Lansio cynnyrch newydd i fynd i’r afael â llesgedd ymhlith pobl hŷn


Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru unwaith eto’n flaenllaw mewn arddangosfa bwysig yn Llundain, Food Matters Live, yn arddangos cynhyrchion newydd, y datblygiadau diweddaraf ac yn profi unwaith yn rhagor fod arloesi ac ansawdd yn ganolog i’r chwyldro bwyd a diod yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi 12 cwmni i arddangos yn Food Matters Live. Dywedodd Lesley Griffiths AC, yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

“Mae bwyd a diod yn sector blaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.  Rydym yn cefnogi’r diwydiant i ddatblygu a symud i gyfeiriadau newydd addawol, gan ddefnyddio technoleg newydd a’r diweddaraf o ran ymchwil a datblygu.

 “Mae ein cynllun gweithredu ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020’ yn cyflwyno ein gobaith i dyfu gwerthiannau yn y sector gan 30% i £7 biliwn erbyn 2020 a chodi proffil bwyd a diod o Gymru ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Food Matters Live yn llwyfan pwysig i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, a gwyddom o brofiad blaenorol y caiff y cwmnïau sy’n rhan o’r digwyddiad lwyddiant o fod yn rhan ohono.

Bydd Plas Farm, cwmni o Ynys Môn a dyfodd i fod y cwmni cynhyrchu iogwrt rhew mwyaf yng ngwledydd Prydain, yn datgelu eu cynnyrch iogwrt rhew/hufen ia protein uchel, egni uchel newydd sy’n anelu at helpu pobl sydd mewn perygl o ddioddef llesgedd i gael ffynhonnell wedi’i gyfoethogi o brotein mewn ffordd flasus a chyfleus.

Mae’r bwyd arloesol newydd hwn, a grëwyd trwy gydweithio â chlwstwr NutriWales a’r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni, yn argoeli dod yn ffynhonnell maeth pwysig i gleifion sydd ar wella a phobl oedrannus all fod yn ei chael yn anodd bwyta ffynonellau mwy traddodiadol o brotein fel cig, pysgod a chaws.

Wrth gyfeirio at y cynnyrch newydd cyffrous hwn, dywedodd Cyfarwyddydd Datblygu Busnes Plas Farm, Rhian Williams:

“Mae protein yn rhan hanfodol o ddiet cytbwys, ond gwyddom y gall fod yn anodd i bobl oedrannus a phobl yn gwella o salwch fwyta digon o fwyd i fynd i’r afael â llesgedd. Argymhellwyd y dylai’r GIG ychwanegu cynhyrchion protein uchel ac egni uchel at eu bwydlenni arferol, ond yn aml iawn nid yw pobl yn hoffi’r bwydydd hyn. Credwn y bydd ein hiogwrt rhew a hufen ia yn helpu cleifion i wella’n gynt ac yn helpu mynd i’r afael â llesgedd mewn pobl oedrannus.

“Rydym wedi cydweithio â maethegwyr blaenllaw ar y cynnyrch hwn fel ei fod yn cynnwys lefelau uchel o brotein a maetholion hanfodol eraill, ond sydd hefyd yn dal i gynnig y profiad blas anhygoel y mae cwsmeriaid wedi dod i’w ddisgwyl gan fwydydd Plas Farm."

Mae Plas Farm ymhlith deuddeg cwmni bwyd a diod arall o Gymru sy’n dod at ei gilydd am y drydedd flwyddyn yn olynol yn Food Matters Live, Llundain, oll yn gobeithio dangos sut mae Cymru’n magu hyder wrth greu cynhyrchion bwyd newydd sy’n apelio at ddefnyddwyr sy’n rhoi mwy a mwy o bwys ar iechyd.

Cwmni arall sy’n paratoi i lansio cynnyrch yn Food Matters Live yw Lovemore Free From Foods o Aberdâr, sy’n rhan o Welsh Hills Bakery. Bydd y cwmni, sy’n canolbwyntio’n llwyr ar gynhyrchion sy’n rhydd o glwten, gwenith a llaeth, yn datgelu ei frandio bywiog newydd sbon fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y dewis llawn o bwdinau di glwten.

