Mae Llywodraeth Cymru a Heathrow Airport Ltd (HAL) yn eich gwahodd i gofrestru am Uwchgynhadledd Fusnes gyntaf i gysylltu busnesau o Gymru â chyfleoedd yng nghadwyn gyflenwi un o feysydd awyr prysura’r byd. Bydd yr Uwchgynhadledd yn cynnig cyfleoedd newydd i dyfu ar lefel leol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Yn ystod y digwyddiad, trefnir cyfarfodydd un-i-un i chi gyda busnesau a rheolwyr caffael yn y gadwyn gyflenwi, gan roi cyfle i’ch busnes ennill contractau o fewn y gadwyn gyflenwi sy’n gwasanaethu Heathrow ac o bosib ei gynlluniau i ehangu.

Heathrow Business Summit

Yn 2014/15, gwariodd y Maes Awyr fwy na £1.3bn ar brosiectau caffael ond dim ond 0.2% o hwnnw a wariwyd yng Nghymru. Rydym yn siŵr y gallwn gynyddu’r ffigur hwnnw. Mae HAL yn chwilio yn benodol am fusnesau deinamig ac arloesol sydd â’r gallu a’r capasiti i ennill a chynnal contractau mewn Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau, TGCh, Bwyd a Diod, Logisteg, Gweithgynhyrchu, Cyllid, Peiriannu Ymgynghorol a gweithgareddau swyddfa.

Bydd cyfleoedd rhagorol i rwydweithio a chwrdd â busnesau a sefydliadau amrywiol i gasglu gwybodaeth ac i ddysgu am yr help sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru.

Mae’r digwyddiad yn cael eu cynnal ar Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2017 9:30am a 4:00pm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd.

Gwahoddir chi i gyflwyno cais i fynychu drwy lenwi’r ffurflen isod:

Mynegiant o ddiddordeb – Uwchgynhadledd Fusnes Heathrow

Anfonwch eich ffurflen at businessmarketing@wales.gsi.gov.uk

Os mai yng ngogledd Cymru mae eich busnes, efallai y byddai’n haws i chi fynychu’r digwyddiad sy’n cael ei gynnal yn Lerpwl ddydd Iau, 15 Mehefin. Mwy o fanylion yma.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Uwchgynhadledd Fusnes Heathrow.

*Rhaid cadw at y telerau a’r amodau. Heathrow Airport Ltd a’i gyflenwyr fydd yn penderfynu’n derfynol pwy i’w benodi.