Heddiw, mae Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd yn croesawu Cadeirydd newydd a dau Is-gadeirydd i Fwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod.

Sefydlwyd y Bwrdd yn 2014 ac mae’n llais ar gyfer y sector bwyd a diod yng Nghymru. Mae’n rhoi cyfeiriad, yn rhannu gwybodaeth hanfodol ac yn sicrhau bod egwyddorion cynaliadwyedd,  proffidioldeb a diogelwch bwyd yn ganolog i bopeth y mae’r  diwydiant yn ei wneud.

Yn ddiweddar, penderfynodd y cyn-gadeirydd, Robin Jones o Village Bakery i roi’r gorau iddi er mwyn canolbwyntio ar ddatblygu ei fusnes llwyddiannus. Yn dilyn hynny, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog heddiw bod Andy Richardson wedi’i ddewis i olynu Mr Jones a bod dwy rôl newydd wedi’u creu ar gyfer Is-gadeiryddion, er mwyn rhannu’r cyfrifoldeb o arwain y corff hwn sy’n cynrychioli diwydiant allweddol. Yr Is-gadeiryddion yw Justin Scale a David Lloyd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog,

“Hanfod y cynllun Gweithredu Bwyd a Diod yw gweithredu ac mae’n dibynnu ar gydweithio rhwng y llywodraeth a’r diwydiant .

“Mae’n hanfodol bod y Llywodraeth a’r diwydiant yn cymryd cyfrifoldeb ar y cyd a disgwyliaf i’r Bwrdd gydweithio’n agos â ni, a chyda busnesau, i greu twf a swyddi ym mhob rhan o Gymru.  

“Y diwydiant bwyd a diod yw un o’n sectorau busnes mwyaf. Mae’n cyflogi  dros 170,000 o bobl. Mae helpu’r diwydiant i ddatblygu ac i symud mewn cyfeiriadau newydd, positif yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Ein nod yw gweld gwerthiant y sector yn cynyddu 30% erbyn 2020 gan gyrraedd £7 biliwn.”

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae gan y sector ffermio a bwyd drosiant o £5.8 biliwn. Golyga hynny ein bod eisoes wedi sicrhau twf o 11.5% ers 2012-13.

Dywedodd Andy Richardson, Pennaeth Materion Corfforaethol Volac a Chadeirydd ein Partneriaeth Arwain Llaeth i Gymru,

“Rydw i’n falch cael bod yn Gadeirydd Bwrdd Bwyd a Diod Cymru. Bydd ein gwaith yn anodd ond rydw i’n ffyddiog, wrth inni gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a’r diwydiant yn ehangach,  y bydd y Bwrdd yn sicrhau bod Bwyd a Diod Cymru yn cynyddu ei effaith ar y marchnadoedd domestig a rhyngwladol ynghyd â’i gyfraniad at economi Cymru.”

Cafodd Justin Scale, Rheolwr Gyfarwyddwr Capestone Organic Poultry Limited , a David Lloyd  Cyfarwyddwr, Canolfan Diwydiant Bwyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd eu hethol gan aelodau fel yr Is-Gadeiryddion newydd. Maen nhw’n dod â phrofiad o weithio yn y Diwydiant Bwyd a Diod.

Share this page

Print this page