’w gadw’n feddal wrth ei ddefnyddio pan mae jelis cyffredin sy’n cynnwys  pectin a gelatin yn caledu). Teisenni Berffro gyda chaen o siocled golau a chaen aur antique (a ddefnyddir yn y diwydiant pobi yn addurn cacennau diwydiannol). Crwybr tsili (cynhwysyn sbeislyd gwahanol sy’n cyfuno blasau melys/safri mewn hufen ia a phwdinau rhew fel cacen gaws  crwybr tsili).

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch - mae Nimbus yn un o’r cynhyrchwyr cynhwysion ac addurniadau mwyaf llwyddiannus a blaengar yn Ewrop ar gyfer y diwydiannau hufen ia, llaeth, pobi, bisgedi a melysion. Maent wedi tyfu eu busnes allforio ers iddynt ddechrau arddangos gyda Llywodraeth Cymru ac erbyn hyn mae hynny’n cynrychioli 25% o’u busnes, ond yn 2014 nid oedd ond yn 15%.


Radnor Hills

Y cynnyrch newydd a lansir- Fruella, cyfres o suddion a chymysgeddau sudd 100% mewn chwe blas (oren, afal, oren a moron, llugaeron a mafon, afal a llus, trofannol) mewn poteli PET 400ml. Mae hefyd yn cynhyrchu cyfresi tetra newydd – Tetra Fruella, Tetra Fruella Hydrate a Tetra Fruits. Mae’r diodydd hyn yn y cartonau tetra prism hwylus yn adlewyrchu ansawdd ac amrywiaeth y blasau sydd ar gael yn eu cyfresi PET mwy traddodiadol ond maent yn cynnig cyfleustra ychwanegol carton tetra prism ysgafn, hawdd gafael yno.

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch -  mae Radnor Hills yn gwmni teuluol sy’n cynhyrchu diodydd ysgafn yn Nhrefyclawdd. Mae gan ddŵr mwynol Radnor Hills ddelwedd newydd sbon gyda photel arbennig Radnor ag addurn draig. Mae eu dŵr mwynol clir, naturiol yn adlewyrchiad perffaith o’u treftadaeth Gymreig.

Bydd Radnor Hills hefyd yn arddangos eu cyfres pressé Heartsease Farm boblogaidd y bu’n ei chynhyrchu ers pedair blynedd erbyn hyn. Mae’r gyfres hon yn cynnig diod flasus iawn i oedolion gyda phefr ysgafn sy’n cymysgu eu dŵr mwynol gyda’r ffrwythau a’r rhiniau gorau o gefn gwlad. Ymhlith y gwerthwyr gorau eleni mae pressé Ysgawen Heartsease Farm, Fiery Ginger Beer a lemonêd Mafon.  Mae’r diodydd yn ddiod ysgafn hyfryd i oedolion ond maent hefyd yn ychwanegiad heb eu hail mewn coctels.


Lovemore Free From Foods (Welsh Hills Bakery)

Y cynnyrch newydd a lansir - lansiad meddal brandio newydd bywiog Lovemore Free From Foods yn cynnwys pecynnu newydd ar draws eu cyfres gyfan o bwdinau di glwten.

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch - am 60 mlynedd bu’r pobydd hwn yn Aberdâr yn pobi cacennau, pasteiod a thartenni blasus, ac am y 15 mlynedd diwethaf maent wedi canolbwyntio ar bwdinau yn rhydd o glwten, llaeth a gwenith. A hwythau wedi cychwyn yn 1956 yn bopty teuluol yn cyflenwi bara o ddrws i ddrws bob dydd oedd hefyd yn gadael i’r cymdogion goginio eu tyrcwn yn y ffyrnau bara ar fore Nadolig, erbyn hyn mae’r ffatri bwrpasol flaenllaw yn dosbarthu stoc i fanwerthwyr mawr dros y byd i gyd.


Bridgehead Food Partners

Y cynnyrch newydd a lansir - mae brand newydd ‘The Cheese Creators’ yn dod â nifer o gynhyrchwyr caws bychain at ei gilydd ac yn arddangos eu cawsiau gwlad hyfryd i siopwyr sydd wrth eu boddau gyda chawsiau o’r ansawdd gorau. Mae Conwy Traddodiadol o Stad Bodnant yn y Gogledd a Chaerffili Traddodiadol gan Caws Cenarth yn Sir Benfro yn ddau yn unig o’r nifer fawr o gawsiau Cymreig sydd ar gael o dan y brand newydd hwn.

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch - mae Bridgehead Food Partners yn arbenigo mewn cawsiau blaengar ac arbenigol o wledydd Prydain. Mae’r cwmni’n ymfalchïo eu bod yn arloeswyr yn y diwydiant caws, a’u bod yn datblygu brandiau newydd cyffrous sy’n targedu anghenion grwpiau gwahanol o ddefnyddwyr yn ofalus.


Llanllyr SOURCE

Y cynnyrch newydd a lansir - cymysgwyr naturiol premiwm newydd. Mae’r blasau’n cynnwys Lemwn Sur, Cwrw Sinsir, Lemonêd, Cwrw Sinsir Twym, Tonig Ysgafn, Soda Clwb a Dŵr Tonig. Defnyddir cynhwysion naturiol a dŵr mwynol premiwm yn unig. Gellir eu cymysgu neu eu hyfed ar eu pen eu hunain.

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch - mae Llanllyr SOURCE yn cynhyrchu cyfres o ddiodydd dŵr mwynol a chymysgwyr coctel gwahanol o ysgafn mewn poteli gwydr a enillodd nifer o wobrau. Fe’u gwneir allan o ddŵr ffynnon pur a dynnwyd allan o diroedd organig wedi’u rheoli’n gynaliadwy yn Llanllŷr, Cymru.


Plas Farm

Y cynnyrch newydd a lansir - byddant yn arddangos eu cynhyrchion iogwrt rhew (Froxen). Mae eu hiogwrt rhew yn isel mewn braster, yn cynnwys llai o siwgr na hufen ia, mae’n cynnwys ffibr a chaiff ei wneud allan o gynhwysion naturiol yn unig. Bydd eu cynnyrch Coconyt Rhew Froxen yn cael ei arddangos eleni yn Netholiad Blaengaredd SIAL.

Disgrifiad byr o’r cwmni/cynnyrch: Sefydlwyd Plas Farm yn 1986 a thyfodd i fod yn brif gynhyrchwyr iogwrt rhew gwledydd Prydain, gan gynhyrchu’r iogyrtiau rhew dim braster a phwdinau rhew arbenigol gorau ar y farchnad.


Dewch i’n gweld ni a’n cynhyrchwyr yn stondinau:

Y Neuadd Ryngwladol – NEUADD 2 - Bloc E Stondin Rhif  2J016

Y Neuadd Ddiodydd - NEUADD 5C - Stondin Rhif  5CF090

Y Neuadd Laeth – NEUADD 7 - Stondin Rhif 7B119

 

Am ragor o fanylion cysylltwch â delyth.davies@four.cymru neu ffoniwch 01970 636404.