Perai Traddodiadol o Gymru a Seidr Traddodiadol o Gymru yw'r cynnyrch diweddaraf o Gymru i ennill statws gwarchodedig  y Comisiwn Ewropeaidd.

Maen nhw’n ymuno â chynnyrch gwych eraill o Gymru megis Bara Lawr, Cig Oen o Gymru a Halen Môn, sydd wedi cael eu cydnabod ac wedi ennill statws gwarchodedig rhag cael eu copïo a’u camddefnyddio.
 
Mae Perai Traddodiadol o Gymru a Seidr Traddodiadol o Gymru yn cael eu gwarchod gan statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Ewropeaidd a fydd yn sicrhau i gwsmeriaid eu bod yn yfed cynnyrch o Gymru. 
 
Traditional Welsh perry
Traditional Welsh cider
 
Mae 14 cynnyrch o Gymru wedi ennill statws gwarchodedig. Yr anrhydedd i Berai Traddodiadol o Gymru a Seidr Traddodiadol o Gymru yw mai nhw yw'r diodydd cyntaf o Gymru i gael statws PGI. 
 
Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu Cymdeithas Perai a Seidr  Cymru yn ystod y  broses ymgeisio gymhleth a hir. 
 
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
 
"Rwy'n hapus iawn mai'r bwyd a diod diweddaraf o Gymru i ennill statws gwarchodedig yw Perai Traddodiadol o Gymru a Seidr Traddodiadol o Gymru. 
 
"Dyma ragor o dystiolaeth o lwyddiant sector bwyd a diod Cymru ac effeithiolrwydd ein strategaeth i'w gefnogi. Rydym yn prysur ennill enw da am ddatblygu cynnyrch unigryw o ansawdd da ac mae'r diwydiant eisoes fwy na hanner ffordd at gyrraedd ein targed o dwf o 30% rhwng 2014 a 2020. 
 
“Mae cydnabyddiaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd yn bwysig gan ei bod yn arwydd o ansawdd cynnyrch  Cymru wrth inni ymdrechu i gyrraedd marchnadoedd newydd er mwyn ehangu'r diwydiant a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd."
 
Diodydd sy'n ail ennill eu plwyf yw Perai Traddodiadol o Gymru a Seidr Traddodiadol o Gymru.  Roedden nhw'n cael eu cynhyrchu'n bennaf ar ffermydd gan ddefnyddio gellyg ac afalau o berllannoedd gerllaw i'w hyfed yn yr ardal. Mae adfywiad y diodydd yn seiliedig ar gynhyrchwyr artisanaidd yn ailddarganfod ac yn adfer hen berllannoedd a phlannu perllannoedd newydd. 
Meddai Sally Perks, Cadeirydd WPCS: 
 
"Mae Cymdeithas Perai a Seidr Cymru ar ben eu digon gyda'r newyddion hyn a'r gydnabyddiaeth bod Perai Traddodiadol o Gymru a Seidr Traddodiadol o Gymru yn gynnyrch unigryw. Mae'n anferth o hwb i wneuthurwyr seidr sydd am weld eu cynnyrch yn cael eu cydnabod ledled Prydain a thu hwnt." 

Share this page

Print this page