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr Welsh Hills Bakery, Peter Douglass, yn esbonio:

“Erbyn hyn caiff cynhyrchion Lovemore eu gwerthu ledled y byd ac fe gynlluniwyd ein hunaniaeth brand newydd a chyffrous i Lovemore er mwyn cadarnhau ein safle yn un o arweinwyr y farchnad ‘ddi glwten’. Roeddem yn awyddus i greu brand fyddai’n ein gosod ar wahân i’n cystadleuwyr, a bydd y golwg newydd hwn yn ei gwneud yn haws i gwsmeriaid ddarganfod y gyfres ddi glwten, gwenith a llaeth. Mae ein pwdinau di glwten yn blasu’n wych, ond erbyn hyn bydd y cynnyrch yn edrych yn ddeniadol iawn hefyd.”

Mae’r newyddion da’n parhau i gwmni cynhyrchu bwyd o Gymru Brighter Foods gyda’u cynnyrch diweddaraf, Wild Trail. Mae eu bariau ffrwythau a chnau sy’n rhydd o glwten, llaeth a siwgr coeth yn cael eu gwneud gyda dim mwy na 5 cynhwysyn syml a naturiol.

Wedi i’r gyfres gael ei gosod ar restr genedlaethol Tesco ar ddiwedd Gorffennaf, cafodd bar Seed and Nut Wild Trail ei roi ar restr fer categori byrbryd melys y Gwobrau Bwyd o Ansawdd Dewis Da eleni.

Dywed sylfaenydd Brighter Foods Robin Williams ei bod yn foment wych arall i Wild Trail:

“Yn Brighter Foods rydym yn ymfalchïo yn ein harloesi ac mae’n wych gweld ein cynhyrchion Wild Trail cyntaf yn cael eu gwerthu mewn siopau Tesco ac yn cael eu cydnabod gan y Gwobrau Bwyd o Ansawdd. Inni, hanfod Wild Trail yw defnyddio cynhwysion syml er mwyn rhoi bar blasus a maethlon gytbwys i gwsmeriaid sy’n rhoi pwys ar eu hiechyd, ac rydym felly wrth ein boddau o gael ein cydnabod ar gyfer y wobr hon”.

Cynhelir Food Matters Live yn ExCeL yn Llundain rhwng 22 i 24 Tachwedd 2016, a dyma’r unig ddigwyddiad rhwydweithio traws-sector sy’n dod â mwy na 600 o fudiadau bwyd a diod  a gweithwyr proffesiynol blaenllaw at ei gilydd o nifer fawr o feysydd gwahanol, yn amrywio o fanwerthu i faeth a gweithgynhyrchu i ofal iechyd, fel y gall cydweithio ac arloesi gefnogi a chynnal tirwedd bwyd cynaliadwy i’r dyfodol.

Meddai Michael Costain, Cyfarwyddwr Food Matters Live:

“Gan fod disgwyl i 15,000 o ymwelwyr fod yn bresennol, mae Food Matters Live yn tyfu’n gyflym i fod y lle gorau i fanwerthwyr, prynwyr a chynhyrchwyr ddarganfod y cynhyrchion a’r arloesiadau diweddaraf sy’n ffurfio’r dyfodol i fwyd a diod . Rydym yn falch iawn o fod yn croesawu cymaint o gwmnïau o Gymru, oll yn awyddus i ddangos sut mae arloesi yn arwain at ddarparu ystod eang o gynhyrchion bwyd a diod  sy’n well ichi o ran iechyd a maeth.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal digwyddiad Arloesi Bwyd rhanbarthol yn eu swyddfeydd yn Abertawe ar 10 Hydref 2016 fydd yn cynnig llwyfan ardderchog i’r cynhyrchwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer Food Matters Live.”

Bydd 12 busnes Cymreig yn bresennol eleni o dan faner Cymru/Wales, gan gyflwyno cynhyrchion sy’n amrywio o gacennau di glwten, bwydydd soia maethlon a byrbrydau Indiaidd llysieuol.

Cafodd y cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru a fu’n arddangos yn nigwyddiad y llynedd gryn lwyddiant, gan sicrhau budd masnachol o fwy na £700K a rhai’n ennill cytundebau gyda siopau fel Sainsbury’s a Tesco.